Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Lansio ymgyrch i ddod ag un dyn i Gymru

Awst 6, 2011 10:40, Diweddarwyd am 16:23


Bydd Piers yn gwylio gêm Cymru a Lloegr heddiw
Mae Croeso Cymru wedi galw ar bobl y wlad i helpu yn yr ymdrech i ddod ag un dyn i Gymru yr haf hwn.

Heddiw, bydd Piers Bramhall yn deffro i sŵn côr meibion yn canu anthem Cymru y tu allan i’w fflat yn Llundain.

Wedyn, bydd pen-cogydd o Gymru, Bryn Williams, yn benthyg ei gegin er mwyn coginio brecwast iddo, a bydd Joanna Page yn ei weini.

Wedi hynny, aiff Piers ati i ddysgu’r anthem ar ei ffordd i gêm rygbi Cymru a Lloegr yn Twickenham lle caiff ei groesawu gan Gymry enwog.

Dyw hwn ddim yn ddiwrnod arferol i Piers, yr heliwr pennau sydd wedi cael ei hela ei hunan yn annisgwyl a’i daflu i sylw’r cyhoedd, fel rhan o ymgyrch farchnata Croeso Cymru eleni.

Mae’n rhan o ymgyrch fawr gan Croreso Cymru er mwyn annog  Piers Bramhall i ymweld â Chymru.

Y gobaith yw y bydd Piers yn dod i Gymru am wythnos o wyliau ym mis Medi. Caiff ei ffilmio ar gyfer yr hysbyseb deledu Croeso Cymru newydd a fydd yn lansio ym mis Ionawr.

Os ydyn nhw’n llwyddo i’w argyhoeddi, y cyhoedd yng Nghymru fydd yn gyfrifol am ddweud wrtho ble i fynd, beth i’w weld a’i wneud a lle i fwyta.

Mae tudalen Facebook wedi’i chreu yn www.facebook.com/visitwales lle gall pobl adael negeseuon, clipiau fideo neu luniau i Piers a’i bartner, Emma.

“Pobl Cymru sy’n adnabod ac yn caru’r wlad ac sy’n gwybod beth sy’n gwneud Cymru yn lle mor rhagorol i fynd ar wyliau,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

“Rydyn ni am ichi awgrymu lleoedd i Piers ymweld â nhw yn ystod ei daith. Rydyn ni am i Piers wybod pa mor arbennig y gall Cymru fod, ac rydyn ni am i chi ddweud wrtho.”

Ynglŷn â’r dyn ei hun, Piers

Cafodd ei eni ar 15 Mehefin 1984.

Mae’n dod o Marlow, Buckinghamshire.

Mae’n byw yn Ealing.

Mae’n gweithio fel Heliwr Pennau yn Bank.

Astudiodd fioleg ym Mhrifysgol Caeredin.

Mae ei deulu’n cynnwys tad, mam a brawd hŷn, Russell.

Mae’n dwlu ar hen gerddoriaeth roc – Guns n Roses ac ati.

Y 2 brif fand yr hoffai eu gweld yn fyw yw AC/DC a Metallica.

Mae’n DWLU ar gaws.

Mae’n well ganddo win coch na gwin gwyn.

Mae wedi bod i Gymru am gwpl o nosweithiau allan yng Nghaerdydd. Ond dyna fe.

Mae’n mynd ar wyliau diogi fel arfer – aeth e i Dwrci ar ei wyliau diwethaf lle’r oedd ei fwyd a’i ddiod wedi’i gynnwys yn y pris.

Amserlen Pers ar ddydd Sadwrn 6 Awst

8.15 am Y Côr yn dechrau canu y tu allan i dŷ Piers

8.20 Joanna Page (Stacey o Gavin and Stacey) yn cyflwyno’r gwahoddiad i Piers

8.30 Y sesiwn Luniau

9.00 Brecwast

1015 Teithio i Twickenham

1230 Kelly Jones yn cyrraedd am ginio yn Twickenham

1500 Lansio’r dudalen Facebook yn swyddogol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dafydd Ch , Awst 6, 2011 1:40 pm

Biti na fuasen nhw’n rhoi’r un sylw i Gymry – yn arbennig, ie’r hen hen gwyn, Cymry Cymraeg.

§

Dafydd , Awst 6, 2011 8:39 pm

Se ni’n Sais……y lle diwetha’ y byddwn i’n mynd ar wyliau bydde Cymru…..lle y bydd yn cyfarfod a lot o…..wel…..Saeson. Yn eironig, mae Cymru ‘nawr yn troi i mewn i beth mae’r Sais yn ceision dianc rhagddo….cymaint ohonynt sydd yma ar wyliau, yn byw, yn gwiethio, ac yn rhedeg busnesau yn enwedig y rhai sy’n ymwneud a thwristiaeth. Lledaenwch y neges.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.