
Bydd gwirfoddolwyr ysbyty Gwynedd yn cynnal protest heddiw dros frechdanau’r caffi yno.
Mae elusen WRVS sy’n cynnal y caffi wedi penderfynu archebu’r brechdanau gan gwmni Ginsters yn hytrach na’r cwmni lleol oedd yn arfer eu creu.
Yn ôl gwirfoddolwr sydd wedi bod yn gweithio yn yr ysbyty ers 15 mlynedd bellach, bwriad y brotest yw dangos “cryfder y teimlad” yn erbyn penderfyniad WRVS.
“Does dim cwynion o gwbl wedi bod am frechdanau Menai Deli. Mae eu safon nhw’n uchel iawn,” meddai Enid Davies, sy’n byw yn Nhalybont ger Bangor.
“Mae pawb yn eu mwynhau nhw ac maen nhw’n cyrraedd yn ffres bob dydd.
“Dydyn ni ddim yn cael protestio ar dir yr ysbyty, mae’n rhaid i’r brotest ddigwydd wrth arwydd Ysbyty Gwynedd,” meddai wedyn.
“Rydan ni eisiau dangos ein bod ni’n teimlo’n gryf am benderfyniad WRVS. Mae pobl leol yn mynd i golli gwaith o ganlyniad i hyn.
“Beth maen nhw eisiau wneud yw canoli popeth, ond drwy wneud hynny dyw’r gymuned ddim yn cael unrhyw fudd.
“Rydyn ni’n pryderu mai dyma’r dechrau ac y bydd cwmnïoedd lleol eraill yn ei chael hi nesaf,” meddai cyn dweud bod Siwgr a Sbeis a Blas ar Fwyd hefyd yn darparu cynnyrch.
“Rydw i’n gwirfoddoli, ond nid er lles WRVS ond yr ysbyty a phobol yr ardal,” meddai. “Dw i’n gobeithio y byddwn nhw’n newid eu meddyliau ond dydw i ddim yn credu y byddwn nhw.”
Ymateb
Mewn datganiad dywedodd elusen y WRVS eu bod nhw yn “deall bod y penderfyniad i symud i gyflenwr cenedlaethol yn mynd i gael goblygiadau negyddol ar lefel leol”.
“Fodd bynnag, mae’n benderfyniad sydd wedi ei ystyried yn ofalus, er mwyn cynnal y gwaith da a gwasanaethau a ddarperir gan WRVS yng Ngogledd Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Ginsters am nifer o flynyddoedd ac yn gwerthfawrogi ansawdd eu safonau hylendid uchel, amrywiaeth y cynnyrch, a’r pecynnu ecogyfeillgar.
“Bydd brand brechdanau WRVS yn helpu i gynhyrchu refeniw ychwanegol i ni drwy helpu i ledaenu’r gwaith hanfodol a wneir gan yr elusen drwy hyrwyddo gwirfoddoli a rhoddion ar bob un o becynnau’r brechdanau.
“Mae gan Ginsters hefyd gynlluniau i agor swyddfa werthiant bach yng Ngogledd Cymru gan ddarparu gwasanaeth lleol i’r ardal a chyflogi pobl leol.
“Newid cyflenwr yng ngogledd Cymru yw’r cam olaf yn y broses hon. Mae Ginsters eisoes wedi disodli pymtheg cyflenwr arall ar draws y Deyrnas Unedig.”
Menai Deli…
Dywedodd perchennog Menai Deli, Wyn Williams, wrth Golwg360 y bydd chwech o staff y cwmni’n colli’u gwaith o ganlyniad i benderfyniad WRVS.
Mae Menai Deli wedi bod yn paratoi brechdanau ar gyfer y caffi ers 20 mlynedd.
“Roedd yna gyfarfod cyhoeddus ddydd Gwener ddiwethaf ac roedd y rheolwyr i gyd o Gaerdydd, Surrey a Chaeredin wedi dweud nad oedd dim troi nôl,” meddai cyn dweud mai Ysbyty Gwynedd yw cwsmer mwyaf Menai Deli.
“Roedd chwech o staff a dyna’r cwbl oedden nhw’n wneud bob bore o chwech y bore tan hanner awr wedi naw – gweithio ar gynnyrch Ysbyty Gwynedd,” meddai cyn dweud bod y chwech bellach wedi cael gwybod eu bod nhw am golli eu swyddi.
“Fe fyddwn ni i lawr o 10 o staff i bedwar. Mae gennym ni siop ar y stryd fawr yn Borth a dim ond pedwar ar ôl.
“Yr unig beth fedrwn ni ei wneud am y ddau neu dri mis mesaf yw gweld sut mae pethau’n mynd a gweld os yw’r siop ar ei ben ei hun yn ddigon i’n cadw ni i fynd.
“Does gennym ni ddim siawns o gystadlu yn erbyn Ginsters. Hogiau bach ydan ni, maen nhw’n hogiau mawr iawn. Fedrwn ni fforddio.”
Mae’r deli wedi cael cefnogaeth “anhygoel” gan bobl leol, meddai. Eisoes, mae dros 1,400 wedi ymuno â’r grŵp Facebook Brechdanau Lleol i Ysbyty Gwynedd.
Bydd Menai Deli yn rhoi’r gorau i gyflenwi brechdanau i’r ysbyty ar 9 Medi.