
Ysbyty Gwynedd
Mae elusen WRVS wedi dweud wrth Golwg 360 y gallai cyflenwyr lleol eraill bwyd Ysbyty Gwynedd golli eu cytundebau.
Maen nhw’n cynnal adolygiad ar hyn o bryd, wedi’r penderfyniad i roi’r gorau i brynu brechdanau’r caffi gan gwmni Menai Deli.
Maen nhw wedi penderfynu prynu’r brechdanau gan gwmni Ginsters yn lle. Bydd chwe aelod staff o gwmni Menai Deli yn colli eu swyddi yn sgil penderfyniad.
“Ar hyn o bryd, mae’r WRVS yn ail edrych ar sawl un o’n cyflenwyr,” meddai llefarydd wrth Golwg 360.
“Hyd nes y bydd y broses honno wedi’i gwblhau allen ni ddim cynnig sylw am gyflenwyr unigol.
“Bydd unrhyw benderfyniad a wnawn er budd cynyddu cyllid sy’n cael ei ail-fuddsoddi yn ein gwasanaeth i bobl hŷn yn yr ardal.”
Ymhlith y busnesau lleol eraill sy’n cyflenwi ar gyfer yr ysbyty mae Siwgr a Sbeis, R and I Jones yng Nghaernarfon a Blas ar Fwyd yn Llanrwst.
Roedd protest y tu allan i’r ysbyty ddoe yn erbyn y penderfyniad i roi’r gorau i brynu brechdanau Menai Deli.
Dywedodd llefarydd ar ran y protestwyr fod rhai ohonyn nhw’n ystyried rhoi’r gorau i wirfoddoli yn y caffi o ganlyniad i’r penderfyniad.
Mae dros 1,400 o bobol wedi ymuno â’r grŵp Facebook Brechdanau Lleol i Ysbyty Gwynedd.
Bydd Menai Deli yn rhoi’r gorau i gyflenwi brechdanau i’r ysbyty ar 9 Medi.
@rhysw1 , Awst 25, 2011 2:43 pm
§