Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Galw ar y Llywodraeth i gymryd y Western Mail

Tachwedd 25, 2011 07:47


Bethan Jenkins
Fe ddylai papur y Western Mail gael ei roi mewn perchnogaeth gyhoeddus a’i droi’n fenter gydweithredol.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad Bethan Jenkins o Blaid Cymru, mae angen meddwl am atebion “gwirioneddol radical” er mwyn achub y wasg yng Nghymru.

Fe fyddai ei hawgrym hi’n golygu bod y Llywodraeth yn dod i’r adwy ac ymyrryd i achub y Western Mail sydd wedi gweld ei gylchrediad yn cwympo i tua 26,000

Mewn blog ar y wefan Wales Home, mae’n dweud fod angen cymryd yr unig bapur dyddiol cenedlaethol yng Nghymru allan o ddwylo cwmni Trinity Mirror.

Mae’n eu cyhuddo o fynd ag elw allan o Gymru a thorri swyddi yr un pryd – roedd yna gyhoeddiad am 14 o ddiswyddiadau ynghynt yr wythnos yma.

‘Gwirioneddol radical’

“Mae’r amser wedi dod i ddechrau meddwl yn radical, yn wirioneddol radical,” meddai Bethan Jenkins.

“Felly beth am ddechrau gydag awgrym – rhoi’r Western Mail mewn perchnogaeth gyhoeddus, gostwng ei bris i ychydig iawn neu ddim, codi ei gylchrediad yng Nghymru yn barod i’w roi’n ôl i fenter gydweithredol, nid-er-elw yn cael ei redeg gan newyddiadurwyr.”

Mewn cyfweliad gyda Radio Wales, fe ddywedodd fod llwyddiant Golwg 360 yn arwydd o’r ffordd ymlaen, gyda’r wefan yn derbyn grant cyhoeddus ond yn parhau hyd braich oddi wrth y Llywodraeth.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Iwan Rhys , Tachwedd 25, 2011 10:46 am

Am syniad ffres a diddorol – da iawn Bethan!

§| Nodi camddefnydd

Efrogwr , Tachwedd 25, 2011 4:48 pm

Ie, mae erthyglau ar WalesHome, Click on Wales ac ati am y cyfrwng yn dueddol i fod yn niwlog iawn o ran gwella pethau. Mae Bethan wedi gwneud awgrym pendant am y ffordd ymlaen.

§| Nodi camddefnydd

John Griffith , Tachwedd 29, 2011 9:04 am

Beth fuasai’r gost i’r trethdalwr?

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.