Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Busnesau – mwy’n cau nag yn agor yng Nghymru

Rhagfyr 6, 2011 10:06


Busnesau - newyddion gwael cyn y Nadolig
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae mwy o fusnesau wedi cau yng ngwledydd Prydain nag sydd wedi agor.

Yng Nghymru, rhwng 2009-10, roedd y gwahaniaeth o ran canran yn fwy nag yn unrhyw ranbarth economaidd arall, gyda cholled yn y pen draw o 3,000 o fusnesau.

Cymru oedd yr ail o’r gwaelod am nifer y busnesau newydd – yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, dim ond 8,000 o fusnesau oedd wedi’u geni, graddfa o 8.5%.

Roedd nifer y marwolaethau hefyd ychydig yn is na’r cyfartaledd, gydag 11,000 o fusnesau’n cau, graddfa o 12.5%.

Trwy wledydd Prydain, roedd 297,000 o fusnesau wedi mynd – 20,000 yn fwy na’r flwyddyn gynt – ac roedd llai o fusnesau newydd wedi’u creu.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Hirben , Rhagfyr 10, 2011 9:03 pm

Does gan y Cynulliad fawr ddiddordeb mewn hybu’r economi a helpu busnesau – eu blaenoriaeth yw materion megis brecwastau am ddim, bysiau am ddim i bensiynwyr (nifer ohonynt yn gyfforddus iawn eu byd), taro plant a chymryd organau oddi ar y meirw.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.