Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Pryder am ddyfodol Peacocks

Ionawr 16, 2012 09:27


Mae na bryder bod cwmni dillad Peacocks, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd,  ar fin cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ar ôl i drafodaethau gyda’u benthycwyr fethu.

Yn ôl adroddiad ym mhapur y Sunday Telegraph, mae dyfodol Peacocks yn y fantol ar ôl iddyn nhw fethu â dod i gytundeb gyda’u benthycwyr.

Mae siopau Bon Marche, sy’n rhan o grŵp Peacocks, ar fin cael eu gwerthu ond mae na ansicrwydd am ddyfodol 550 o siopau Peacocks.

Roedd gwerthiant Peacocks wedi cynyddu 17% dros gyfnod y Nadolig.

Mae ymgynghorwyr annibynnol KPMG wedi bod yn cynnal adolygiad o fusnes y grŵp yn ddiweddar.

Yn ôl adroddiadiau, mae’r broblem yn deillio efo’r banciau – sy’n cael eu harwain gan Barlcays a RBS – ac a fydden nhw yn fodlon derbyn colled ar fenthyciadau sy’n ddyledus iddyn  nhw.

Mewn datganiad, dywedodd Barclays eu bod nhw wedi bod yn “barod iawn i gefnogi rheolwyr wrth ail-strwythuro’r busnes.” Dywedodd RBS eu bod nhw’n parhau i gefnogi’r cwmni.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.