Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Disgwyl i ffigurau ddangos bod yr economi yn crebachu

Ionawr 25, 2012 09:14, Diweddarwyd am 09:17


George Osborne
Mae disgwyl i ffigurau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw ddangos bod yr economi wedi crebachu yn chwarter olaf 2011.

Mae economegwyr yn darogan y  bydd ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos gostyngiad o 0.1% mewn Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP), o’i gymharu a chynnydd o 0.6% yn y chwarter blaenorol.

Cynyddu mae’r pryderon bod dirwasgiad arall ar y gorwel.

Mae’n debyg mai gostyngiad mewn gwariant siopwyr wrth i gyflogau gael eu cadw islaw graddfa chwyddiant sy’n cael y bai.

Ddoe, fe gyhoeddwyd bod dyledion Prydain wedi cyrraedd £1 triliwn am y tro cyntaf erioed ac mae’r Gronfa Ariannol Ryngwladol wedi rhybuddio’r Canghellor George Osborne ei fod yn gwneud gormod o doriadau yn rhy gyflym.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.