Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



ACau – ‘angen mwy o reolaeth ar gwmniau benthyg arian’

Ionawr 25, 2012 17:33, Diweddarwyd am 17:34



Mae Aelodau Cynulliad o’r bedair blaid wedi uno heddiw i alw am reolau mwy llym ar gwmniau benthyciadau diwrnod cyflog.

Mae’r Aelodau Cynulliad wedi datgan pryder ynglyn â’r ffaith fod nifer cynyddol o bobol dlawd a bregus yng Nghymru yn cael eu targedu gan gwmniau benthyg “anghyfrifol.”

Wrth arwain y drafodaeth yn y Senedd heddiw, dywedodd AC Plaid Cymru, Simon Thomas, y dylai Llywodraeth Cymru bennu uchafswm ar y cyfradd llog sydd gan gwmniau yw hawl i’w godi – sy’n gallu bod ymhell dros 1,000% y flwyddyn.

Galwodd ACau eraill am hyrwyddo benthycwyr cyfrifol, fel Undebau Credyd,  a bod pobol yn derbyn mwy o wybodaeth ynglyn â benthyciadau.

Dywedodd Simon Thomas heddiw fod hysbysebion yn canolbwyntio gormod ar “ba mor gyflym a syml yw menthyg arian,” a’u bod nhw’n trafod arian yr ad-daliadau “yn nhermau £20 a £30”.

“Mae’n anodd i gwsmeriaid wneud penderfyniad ar sail cyfraddau llog go iawn,” meddai.

“Mae cyflymder y broses ar y gwefannau yma yn awgrymu nad oes unrhyw arolwg manwl yn cael eu wneud i weld a fydd pobol yn gallu fforddio i’w talu’n ôl.

“Dywedodd y Swyddfa Cyngor ar Bopeth wrtha i fod un dyn o Orllewin Cymru, oedd yn ddi-waith ac yn defnyddio cyffuriau, wedi cael un benthyciad ar lein o £650 – a dyfodd i £1,500 o ddyled, gyda’r gyfradd llog yn £8 y dydd. Does dim un ffordd fod  y benthycwr yna wedi cael ei asesu’n gywir.

“Dydw i ddim yn awgymu y dylai pob benthycwr gael eu hatal, ond, mae rhai arferion yn ymddangos yn anheg iawn – fel cymryd benthyciad arall i dalu am ddyled, a chaniatau unigolion i dynnu sawl benthyciad diwrnod cyflog allan ar unwaith.

“Dylai fod uchafswm ar y cyfraddau llog gormodol sy’n gallu cael eu codi – fel sy’n digwyddodd mewn sawl talaith yn yr Unol Daleithiau ac ar draws y Gymanwlad.”

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.