Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



‘Cymru’n collli 10,000 o swyddi cynhyrchu bob blwyddyn’

Ionawr 26, 2012 13:33, Diweddarwyd am 14:07


Ffatrioedd ym Mlaenau'r Cymoedd
Mae un o’r undebau mwya’n honni bod Cymru wedi colli 10,000  o swyddi cynhyrchu bob blwydddyn ers dechrau’r dirwasgiad economaidd.

Honiad undeb y GMB yw fod 40,300 o swyddi diwydiannol wedi mynd mewn pedair blynedd ers 2007, bron cymaint ag oedd wedi eu colli mewn 12 mlynedd cyn hynny.

Mae hynny’n gosod Cymru yn nawfed o blith 12 rhanbarth economaidd gwledydd Prydain – Gorllewin y Midlands yn Lloegr oedd wedi colli fwya’.

Trwy wledydd Prydain, mae’r undeb yn dweud 700,000 yn llai o swyddi cynhyrchu’n awr nag oedd ar ddechrau’r dirwasgiad economaidd.

‘Dwy filiwn mewn llai na dau ddegawd’

Mae hynny’n golygu colli tua 3,400 o swyddi diwydiannol bob wythnos – ers 1994-5, mae’r GMB yn dweud bod 2 filiwn o swyddi o’r fath wedi mynd yn y Deyrnas Unedig i gyd.

“Colled y gwneuthurwyr ydi stori economaidd fwya’ trasig Prydain yn ystod y ddau ddegawd diwetha’,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y GMB, Paul Kenny.

“Os na fydd gweithredu i gefnogi a datblygu gweithgynhyrchu, mae dyfodol economaidd y genedl hon yn llwm. Dim ond y wladwriaeth Brydeinig sydd â digon o rym i atal a gwrthrdroi’r dirywiad.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Iwan Rhys , Ionawr 26, 2012 2:59 pm

“Dim ond y wladwriaeth Brydeinig sydd â digon o rym i atal a gwrthrdroi’r dirywiad”

A beth wnaeth “y wladwriaeth Brydeinig”, o dan reolaeth y Blaid Lafur sy’n cael ei hariannu a’i dylanwadu gan yr Undebau, am 13 mlynedd rhwng 1997 a 2010?

Mae sens mewn byta potsh â rhaw!

§| Nodi camddefnydd

Mali , Ionawr 27, 2012 12:37 am

10,000 bob blwyddyn – dyma’r ‘unionist dividend’ mae Toris a Llafur yn glochdar amdano?

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Ionawr 27, 2012 8:30 am

Beth sy’n bod? Gallwn i gyd cael swyddi mewn bancio.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.