Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Y Gymraeg a thechnoleg – y dyfodol

Ionawr 28, 2012 12:38, Diweddarwyd am 16:08


Cynhadledd 'Hacio'r Iaith'
Cafodd perchnogion siopau bach Cymraeg, ysgrifennwyr a chyhoeddwyr eu hannog i ystyried manteision technoleg mewn cynhadledd arbennig ‘Hacio’r Iaith’ yn Aberystwyth i drafod perthynas yr iaith Gymraeg a thechnoleg newydd.

Dywedodd Pennaeth yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor bod yr e-lyfr yn sicr o newid y ffordd yr ydym yn darllen a chyhoeddi llyfrau ac y dylai pawb sy’n gweithio yn y maes wneud yn fawr o’r cyfleoedd sy’n codi trwy fwrw ati i ddefnyddio technoleg newydd rwan.

Tra’n llongyfarch y Lolfa am gael Amazon i dderbyn llyfrau Cymraeg roedd Delyth Prys hefyd yn rhybuddio’r cynhadleddwyr bod yna beryglon mewn mynd ar ôl un farchnad unigol.

“Mae’r e-lyfr am newid y ffordd r’yn ni’n ysgrifennu nofel,” meddai. “O fod yn e-gyhoeddi, mae’r awydd i hunan-gyhoeddi yn cynyddu. Pam na all yr awdur roi’r llyfr ar ei wefan ei hun a gwneud llawer o bres? Wrth gwrs, dydi pethau ddim mor syml a hynny. Rhaid sicrhau safon a phrofiad prawf-ddarllenwyr. Ry’n ni eisiau cyhoeddi llyfrau da.”

Mae Canolfan Bedwyr yn bwriadu cynnal cyfres o weithdai i gyhoeddwyr yn ystod y gwanwyn a’r haf eleni ac wedi cael nawdd gan Fwrdd yr Iaith i baratoi ffeiliau EPUB, sef fformat agored i gyhoeddi, ar gyfer Mawrth 2012.

“Rhywbeth tebyg i Cysill ar lein” fyddan nhw meddai Delyth Prys. Bydd cyhoeddwyr yn gallu bwydo testun i mewn iddo yn barod i’w olygu a’i gyhoeddi.

Darllenwch blog Non Tudur o’r gynhadledd

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Danny Heijl , Ionawr 28, 2012 1:06 pm

Amazon Kindle:

Mae’n edrych fel eu bod nhw’n defnyddio’r set nodau ISO-Lladin-1: does ‘na ddim smic o’r llythyrau ŵ neu ŷ, ond mae ô ac ati yn iawn.

§

Mali , Ionawr 28, 2012 11:05 pm

Welis i adroddiad am hyn heno ar newyddion S4C. Gwych! Dyma’r dyfodol i’r iaith Gymraeg.

§

GD , Ionawr 29, 2012 11:18 am

Yn fy marn i, un o’r bygythiadau mwya i’r Gymraeg ydi diflaniad sefydliadau cymdeithasol cyfrwng Cymraeg. Wrth gwrs, fyddai neb goleuedig eisiau gweld y capeli’n dychwelyd yn gymaint o rym cymdeithasol. Ond mae colli’r fath ofod ymhob pentre, lle digwyddai popeth yn Gymraeg, yn broblem enfawr. Mewn difri: os ydi rhywun yn dysgu Cymraeg, yn lle mae o i fod i’w defnyddio hi? Mae pobl wedi cilio y tu ôl i ddrysau eu tai ac yn gyndyn i ddod allan.

Dyna lle mae rhwydweithio cymdeithasol yn allweddol. Mae’n fan cyfarfod cyfleus i bobl. Mae’n ofod trafod, dadlau a rhannu syniadau – seiat ffasiwn newydd. A hynny heb orfod mynd allan drwy ddrws y tŷ.

§| Nodi camddefnydd

Eifion W , Ionawr 29, 2012 1:55 pm

Yn hollol GD, mae trydar a fbook yn dda iawn, ond tydio does dim byd yn cyro cyfarfod bobl go iawn er enghraifft dwi mynd i’r Gymdeithas Gymraeg pob mis ag yn mwynhau yn fawr, ond prin iawn yw rhai sy dan hanner cant oed sy’n mynychu, lle mae’r bobl ifanc? Da chi, gadewch trydar ayb weithiau a dowch allan i siarad a pobl cig a gwaed go iawn.

§

Ifor Hughes , Ionawr 29, 2012 2:15 pm

Pam doedd S4C ddim yno ! Cynhadledd yn Cannes neu Lundain ma nhw yna with bells on !

§| Nodi camddefnydd

Carl Morris , Ionawr 29, 2012 4:08 pm

Ifor, roedd aelodau o dîm S4C yn y digwyddiad ddoe. Os ydych chi wedi mynychu y byddech yn ei wybod!

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Ionawr 29, 2012 7:50 pm

“Wrth gwrs, fyddai neb goleuedig eisiau gweld y capeli’n dychwelyd yn gymaint o rym cymdeithasol”

Ie, yr hen gapelwyr ‘na yn bwyata babis anffyddwyr ac ati. Gwarthus.

§

Ifor Hughes , Ionawr 30, 2012 3:04 am

Wwps I was misinformed

§

@rhysw1 , Ionawr 30, 2012 4:17 pm

Darllenwch [cofnod] blog Non Tudur o’r gynhadledd

Oes dolen ato?

(Sori i swnio fel tiwn gron, ond…..)

§| Nodi camddefnydd

Martin Wilias , Chwefror 4, 2012 11:29 am

Fy neges trydar i i @BBCClick :
“Do minority languages face bright future on internet? Golwg360 is groundbreaking+innovative Welsh lang news website.Please mention.” @MartinWilliam34

Dylsai Plaid Cymru fod wedi delufro papur dyddiol. Ond mater arall ydi hynny.
Pwy a wyr- os y bydd digon yn gofyn am eitem yn rhoi sylw i Golwg360…mewn niferoedd y mae nerth a gobaith o gael y maen i’r wal.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.