Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Perchennog cwmni dillad isaf: “Bydd y cwmni’n symud o Alban annibynnol”

Ionawr 29, 2012 15:30, Diweddarwyd am 15:33


Michelle Mone
Mae’r Albanes sy’n berchen cwmni dillad isaf Ultimo wedi dweud wrth bapur y Sunday Times y bydd yn symud ei chwmni a’i chartref i Lundain os mai ‘ie’ fydd canlyniad y refferendwm yn 2014.

Dywedodd Michelle Mone ei bod yn credu y bydd Alban annibynnol yn gwneud drwg i fyd busnes yn y wlad.

“Bydd popeth yn siwr o fynd i fyny a tydw’i ddim yn credu ein bod angen hynny ar hyn o bryd” meddai.

Mae Ms Mone yn dod o Glasgow ac ymhlith y merched busnes mwyaf llewyrchus ym Mhrydain.

Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond yn anghytuno a’i phryderon.

“Mae pryderon Michelle yn seiliedig ar y syniad y byddwn yn codi trethi. Mewn gwirionedd ein bwriad yw gostwng trethi busnes fydd yn sicr o fudd nid yn unig i gadw Michelle Mone yma ond hefyd yn denu llawer o gwmniau eraill i’r Alban”.

Ychwanegodd bod Ms Mone wedi gwneud yr un bygythiad cyn etholiadau 2007.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ifor Hughes , Ionawr 30, 2012 3:07 am

Burn your Bra for liberation !

§

Eirion Rhys , Chwefror 2, 2012 12:43 pm

Dim ond yn tanlinellu bod mwyafrif pobl busnes yn Doriaid!

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.