Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Cynllun Cychwyn Busnes yn gwobrwyo £17m o gytundebau

Chwefror 1, 2012 09:34


Edwina Hart
Mae Gwasanaeth Cychwyn Busnes Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cytundebau gwerth £17 miliwn, i gefnogi busnesau newydd yng Nghymru.

Bydd y cynllun hefyd yn helpu 6,000 o bobl i fod yn hunangyflogedig yn yr un cyfnod.

Bydd Edwina Hart yn cyflwyno’r cytundebau a’r pecyn ariannu, yng nghyfarfod cyffredinol flynyddol Business in Focus.

Bydd cefnogaeth yn cael ei dargedu at gwmnïau sydd newydd sefydlu, ac entrepreneuriaid sy’n bwriadu cychwyn busnes sydd â photensial i dyfu.

Bydd graddedigion a’r hunangyflogedig hefyd yn gallu derbyn cymorth gan y cynllun, sy’n cael ei gefnogi gan y Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd.

Pwysigrwydd busnesau newydd

“Mae sefydlu busnesau newydd gyda’r potensial i dyfu yn bwysicach nag erioed,” dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart.

“Mae Llywodraeth Cymru yn barod i gefnogi busnesau ac i annog entrepreneuriaeth. Mae’r pwysigrwydd rydym ni’n ei gysylltu â’r cynllun yn cael ei adlewyrchu yn y gyllideb sydd ar gael i’r fenter.”

Bydd y cytundebau Cychwyn Busnes yn ddilys o heddiw ymlaen. Bydd pum cwmni datblygu yn arwain y fenter, yn cynnig cefnogaeth busnes a chyngor personol trwy Gymru.

Nico Môn Cyf fydd yn gwasanaethu Gogledd Orllewin Cymru. Antur Teifi fydd yn gwasanaethu’r Canolbarth.

Yn y Gogledd Orllewin bydd Cefnogaeth Busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn arwain y ffordd.

Business in Focus fydd yn cydlynu’r  De Ddwyrain, gyda Centre for Business yn gwasanaethu ardal Pen y Cymoedd a Phenybont, a hefyd De Orllewin Cymru.

Bydd y cymorth yn amrywio o fusnes i fusnes. Ceir cymorth i ddatblygu syniadau busnes, a gweithdai cynllunio busnes.

Bydd busnesau detholedig yn derbyn cymorth dros ddwy flynedd.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.