Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Hyder yn y farchnad dai yng Nghymru

Chwefror 4, 2012 11:51


Mae perchnogion tai Cymru yn hyderus y bydd prisiau yn codi eleni, yn ôl pôl piniwn newydd.

Yn ôl yr arolwg gan Halifax mae yna gynnydd wedi bod mewn hyder yn y farchnad dai dros y tri mis diwethaf, a hynny ar draws y rhan fwyaf o Brydain.

Roedd 29% o’r rheini a holwyd yn credu y bydd prisiau tai yn cynyddu dros y 12 mis nesaf, tra bod 22% yn proffwydo y bydd prisiau yn syrthio.

Pan gynhaliwyd yr un pôl piniwn ym mis Hydref roedd 28% yn gweld prisiau’n cynyddu a 30% yn rhagweld eu bod nhw’n mynd i syrthio.

Roedd y mwyafrif helaeth yn credu y byddai’r farchnad yn sefydlog, heb gynnydd na chwymp o dros 5% ym mhrisiau tai.

Dim ond yng ngogledd orllewin, de orllewin a gogledd ddwyrain Lloegr oedd mwy yn credu y byddai prisiau tai yn disgyn nag yn cynyddu.

Pobol Llundain oedd y mwyaf ffyddiog y byddai prisiau tai yno’n cynyddu.

“Mae’r cynnydd mewn hyder yn adlewyrchu gwytnwch y farchnad dai, er gwaetha’r diffyg twf economaidd dros y misoedd diwethaf,” meddai Martin Ellis, economegydd tai Halifax.

“Rydyn ni’n proffwydo y bydd prisiau tai yn parhau’n sefydlog yn 2012, er bod ansicrwydd mawr ar hyn o bryd am ddyfodol economi’r Deyrnas Unedig.”

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.