
Peacocks yn y fantol
Mae yna adroddiadau heddiw fod biliwnydd o Bacistan yn bwriadu gwneud cais i achub cwmni ffasiwn Peacocks, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd.
Chwalodd Peackocks, sydd â 563 o siopau, dan fynydd o ddyledion fis diwethaf, gan roi 7,500 o swyddi yn y fantol.
Ond yn ôl papur newydd y Sunday Times mae Alshair Fiyaz, a wnaeth ei gyfoeth yn y diwydiant brethyn, yn gweithio ar y cyd â chronfa buddsoddi Ddanaidd Solstra Capital er mwyn ei achub.
Mae disgwyl i’r dyn sydd werth tua £3 biliwn wneud cais i brynu’r cwmni yfory.
Dywedodd y gweinyddwyr KPMG eu bod nhw wedi cynnal mwy na 100 o drafodaethau er mwyn ceisio dod o hyd i brynwr i’r cwmni.
Ond dywedodd ffynonellau wrth y papur newydd fod diddordeb gan gwmnïau preifat wedi dechrau pylu a bod ofnau y byddai yn rhaid dod a’r cwmni i ben.
Mae’r Sunday Times ar ddeall ei fod Alshair Fiyaz yn gweithio ar y cyd â rheolwr gyfarwyddwr Peackocks, Tim Bettley.
Cafodd Peacocks ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ar ôl i’r cwmni fethu â dod i gytundeb gyda’r banciau ynglŷn â’i ddyledion o £750 miliwn.
Mae KPMG eisoes wedi cyhoeddi bod 249 o swyddi’n cael eu colli ym mhencadlys Peacocks yng Nghaerdydd.
Roedd adroddiadau bod Poundland a Tesco yn ystyried prynu rhan o bortffolio Grŵp Peacocks os na fydd KPMG y gallu dod o hyd i brynwr ar gyfer y cwmni.