Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



CAT – croeso mawr os bydd cynllun achub

Chwefror 8, 2012 15:00


Glyn Davies - yn barod i gefnogi cynllun achub
Fe fyddai Aelod Seneddol Maldwyn yn croesawu cynllun i achub Canolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth.

Mae sïon lleol y bydd cyhoeddiad buan ynglŷn â phartneriaeth newydd i dynnu’r Ganolfan o drafferthion ariannol sydd wedi bod yn bygwth ei dyfodol.

Mae Cadeirydd Ymddiriedolwyr y Ganolfan, Iolo ap Gwynn, wedi cadarnhau fod cyfarfod o staff heddiw ac y bydd datganiad yn y dyddiau nesa’.

Yn ôl yr AS, Glyn Davies, mae dyfodol y Ganolfan ym Mhantperthog yn hanfodol i economi ac enw’r Canolbarth. Mae’n cyflogi mwy na 100 o bobol amser llawn a rhan amser ac mae straeon yn y wasg leol wedi awgrymu bod rhai yn y fantol.

‘Ofnadwy o bwysig’

Roedd Glyn Davies hefyd wedi deall fod anawsterau ariannol a thrafodaethau ynglŷn â’r dyfodol ac fe ddywedodd ei fod yn barod iawn i helpu unwaith y daw cyhoeddiad.

“Mae’r Ganolfan yn ofnadwy o bwysig, nid yn unig o ran yr economi, ond hefyd am ei bod wedi rhoi enw Canolbarth Cymru ar y map,” meddai.

“Pan ddaw cyhoeddiad, fe fydda’ i’n cysylltu gyda’r Ganolfan i ofyn am gyfarfod er mwyn gweld a alla’ i fod o unrhyw help.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


twrch , Chwefror 14, 2012 2:47 pm

Doedd y lle ddim ar flaen y gad pan agorodd o, ond erbyn rwan a phob wil jac a hari yn gwybod am egni adnewyddol mae’r lle wedi hen chwythu blwc. Gan gofio fod lot o’r staff yn wrth gymraeg hefyd, dwi ddim ishio gweld arian cyhoeddus yn mynd lawr pan organic y lle yma.

Gwynt teg, os chydig yn whiffy, ar ei ol o dduda i

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.