Rhybudd y bydd statws credyd Prydain yn cael ei israddio
Chwefror 14, 2012 07:40

Canghellor George Osborne
Mae’n bosib y bydd statws credyd Prydain yn cael ei israddio oherwydd pryderon am dyfiant yr economi ac effaith posib argyfwng yr ewro.
Dywedodd yr asiantaeth Moody’s neithiwr bod Prydain yn wynebu colli ei statws AAA.
Yn ôl y Canghellor George Osborne mae hyn yn “profi na all Prydain osgoi fynd i’r afael â’i dyledion.”
Chwyddiant
Yn y cyfamser mae disgwyl i raddfa chwyddiant ostwng i’w lefel isaf ers dwy flynedd heddiw – arwydd bod y pwysau yn dechrau lleihau.
Mae disgwyl i Fynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) ostwng i 3.5% ym mis Ionawr, o 4.2% ym mis Rhagfyr.
Sylwadau
Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.
Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.
Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.
Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.
Dafydd , Chwefror 14, 2012 8:50 am
§