Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Galw am awyren o Efrog Newydd i Gaerdydd

Chwefror 16, 2012 14:49, Diweddarwyd am 14:49


Mae Ceidwadwyr Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddod o hyd i’r arian er mwyn sefydlu gwasanaeth awyr o Gaerdydd i Efrog Newydd.

Mae llefarydd yr wrthblaid ar drafnidiaeth, yr AC Byron Davies, wedi ysgrifennu at y gweinidog yn gofyn beth yw’r cynlluniau dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Dywedodd y byddai yn gwneud llawer mwy o les economaidd i Gymru na’r gwasanaeth o dde i ogledd Cymru, ac yn costio llai i’w gynnal.

Daw’r alwad yn dilyn cyhoeddi gwerthusiad academaidd o’r darpar wasanaeth, a gyhoeddwyd yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth cyn y flwyddyn newydd.

Mae’r ddogfen ac ysgrifenwyr ym mis Awst 2007 yn awgrymu y byddai cysylltiad o’r fath yn ychwanegu miliwn o bunnoedd at economi Cymru bob blwyddyn.

Mae hefyd yn honni y byddai yn costio £580,000 y flwyddyn i gynnal y gwasanaeth.

“Nid yw honiadau’r Llywodraeth eu bod nhw’n parhau i ystyried gwasanaethau awyr newydd o Gaerdydd yn ddigon da,” meddai Byron Davies.

“Mae’n hen bryd gweithredu ar fater sydd wedi bod yn segur ers blynyddoedd.

“Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd yn 2007 a’i gasgliadau yn gwbl eglur. Mae angen i’r llywodraeth weithredu ar hynny.

“Mae’r Llywodraeth bellach yn gwario miliwn o bunnoedd ar wasanaeth awyr o ogledd i dde Cymru bob blwyddyn.

“Mae’r adroddiad yn awgrymu y byddai gwasanaeth awyr o Efrog Newydd i Gaerdydd yn costio llai, ond fe fyddai’r hwb economaidd yn enfawr.

“Rhaid i’r gweinidog ystyried hynny’n ofalus iawn.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ieie, gwedwch chi , Chwefror 16, 2012 3:37 pm

beth am y teithwyr sydd am fynd o NYC i Anglesey? Pwy sy’n meddwl amdanyn nhw?

§

Dewi , Chwefror 16, 2012 4:32 pm

Byddai’n well gwella cysylltiadau rhwng Cymru a Dulyn er mwyn manteisio ar y ffaith bod swyddogion mewnfudo UDA (‘US Immigration’) lawer llai prysur yno.

Siawns gyda rhwydwaith ‘Geltaidd’ o’r fath bydd modd hedfan yn hwylus rhwng Caerdydd, Môn ac arfordir dwyrain yr UDA.

§

Andrew , Chwefror 16, 2012 4:37 pm

Ond o ddifri’…

§

Benjiman , Chwefror 16, 2012 7:28 pm

Pam lai gryfhau cysylliadau rhwng Cymru a dinasoedd ar draws Ewrop yn le NYC? Brussels a Strasbourg.

§

CGT , Chwefror 16, 2012 7:45 pm

Yr oedd peth anlwc gyda’r gwasanaeth o’r Fali. Ar un pryd, yr oedd economi’r Iwerddon yn rymus tu hwnt, ac yr oedd nifer o Fon yn mynd i Ddulyn i weithio. Yr oedd rhai gwir busnes o’r Iwerddon yn dechrau son am godi ffatrioedd yma yn sir Fon i fanteisio ar weithlu rhad ( yr oedd eu heconomi hwy’n ymddangos fel petai’n gor-boethi ar y pryd) .
Yn anffodus, adeiladodd y Gwyddelod dy (ar ben ty, ar ben ty ) ar y tywod , a buan iawn y stopiodd y siarad . Mae gennym ddwy ynys dlawd iawn bellach !

§

Jones , Chwefror 16, 2012 8:08 pm

P*ss off Byron,
Dyma di’r unig blydi peth mae Ynys Mon wedi cael gan Llywodraeth Cymru – danim yn gadael i g’dydd ddwyn o!.

§| Nodi camddefnydd

Andrew , Chwefror 16, 2012 10:38 pm

Rwy ddim yn credu fod eisiau gwasanaeth o Gaerdydd i Efrog Newydd, ond oni fyddai’n bosib cynnig gwasanaethau awyr i fannau eraill yng Nghymru yn ogystal a Ynys Mon? Mae ‘na feysydd awyr yn Y Trallwng, Aberporth a Chaernarfon (yn fwy canolog i Ogledd Cymru na’r Fali) ac mae ‘na awyrennau llai (a rhatach i’w rhedeg) na’r un sydd yn hedfan ar hyn o bryd i’w cael a byddai rheini’n ddelfrydol ar gyfer y meysydd awyr llai. A beth am wasanaethau i fannau yn y DU, Iwerddon neu Ewrop (byddai’r awyren bresennol- Dornier Do228, rwy’n credu- yn iawn ar gyfer rhain)?

§

Jones , Chwefror 16, 2012 11:13 pm

Andrew: dwi’n dod o Ynys Mon a rhaid i mi cytuno y bysa defnyddio Caernarfon wedi bod llawer bell. Dwi o De yr Ynys a hyd yn oed i mi mae Fali yn teimlo yn bell.

Oherwydd mai’r RAF sydd yn berchen ar y lle, maen feddwl nad oes awyrenau dros yr penwythnos. Maen eithaf anodd i ehangu’r lle. A dwin credu ni fysa hyn wedi bod yn broblem yng Nghaernarfon? Ond oherwydd bod y cyngor wedi gwario miliynau ar y Maes Awyr- rhaid iddi aros yma am y blynyddoedd i ddod.

Ond cytuno- fysa C’fon wedi bod yn lle llawer gwell gyda mwy o botensial i ehangu. Er dwin cymeryd nath WAG ystyried fama, ac roedd yna broblem/gwynedd dim eisiau o?

§| Nodi camddefnydd

Jones , Chwefror 16, 2012 11:15 pm

Ag i adio Andrew:
a fysa system tebyg i be oedd y cyn Highland Airways hefo yn yr Alban yn gweithio yng Nghymru?

Hynny yw: mynd o gwmpas mewn ‘loop’ e.e o Dylun, Mon, Trallwng, G’dydd?

§

Crebwyll , Chwefror 17, 2012 12:12 am

Syniad ardderchog Jones! Pam nad oes neb wedi meddwl amdano ynghynt! Meddwl hefyd am y Gogledd Dwyrain a meysydd awyr ar y ffin os byddai’r traffig ar gael ac yn gymorth i wneud y cyfan yn gynaliadwy.

§

Jones , Chwefror 17, 2012 10:45 am

Crebwyll: mae dau ateb i hwn, unai:

1. Mae’r Llywodraeth wedi edrych ar hyn a wedi gweld nid oes “business case” iddo, neu roedd ryw broblem arall.

2. Nid oes gan y Llywodraeth un gram o ddychymyg, a rioed wedi ystyried rhywbeth fel hyn.

§

Martin Wilias , Chwefror 17, 2012 3:29 pm

Caerdydd i bob un Flughafen ddyweda i.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.