
Mae’r AA wedi rhybuddio bod prisiau disel a petrol bron yn ôl i’w lefel uchaf erioed.
Mae pris cyfartalog disel bellach yn 142.9c y litr ar draws Prydain – ond yn uwch eto mewn sawl rhan wledig o Gymru.
Cyrhaeddodd pris disel ei uchaf erioed ym mis Mai’r llynedd, gan gostio 143.04c y litr ar gyfartaled.
Yn ystod y mis diwethaf mae pris disel wedi codi 0.8c y litr, tra bod pris petrol wedi codi 1.46c i 135c y litr.
Gogledd Iwerddon sydd â’r prisiau petrol a disel drutaf ar gyfartaledd – sef 135.9c a 143.5c y litr – tra bod gan ogledd Lloegr y petrol rhataf, yn 134.2c a 142.3c y litr.
“Mae’n bosib bod chwyddiant ar drai ond ni fydd hynny’n ddigon i godi calon modurwyr a busnesau sy’n llwyr ddibynnol ar eu cerbydau ac yn gweld prisiau yn codi eto,” meddai llywydd yr AA, Edmund King.
“Nid yw cyflogau wedi cynyddu, ond mae petrol a disel yn costio 23c a 29c yn fwy nag oedden nhw’r adeg yma dwy flynedd yn ôl – cynnydd o 20.5% a 25.6%.
“Mae llenwi car â phetrol yn costio £11.50 yn fwy erbyn hyn, a llenwi fan 80 litr â disel yn costio £23.20 yn fwy.
“Fe fyddwn ni’n atgoffa’r Canghellor y dylai roi’r gorau i’w gynlluniau i godi 3c ychwanegol mewn treth ar danwydd o 1 Awst ymlaen.”