
Mae trigolion un tref yng ngogledd Cymru yn poeni mai cau’r banc olaf yn y dref fydd yr hoelen olaf yn arch yr economi leol.
Mae banc HSBC wedi anfon llythyr at holl gwsmeriaid cangen Llanfairfechan yn eu hysbysu bod y banc yn cau ar 8 Mehefin eleni.
Yn ôl y Maer lleol, Gareth Jones, mae’r newyddion wedi eu “siomi a’u synnu.” Bydd pobol yn gorfod mynd i Fangor neu Benmaenmawr o hyn ymlaen, meddai.
Fe fydd y cau hefyd yn broblem mawr i bobol hŷn yr ardal sy’n dibynnu ar y gwasanaeth yn lleol.
“Dwi’n methu dallt eu bod nhw’n dweud nad oes yn a ddigon o gwsmeriaid yn defnyddio’r banc. Mae yna giw yna bob tro pan dwi’n pasio, a dyna’r unig dwll yn y wal yn y pentre’,” meddai Gareth Jones.
“Bydd hyn yn cael effaith lot ehangach na dim ond cau’r banc.
“Mae pobol yn dod i’r banc i gael pres, ac yna’n pigo mewn i brynnu rwbeth yn y bwtsiwr neu yn y siopau eraill. Ond os nad oes pwrpas i fynd yna’n y lle cynta’, fe fydd y siopau yma i gyd ar eu colled.”
Mae un perchennog siop ddillad lleol wedi dechrau deiseb yn erbyn cau’r banc, ac mae cefnogaeth gref iddi yn lleol, yn ôl Gareth Jones.
“Mae pobol yn siomedig iawn,” meddai, “yn enwedig gan fod llawer o bobol busens lleol wedi symud eu cyfrifon i’r HSBC lleol ar ôl i Lloyds TSB gau pum mlynedd yn ôl.”
Yn eu llythyr at gwsmeriaid, dywedod HSBC fod “twf bancio dros y ffôn ac ar-lein yn y blynyddoedd diweddar yn golygu bod rhai canghenau’n cael eu defnyddio llai. Felly ar ôl ysytried yn hir, rydyn ni wedi penderfynu cau cangen Llanfairfechan.”
Nododd y llythyr y byddai’r banc yn cau am 12pm ar ddydd Gwener 8 Mehefin eleni.
Mae Golwg 360 wedi gofyn i HSBC am ymateb.