
Bydd y Sunday Sun yn ymddangos yn lle y News of the World
Mae Rupert Murdoch wedi datgan bod News Corporation yn bwriadu ymestyn dyddiau cyhoeddi papur newydd y Sun i ddydd Sul.
Bydd y Sunday Sun yn disodli The News of the World a gaeodd ym mis Gorffennaf y llynedd yn sgil y sgandal hacio ffonau symudol.
Cyhoeddodd hefyd ei fod yn bwriadu cefnogi a pharhau i gyhoeddi papur newydd y Sun, ac y byddai’r dynion a gafodd eu harestio yn cael dychwelyd i’w gwaith.
“Mae gen i barch mawr ar ein hetifeddiaeth, eich newyddiaduraeth wych, ac yn ragor na dim, y merched a dynion talentog sy’n gweithio’n ddiflino bob dydd er mwyn sicrhau bod gan ein darllenwyr ffynhonnell newydd y maen nhw’n gallu ymddiried ynddo,” meddai.
Dywedodd fod y newyddiadurwyr sydd wedi eu harestio ers mis Tachwedd yn “ddieuog nes bod rhywun yn profi fel arall”.
Mae deg o uwch-ohebyddion a swyddogion y Sun wedi eu harestio, ar ôl honiadau eu bod nhw wedi gwneud taliadau llwgr i swyddogion cyhoeddus.
Carl Morris , Chwefror 17, 2012 3:23 pm
§| Nodi camddefnydd