
Mae Ceredigion ymysg y 10 ardal ym Mhrydain sydd wedi profi’r gostyngiadau lleiaf mewn prisau tai dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Er bod prisiau tai wedi gostwng 24% Mhrydain ar gyfartaledd ym Mhrydain ers 2007, dim ond 3% oedd y gostyngiad cyfatebol yng Ngheredigon.
Mae’r astudiaeth gan fanc Halifax, sy’n dangos tueddiadau tebyg mewn ardaloedd twristaidd eraill fel Ardal y Llynnoedd a dyffrynnoedd Swydd Derby, yn priodoli’r prisiau uchel i alw cryf am dai haf a phobl yn symud yno i ymddeol.
Ar y llaw arall, mae tair o siroedd mwy diwydiannol Cymru ymysg y mannau sydd wedi gweld rhai o’r gostyngiadau mwyaf trwy Brydain dros yr un cyfnod.
Cafwyd gostyngiadau o 32% yn Wrecsam, 31% yng Nghastell Nedd Port Talbot a 29% yn Sir y Fflint.
Yn gyffredinol, mae prisiau tai wedi dal eu tir gryfaf yn ne Lloegr, ac wedi cwympo fwyaf yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r adroddiad yn pridoli’r cwymp yng Ngogledd Iwerddon i gynnydd cyflym ac anghynaliadwy yn yr ychydig flynyddoedd cyn 2007.