Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



600 o swyddi newydd i Gaerdydd

Chwefror 20, 2012 10:02, Diweddarwyd am 11:53


Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw bod 600 o swyddi newydd i gael eu creu mewn canolfan alwadau yng Nghaerdydd  gan gwmni o’r Unol Daleithiau.

Mae Conduit ar hyn o bryd yn cyflogi mwy na 1,900 o staff mewn tri o’u canolfannau yng Nghaerdydd ac Abertawe. Fe fydd eu canolfan newydd yng Nghaerdydd yn darparu gwasanaeth i gwsmeriaid Nwy Prydain.

Bydd y swyddi newydd yn cael eu creu erbyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd Carwyn Jones bod y cyhoeddiad yn newyddion gwych ac yn hwb arall i’r sectorau proffesiynol ac ariannol  yng Nghymru.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos bod polisiau Llywodraeth Cymru yn cael effaith buddiol wrth hybu’r economi a chreu swyddi yn ystod y cyfnod anodd hwn,” meddai.

Wth groesawu’r newyddion, dywedodd y gweinidog Busnes a Menter Edwina Hart bod yr economi a swyddi ar flaen agenda Llywodraeth Cymru a’u bod yn parhau i ddenu rhai o’r busnesau mwyaf yn y byd.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.