Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Peacocks yn cael ei brynu gan Edinburgh Woollen Mill

Chwefror 22, 2012 14:37, Diweddarwyd am 16:23


Mae cwmni dillad Peacocks wedi cael ei brynu gan Edinburgh Woollen Mill, gan achub 6,000 o swyddi.

Ond fe fydd 3,100 o staff yn cael eu diswyddo.

Cafodd y cwmni, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd, ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr yn gynharach y mis hwn.

Mae’r cytundeb gyda Edinburgh Woollen Mill yn golygu y bydd 388 o siopau’r cwmni yn cael eu hachub ynghyd â 6,000 o swyddi. Ond dywed y gweinyddwyr KPMG eu bod nhw wedi cael eu gorfodi i gau 224 o’r siopau yn syth, gan arwain at 3,100 o ddiswyddiadau.

Fe fydd 16 o staff yn colli eu swyddi ym mhencadlys y cwmni yng Nghaerdydd. Roedd KPMG eisoes wedi cyhoeddi bod 249 o swyddi’n cael eu colli ym mhencadlys Peacocks.

Dywedodd Chris Laverty o gwmni KPMG: “Mae’r cytundeb heddiw yn sicrhau bod enw adnabyddus ar y stryd fawr yn parhau i fasnachu.

“Er ei bod yn anffodus ein bod wedi gorfod gwneud diswyddiadau, rydym yn fodlon ein bod wedi llwyddo i gadw y rhan fwyaf o’r busnes a swyddi.”

‘Newyddion da’

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Carwyn Jones: “Rwy’n croesawu’r ffaith, er gwaethaf ei anawsterau diweddar, fod gan Peacocks ddyfodol a bydd yn cyflogi nifer fawr o bobl. Mae cadw’r pencadlys yng Nghaerdydd yn benodol yn newyddion da.

“Fodd bynnag, rydym yn aros i weld y manylion llawn a sut y bydd y cyhoeddiad hwn yn effeithio ar weithwyr Peacocks… byddwn yn darparu’r holl gymorth y gallwn i’r rheini sy’n wynebu colli eu swyddi.”

Roedd y cwmni wedi mynd i drafferthion fis diwethaf ar ôl iddyn nhw fethu â dod i gytundeb gyda’u benthycwyr ynglŷn a’u dyledion enfawr o £750 miliwn.

Cafodd siopau Bonmarche, rhan o Grŵp Peacocks, eu gwerthu fis diwethaf i gwmni Sun European Partners, gan arwain at 1,400 o ddiswyddiadau a chau 160 o siopau. Roedden nhw wedi prynu 230 o siopau ac yn parhau i gyflogi 2,400.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Ychwanegwch y sylw cyntaf.

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.