Mae cwmni sy’n bwriadu adeiladu fferm wynt fwyaf Mor Yr Iwerydd, 12 milltir o arfordir Ynys Môn, wedi lansio ail gam eu hymgynghoriad cyhoeddus.

Y cwmni Celtic Array sy’n gyfrifol am y cynlluniau ac mi fydden nhw’n ymgynghori gyda chymunedau lleol tan 19 Mai.

Os bydd yn cael ei hadeiladu, bydd Fferm Wynt Rhiannon yn un o’r ffermydd gwynt mwyaf ar arfordir Prydain gyda’r gallu i gyflenwi trydan i 1.5 miliwn o gartrefi, yn ôl Celtic Array.

Byddai’n cynnwys rhwng 147 a 440 o felinau gwynt ac o fewn ychydig filltiroedd i fferm bresennol Gwynt y Môr. Yn ôl Celtic Array fe fyddai’n hwb i economi Ynys Môn a’r gogledd.

Ond yn ôl y cynghorydd lleol Richard Owain Jones, dylai cynllun Celtic Array gynnwys grantiau ariannol i bobol leol gan fod y datblygiad am gael effaith negyddol ar dwristiaeth a’r golygfeydd yn yr ardal.

‘Amharu ar dwristiaeth’

“Y pryderon mwyaf yn yr ardal yw nad ydi o am ddod a gymaint o waith a hynny i’r ardal – fydd ‘na ddim byd yn y safle lle mae’r datblygiad yn dod i’r lan yn hen safle Shell, Rhos Goch,” meddai’r cynghorydd Richard Owain Jones.

“Fysa’n well gan bobol leol weld rhywbeth arall yn dod i fanno, rhywbeth fasa’n parhau ac yn dod a mwy o waith i’r ardal.

“Ac mae maint y peth yn poeni pobol. Mae ‘na gymaint o dyrbinau gwynt ar y tir fel mae hi ac mae’n siŵr o amharu ar dwristiaeth  hefyd.

“A dwi heb glywed sôn am unrhyw grantiau neu arian i’r gymuned yn y cynlluniau.

“Os ‘da ni am orfod byw hefo’r datblygiad oddi ar ein harfordir ni am flynyddoedd, mae’n iawn i’r bobol leol gael rywbeth amdano fo.”

Ceblau

Yn ogystal â’r melinau gwynt eu hunain, fe fydd angen ceblau i gludo’r trydan ac fe allai’r rheiny effeithio ar rannau eraill o ogledd Cymru, gan gynnwys afon Menai.

Yn ôl y datblygwyr, fe fyddai’r fferm wynt yn cynhyrchu 2.2 Gigawatt o drydan, a fydd yn ddigon i gyflenwi mwy na 1.5 miliwn o gartrefi.

Mae disgwyl i Celtic Array gyflwyno eu cynlluniau terfynol erbyn yr Hydref.