Mae Cymdeithas Cadwraeth y Môr wedi cyhoeddi bod mwy o draethau Cymru wedi ennill y marc uchaf posibl am ansawdd dŵr eleni o’i gymharu â’r llynedd.
Mae 109 o 152 o draethau Cymru a gafodd eu profi’r haf diwethaf wedi derbyn marc rhagorol am ansawdd y dŵr – 11 yn fwy na’r flwyddyn flaenorol.
Mae hynny’n golygu bod 71.1% o draethau Cymru gyda dŵr rhagorol o lan.
Ond mae pedwar o’r traethau a brofwyd wedi methu â chyrraedd safonau gofynnol ansawdd dŵr – gyda thri ohonynt yng Ngheredigion ac un yn y Gŵyr.
Dros y DU, mae’r nifer uchaf erioed o draethau wedi ennill y marc uchaf am ansawdd dŵr.
Yn ôl Cymdeithas Cadwraeth y Môr, mae’r ffaith ein bod ni wedi cael yr haf sychaf ers 2003 y llynedd wedi bod yn ffactor yn hynny.
Meddai Rachel Wyatt, swyddog llygredd arfordirol Cymdeithas Cadwraeth y Môr: “Mae’n newyddion gwych ein bod yn gallu rhoi marc am ansawdd dŵr rhagorol i ragor o draethau nag erioed.
“Y brif her yn awr yw cynnal y safonau hyn, beth bynnag fo’r tywydd.”