Y Sioe yn Llanelwedd
Eleri Lloyd o fferm Ffynonlwyd, Llangynin, Sir Gâr, sydd wedi ennill gwobr Ffermwraig Cymru’r Flwyddyn.

Gwnaethpwyd y cyhoeddiad gan NFU Cymru a chymdeithas adeiladu’r Principality yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd heddiw.

Mae Eleri Lloyd, a’i gwr, Haydn yn rhedeg fferm odro gyda 300 o wartheg. Maen nhw hefyd wedi datblygu eu busnes peirianneg dŵr eu hunain sydd bellach yn cyflogi 10 o bobl ac maen nhw’n rhedeg busnes gwely a brecwast a bwthyn hunanarlwyo.

Meddai Eleri Lloyd yn ei chais: “Mae menywod heddiw yn cymryd llawer mwy o ran yn y broses o wneud penderfyniadau na chenhedlaeth eu mam. Maent yn chwarae rôl bwysig tuag at gyflawni busnes llwyddiannus.

‘Llawn haeddu’r teitl’

Y ddwy ddaeth yn agos at gipio’r wobr oedd Maureen Hedley, sy’n gweithio ar fferm laeth yn Sir Benfro, a Meinir Evans o Sir Gaerfyrddin sydd wedi blasu llwyddiant mewn cystadlaethau cneifio.

Dywedodd dirprwy lywydd NFU Cymru, John Davies bod cais y tair o safon uchel iawn.

Meddai:  “Fodd bynnag, roeddem yn unfrydol fel beirniaid, cyn gynted ag i ni adael fferm Eleri, bod rhaid iddi ennill y wobr eleni.

“Mae Eleri yn enghraifft wych o’r hen ddywediad – os ydych chi eisiau rhywbeth wedi ei wneud, gofynnwch i berson prysur – ac mae hi’n llawn haeddu’r teitl eleni.”

Derbyniodd yr enillydd powlen ffrwythau o wydr crisial Cymru a £500, tra bod y ddwy arall wedi derbyn £100 yr un.