Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn dros y rhan fwyaf o Gymru gan fod disgwyl cawodydd gaeafol heno.

Roedd rhagolwg o eirlaw ac eira yn yr Alban a Gogledd Iwerddon dros nos ac mae disgwyl i’r cawodydd effeithio Lloegr a Chymru yn nes ymlaen heddiw a thros nos tuag at yfory.

Mae’r swyddfa dywydd yn disgwyl cawodydd o genllysg, eirlaw ac eira dros Gymru nos Fawrth ac mae  tua 3 i 6cm o eira i’w ddisgwyl mewn mannau, yn enwedig ar dir uchel.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y dylai’r cyhoedd fod yn ymwybodol o’r posibilrwydd y gall y tywydd oer a rhew ar y ffordd darfu ar drafnidiaeth. Dylai’r cyhoedd hefyd fod yn ymwybodol o’r risg o amodau gyrru anodd.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi bod yr A44 ar gau oherwydd y tywydd garw.