Cathod mawr mewn syrcas Llun: Born Free
Mae elusennau a mudiadau lles anifeiliaid wedi datgan eu siom y bydd syrcas sy’n cadw cathod gwyllt mewn caethiwed yn cyrraedd Cymru ddiwedd yr wythnos hon.

Fe fydd syrcas Thomas Chipperfield yn cael ei chynnal yn y Trallwng rhwng 3 Gorffennaf a 12 Gorffennaf 2015 ond mae dwy elusen wedi galw ar i bobol gynnal boicot trwy wrthod mynd i’w gweld.

Yn ôl elsuen Born Free, sy’n ymgyrchu am ryddid anifeiliaid gwyllt, roedd y trefnwyr wedi “llusgo” pum cath fawr o gwmpas y Deyrnas Unedig “er mwyn diddanu cynulleidfaoedd â thriciau syrcas sydd wedi hen ddyddio”.

Eisoes, fe lwyddodd yr elusen i rwystro’r sioe – An Evening with Lions and Tigers – rhag cael ei chynnal ger Aberdeen yn yr Alban – fe wrthododd y cyngor lleol roi trwydded iddi.

‘Peidiwch â mynd’

Mae’r mudiad atal creulondeb, RSPCA Cymru, hefyd wedi mynegi pryder am amodau byw y tri theigr a’r ddau lew sy’n rhan o’r sioe a fydd yn agor yn y Trallwng ddydd Gwener.

“Mae cadw anifail mewn amgylchedd sy’n annaturiol i’w rywogaeth yn gallu achosi straen a phroblemau ymddygiad difrifol”, meddai Claire Lawson ar ran RSPCA Cymru.

“Rydym ni’n annog pobol i ddangos eu cefnogaeth, gan beidio â mynd i’r syrcas,” ychwanegodd.

Ar orsaf radio leol, fe bwysleisiodd Thomas Chipperfield nad syrcas draddodiadol oedd y sioe, ond “sioe addysgiadol” i ddangos sut y maen nhw’n hyfforddi’r anifeiliaid  – er y bydd yr anifeiliaid yn gwneud campau.

“Mae hefyd am yr anifeiliaid eu hunain a’u statws cadwraethol,” meddai. “A’r effaith y maen nhw wedi ei gael ar ddiwylliant pobol.”

Roedd y babell fawr yn cael ei chodi heddiw, meddai, ond pan gysylltodd Golwg360 â Chyngor Powys a Chyngor Tref y Trallwng, dywedodd llefarwyr nad oedd ganddyn nhw unrhyw wybodaeth amdani.

Fe wnaeth mudiad CAPS (mudiad dros les anifeiliaid caeth) ofyn i’r cyhoedd foicotio syrcas Peter Jolly a gynhaliwyd yn y Trallwng yn 2012. Roedd gan y syrcas honno hanes o gadw anifeiliaid gwyllt fel y sebra mewn caethiwed, a than y llynedd, roedd cathod Chipperfield hefyd yn rhan o syrcas Peter Jolly.

Gofyn am waharddiad

Mae’r elusen Born Free wedi gofyn am waharddiad ar gadw anifeiliaid gwyllt mewn caethiwed a’u defnyddio fel adloniant mewn syrcasau.

“Mae Llywodraeth San Steffan wedi addo gwaharddiad ar hyn inni erbyn 2015, ac mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi awgrymu eu cefnogaeth i’w wahardd yng Nghymru,” meddai Adam Roberts, Prif Weithredwr Born Free. “Er lles yr anifeiliaid, allwn ni ddim fforddio colli mwy o amser.”

Mae 23 o wledydd y byd eisoes wedi cyflwyno gwaharddiadau llawn neu rannol ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcas, gan gynnwys naw gwlad o Ewrop.

Ond, yn ôl Thomas Chipperfield, mae’n beth da fod Llywodraeth Prydain wedi rhwystro’r gwaharddiad.

“Does dim tystiolaeth wyddonol i wahardd y defnydd o anifeiliaid mewn syrcas,” meddai cyd-drefnydd y sioe, Anthony Beckwith.

Mae gan RSPCA ddeiseb ar-lein er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad ar gadw anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau sy’n teithio o gwmpas Cymru.

“R’yn ni wedi cael ymateb cadarnhaol i’r ddeiseb”, meddai Claire Lawson.

  • Arferai teulu’r Chipperfield fod â’r syrcas mwyaf yn Ewrop. Bydden nhw’n arddangos dros 200 o anifeiliaid gwyllt gan gynnwys eirth ac eliffantod.
  • Bellach, Thomas Chipperfield yw’r unig ddofwr cathod gwyllt ar ôl ym Mhrydain.
  • Mae’n cadw’r teigrod a’r llewod hyn mewn cewyll ger Fraserburgh, Sir Aberdeen.