Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Dechrau difa gwiwerod yng Ngwynedd

Rhagfyr 27, 2011 13:17, Diweddarwyd am 13:17


Gwiwer goch
Mae cynllun i ddifa gwiwerod llwyd wedi ymestyn y tu hwnt i Ynys Môn, i’r tir mawr.

Dywedodd yr elusen sy’n gwneud y gwaith eu bod nhw wedi derbyn adroddiadau fod gwiwerod coch bellach wedi eu gweld yn ardal Bangor.

Maen nhw wedi sicrhau fod y wiwer goch wedi goroesi ar Ynys Môn drwy ddifa y gwiwerod llwyd oedd wedi ymledu yno.

Mae nifer y gwiwerod coch ar yr ynys wedi cynyddu i 400, o 40 pan ddechreuwyd y gwaith 12 mlynedd yn ôl.

Dywedodd Cyfeillion Wiwerod Coch Môn fod y gwiwerod bellach wedi mentro dros y Fenai ac wedi eu gweld yn ardal Bangor dros y flwyddyn a hanner diwethaf.

“Rydyn ni bellach yn dechrau rhaglen newydd er mwyn  difa gwiwerod llwyd o Fangor i’r Felinheli, ac i fyny Dyffryn Ogwen,” meddai Dr Craig Shuttleworth o’r elusen wrth bapur newydd y Daily Post.

“Pan ddechreuon ni’r gwaith ar Ynys Môn ddegawd yn ôl doeddwn i erioed wedi meddwl y bydden nhw’n dechrau lledaenu i’r tir mawr.

“Mae gwiwerod coch wedi eu gweld yn ardal Bangor ers 2009, ac mae ambell un wedi ei weld yn y Felinheli, a hyd yn oed Bethesda. Mae’n bryd i ni gefnogi hynny.”

Dylai unrhyw un sy’n gweld gwiwer goch ac eisiau rhoi gwybod ffonio 07966150847.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Adam Jones , Rhagfyr 27, 2011 2:29 pm

Newyddion da am wiwerod coch, tybed a allwn ni sicrhau mae Cymru yw’r wlad cyntaf yn y DU i waredu’n coedwigoedd o’r wiwer llwyd yn gyfan gwbwl?

§

Ifan , Rhagfyr 27, 2011 3:18 pm

“tybed a allwn ni sicrhau mae Cymru yw’r wlad cyntaf yn y DU i waredu’n coedwigoedd o’r wiwer llwyd yn gyfan gwbwl?”

Mae gen i ddarn o bren efo hoelan ynddi. I’r goedwig!

§

Adam Jones , Rhagfyr 27, 2011 4:00 pm

Hahaha yn wir :P yn ôl bob sôn mae na flas ffein ar y naw arnynt hefyd :P Af i’r gegin i baratoi’r cawl!

§

Penri James , Rhagfyr 27, 2011 6:52 pm

Ga i awgrymu ichi roi llun wiwer lwyd gyda’r penawd yma rhag ofn i rywun camgymeryd bod angen difa wiwerod coch!

§

Dafydd , Rhagfyr 27, 2011 7:34 pm

Gallith rhywun ddweud wrthyf…..beth mae’r wiwer lwyd yn gwneud i’r un goch? Llad hi neu lledaenu salwch neu mynd a’r bwyd neu beth?

§| Nodi camddefnydd

Adam Jones , Rhagfyr 27, 2011 9:02 pm

Cyfuniad o’r 2 dafydd

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.