Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Horizon i gynnal cymhorthfa agored am Wylfa B

Ionawr 16, 2012 16:08


Wylfa
Bydd  Horizon yn cynnal ei Gymhorthfa Agored gyntaf yn 2012 yn Neuadd Bentref Cemaes wythnos i heddiw, cafodd ei gyhoeddi heddiw.

Bydd cyfle i bobl leol ofyn cwestiynau am gynlluniau’r cwmni ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa, meddai’r cwmni.

Fe ddywedodd Horizon y byddai Cymhorthfa Agored mis Ionawr yn rhoi cyfle i bobl “gyfarfod â thîm y prosiect a chael rhagor o wybodaeth am y datblygiad newydd arfaethedig.”

“Roedd ein Cymorthfeydd Agored yn hynod o boblogaidd yn 2011, ac rydym yn edrych ymlaen at gymhorthfa gyntaf 2012,” meddai  Alan Smith, Pennaeth Datblygu Safleoedd Horizon.

Bydd y gymhorthfa yn digwydd rhwng 1pm a 7pm ar 23 Ionawr yn Neuadd Bentref Cemaes.

Rali – Gwrthwynebiad i Wylfa B

Mae teulu o ffermwyr llaeth ar Ynys Môn wedi dweud y bydden nhw’n  “gwrthsefyll tactegau bwlio” cwmni Horizon sydd am godi ail atomfa ger Wylfa. Mae Richard a Gwenda Jones a’r teulu sy’n berchen fferm Caerdegog ger Llanfechell wedi  gwrthod gwerthu eu tir i Horizon.

Bydd ymgyrchwyr lleol yn ymgynnull yn Llangefni ddydd Sadwrn nesaf er mwyn dangos cefnogaeth i’r teulu.

Mae’r rali wedi’i drefnu gan nifer o fudiadau sy’n gwrthwynebu Wylfa B, PAWB (Pobl yn erbyn Wylfa B), Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, gyda chefnogaeth Greenpeace.

Bwriad yr ymgyrchwyr yw dangos cefnogaeth i Richard Jones a’i deulu a chodi ymwybyddiaeth o beryglon yr orsaf niwclear i’r amgylchedd a’r iaith Gymraeg. Bydd y rali’n cael ei chynnal am 2:30pm Ddydd Sadwrn ym Maes Parcio Ffordd Glanhwfa, Llangefni.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Rhys Llwyd , Ionawr 16, 2012 5:20 pm

Cofiwch wylio’r ffilm fer ‘Brwydr Caerdegog’ http://vimeo.com/33570778

§

Elin , Ionawr 19, 2012 11:21 pm

Cwestiwn i holi mewn cymhorthfa i weld sawl ateb bydd – Faint o swyddi fydd yn ystod y cyfnod adeiladu?
Pan yn trafod parhad yr iaith mewn cymunedau Cymraeg mae sôn am ganrannau’n hollbwysig. Felly wele dacteg newydd Horizon a’u cefnogwyr yn amlygu ei hun heno ar raglen ‘Pawb a’i Farn’. O 10,000 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu – ffigwr a ddefnyddiwyd yn gyson ers 2009 gan gynnwys gan Mr Alan Smith o’r cwmni yn 2011, cawn bellach gynrychiolwyr o’r cwmni yn dweud ar y teledu 5,000 a llai. Dyma ostwng y canrannau ar gyfer astudiaeth effaith ar y Gymraeg mewn chwinciad. Ond beth bynnag yw’r ffigyrau, cwmni Horizon sydd wedi dweud yn gyhoeddus eu bod yn disgwyl i oddeutu 75% o’r gweithwyr ddod o du allan i Ogledd Cymru. Felly sut bynnag maent yn bwriadu lleihau y niferoedd i lywio adroddiadau’n ffafriol, erys y ganran uchel yma o fewnfudwyr mewn ardal o bwysigrwydd ieithyddol eithriadol.
Mater bychan arall wrth gwrs ydi hygrededd cwmni sy’n gwyro rhwng amcangyfrif o 10,000 ac yna llai na 5,000 o swyddi, ag eto sydd am ein hargyhoeddi fod eu mathemateg yn ddigon da i ddiogelu Môn rhag ymbelydredd. Ai yr un mathemategwyr oedd wrth y teclyn rhyddhau nwyon ymbelydrol pan (http://www.independent.co.uk/news/uk/accident-at-wylfa-costs-power-firm-pounds-250000-fine-1601099.html 1995): “When the reactor was shut down there was a routine venting of slightly radioactive gases into the atmosphere, but the station released more than the Government’s pollution inspectorate had licensed it to. It was fined pounds 34,000 for that last year by magistrates at Almwch, Anglesey.” ?

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.