Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Tua 200 mewn rali yn gwrthwynebu Wylfa B

Ionawr 23, 2012 08:23, Diweddarwyd am 09:02



Roedd tua 200 mewn rali yn gwrthwynebu atomfa niwclear Wylfa B ddydd Sadwrn.

Fe drefnwyd y rali gan nifer o fudiadau sy’n gwrthwynebu Wylfa B, gan gynnwys PAWB (Pobl yn erbyn Wylfa B), Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Greenpeace.

Bwriad yr ymgyrchwyr oedd dangos cefnogaeth i Richard Jones a’i deulu o fferm Caerdegog sy’n gwrthsefyll cynlluniau cwmni Horizon i brynu eu tir, a chodi ymwybyddiaeth o beryglon yr orsaf niwclear i’r amgylchedd a’r iaith Gymraeg.

Ymhlith y siaradwyr oedd Menna Machreth, Cymdeithas yr Iaith – oedd wedi trydar y neges ganlynol ar ôl y rali.

‘Awyrgylch drydanol yn Llangefni, 200 o bobl yn cefnogi teulu Caerdegog ac yn dweud ‘na’ i Wylfa B. Diolch i bawb a ddaeth! #ymlaen2012

Cymhorthfa Agored

Heddiw, fe fydd Horizon yn cynnal Cymhorthfa Agored yn Neuadd Bentref Cemaes i drafod eu cynlluniau gyda’r cyhoedd.

Bydd cyfle i bobl leol ofyn cwestiynau am gynlluniau’r cwmni ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa, meddai’r cwmni.

Fe ddywedodd Horizon y byddai Cymhorthfa Agored yn rhoi cyfle i bobl “gyfarfod â thîm y prosiect a chael rhagor o wybodaeth am y datblygiad newydd arfaethedig”.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Robat Idris , Ionawr 23, 2012 12:49 pm

Cefais y fraint o fod yn un o’r tri gariodd y faner ar flaen yr orymdaith ddydd Sadwrn. Rhoddwyd neges glir i gwmni Horizon – sy’n gyfuniad o ddau o’r chwe cwmni mawr sy’n gyfrifol am eich biliau trydan drud – nad oes yna groeso gan lawer ohonom ym Môn i’w cynllun i godi atomfa yma. Ysbrydoliaeth i bob Cymro a Chymraes oedd clywed geiriau herfeiddiol Richard Jones, Caerdegog – dyma un gwr nas gellir ei brynu, dyma asgwrn cefn a dyma achos sy’n haeddu ein cefnogaeth.
Collwyd Tryweryn, collwyd Epynt – ond cofiwch fod Cwm Gwendraeth a Chwm Senni wedi eu hachub. Mynnwch ddyfodol i’n cymunedau Cymraeg, mynnwch waith cynaladwy a gwyrdd, a mynnwch roi’r farwol i’r diwydiant niwclear drud a pheryglus.

§

John Griffith , Ionawr 23, 2012 3:51 pm

Clywch, Clywch. Pob dymuniad da i deulu Caerdegog.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.