Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Ardal fenter: Croesawu cyhoeddiad am Drawsfynydd

Chwefror 1, 2012 13:48


Trawsfynydd
Mae AC Dwyfor Meirionnydd wedi croesawu’r cyhoeddiad bod hen safle niwclear Trawsfynydd yn cael ei gwneud yn Barth Menter Ynni arbenigol.

Cyhoeddodd y Gweinidog Economi a Busnes, Edwina Hart, y newyddion yn y Senedd ddoe.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw datblygu’r Safle Ddatgomisiynu Niwclear yn barth arbenigol Ynni, Amgylchedd a Thechnoleg Newydd yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri.

‘Economi werdd’

Rwyf wrth fy modd gyda’r cyhoeddiad, ac yn falch dros ben fod y Gweinidog wedi cydnabod yr angen am fuddsoddiad yn safle Trawsfynydd,” dywedodd yr AC Dafydd Elis-Thomas, llefarydd Plaid Cymru ar yr Amgylchedd ac Ynni.

“Rhaid i ni yn awr fanteisio ar gyfleoedd yr economi werdd yma yng Nghymru, gan fuddsoddi mewn swyddi gwyrdd a thrwy hynny helpu adferiad economaidd cynaliadwy.

“Mae creu Parth Menter Ynni yn Nhrawsfynydd, ar safle sydd â chymaint o botensial i ddatblygu a chreu ynni adnewyddol, yn esiampl berffaith o’r modd y gall llywodraeth a busnes gydweithio a chreu twf cynaliadwy.”

‘Gobaith newydd i’r ardal’

“Bydd dynodi Trawsfynydd fel Parth Menter yn creu gobaith newydd i’r ardal,” dywedodd Dyfed Edwards, Arweinydd y Blaid ar Gyngor Gwynedd.

“Mae hyn yn newyddion gwych i Drawsfynydd, i Feirionnydd ac yn wir i’r gogledd-orllewin yn ei gyfanrwydd.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Jones , Chwefror 1, 2012 8:57 pm

Felly basically, mae bron iawn i Gymru gyfan yn ardal fenter!

I fod yn effeithlon, dylsa’r Llywodraeth wedi cael gyts a dewis tri da, a gwario yn sylweddol yn yr ardaloedd yma. NID cael un yn pob cornel i enill pleidleisiau (jest cyn etholiad ym mis Mai!!)

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.