Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



250 mewn protest ynni gwynt yn Llangefni

Chwefror 1, 2012 17:12, Diweddarwyd am 17:47


Protest Llangefni
Daeth  250 o bobl i brotestio yn erbyn cynlluniau ar gyfer melinau gwynt ar Ynys Môn heddiw.

Fe fu’r protestwyr yn ymgynull  tu allan i Swyddfa’r Cyngor Sir yn Llangefni.

Mae’n dilyn cyfarfodydd cyhoeddus ym Mhentraeth, Penmynydd a Llanddona lle bu cannoedd yn lleisio eu pryderon am gynlluniau ar gyfer rhagor o felinau gwynt.

Barn protestwr

Dywedodd un o’r protestwyr Paul Williams wrth Golwg 360 bod y protestwyr yn gwrthwynebu cynlluniau ar  gyfer melinau gwynt hyd at 100 metr o uchder.

Mae Paul Williams, sy’n byw yn Llangefni, yn honni fod Cyngor Ynys Môn yn ceisio sefydlu’r ynys fel safle ynni gwyrdd heb ystyried y gwrthwynebiad mawr yn y gymuned leol i nifer o’r cynlluniau.

“Daeth 250 o bobl i bwysleisio methiant y Cyngor i ystyried effaith y cynlluniau newydd,” meddai.

Mae’n dweud hefyd fod nifer o’r prosiectau ynni newydd yn rhy fawr i Ynys Môn.

“Mae angen i Gyngor Sir Ynys Môn feddwl yn ofalus am ei strategaeth, a sicrhau nad yw’r ynys yn troi’n fin sbwriel i brosiectau ynni anaddas.”

Mae yna bryderon y bydd y datblygiadau ynni newydd yn cael effaith andwyol ar ddiwydiant twristiaeth yr ardal.

Dywedodd Paul Williams fod Brian Owen, Arweinydd y Cyngor, wedi dod  i siarad gyda’r protestwyr.

“Dywedodd e tra’i fod e yn arweinydd, fydd y Cyngor yn gwrando ar lais y bobl.”

Cynlluniau

Roedd y protestwyr wedi penderfynu cynnal y brotest heddiw am mai dyma’r tro olaf i’r Pwyllgor Cynllunio gyfarfod cyn penderfynu ar ddogfen gynllunio newydd.

Bydd y ddogfen newydd yn cynnwys arweiniad y cyngor ynglŷn a chynlluniau ar gyfer melinau gwynt ar yr ynys.

Ar hyn o bryd mae yna dair fferm wynt ar Ynys Môn, ger Llyn Alaw, Trysglwyn a Chemaes.  Mae’r melinau gwynt presennol ger Llyn Alaw yn 31 metr o uchder.

Fodd bynnag, mae yna gynllun i godi fferm wynt fawr yn y môr ger Ynys Môn. Centrica, sy’n rhan o Nwy Prydain, sy’n gyfrifol am y cynllun yma.

Byddai’r fferm wynt naw milltir o’r arfordir, a’r gobaith yw y bydd yn gallu cyflenwi pwer i 3 miliwn o gartrefi.

Mae protestwyr hefyd yn codi pryderon am gynlluniau i osod tyrbin 71m o uchder ar fferm yn Rhoscefnhir, ger Pentraeth, a nifer o bolisïau ynni newydd arall y Cyngor.

Arweinydd y Cyngor

Dywedodd Arweinydd y Cyngor Brian Owen wrth Golwg360 ei fod yn “ymwybodol o’r pryderon sy’n bodoli, yn enwedig am y tyrbinau mawr.”

“Rydym ni mewn proses o ymgynghoriad, yn edrych ar ein polisïau ynni gwynt. Mae hwn yn dod i ben ar Chwefror 10, a rydym ni’n annog y cyhoedd i roi eu barn i’r Cyngor.”

Soniodd hefyd fod y Cyngor wedi cynnal “cyfarfod cynhyrchiol ac adeiladol” gyda’r grŵp ‘Anglesey Against Wind Farms.’

“Unwaith mae’r cyfnod ymgynghori ar ben, fe fyddan ni’n ystyried newidiadau i’r ddogfen gynllunio, ac yn sicrhau fod unrhyw ddatblygiadau o fewn rheswm.

“Mae Ynys Môn yn enwog am ei harddwch – y peth d’wetha’ da ni isio ydy boddi’r ynys efo melinau gwynt.”

Bydd yna gyfarfod cyhoeddus arall i brotestwyr heno am 7.30pm yn Neuadd Plwyf Llandegfan.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Jones , Chwefror 1, 2012 5:36 pm

Ambell i bwyntiau:
nid yw ffermydd gwynt yn ffordd effeithlon o gael ynni. dwin siwr bod sawl wedi gweld ffermydd sydd ddim yn symud hyd yn oed mewn storm. RHAID ir cwmniau 1/3 yn fwy am drydan o rhain = biliau mwy i ni. Felly mewn stormydd, mae lot o gwmniau yn talu i ffermydd i beidio cynhyrchu IA TALU I BEIDIO CYNHYRCHU.

ond os nawni gogio eu BOD nhw yn effeithlon:

Pam, pam pam dinisitrio nifer o gymunedau? mewn ardal sydd yn dibynnu ar twrisitiaeth? Does neb wedyn wedi ystyried y pylons caiff ei adeiladu trwy y Gogledd i garior trydan. Pam ddim cael un anferth, dinistrio un lle? Neu efallai cael nhw yn y mor, yn bell o adar ac o’r twrisitiaeth. Dwi hefyd yn cwestiynu pam nad yw rhai or rhain ddim yn cael ei rhoi ar ben adeiladau mewn dinasoedd.

Neu gwell fyth- pam ddim anghofio am ffermydd gwynt. A chael rhai llawer mwy effeithlon megis defnyddio’r mor.
Rhaid hefyd cofio bod Cymru yn eithaf hunan gynaliadwy ynglyn a ynni – pam dylsa cefn gwlad Cymru unwaith eto chael ei dinistrio ar gyfer dinasoedd mawr Lloegr!!!??? Mae’n bryd ir Lake District gael fferm wynt!

§

Lewis , Chwefror 1, 2012 7:05 pm

Peidiwch â lladd yr adar

§

Lewis , Chwefror 1, 2012 7:05 pm

Peidiwch â llad yr adar

§

DC , Chwefror 2, 2012 6:39 am

Arhoswch chi nes y bydd rhaid i chi ymdopi efo’u swn nhw. Nid am dwristiaid y byddwch chi’n poeni bryd hynny. A pheidiwch a chredu’r storis eu bod nhw’n segur yn aml. Y tro diwethaf y bu’r rhai i fyny’r ffordd yn llonydd oedd yng nghanol mis Mehefin y llynedd. Dyna oedd y tro dwiethaf i mi mi gael noson cyfan o gwsg. Mae’r swn i’w glywed yn waeth yn y nos gan nad oes yna ddim byd i gystadlu efo fo. Mae o hefyd yn waeth yn y ty oherwydd ei amledd isel.

Gwglwch y pdf yma i chi weld y math o effaith mae byw yn ymyl tyrbinau gwynt yn ei gael ar iechyd pobl ac anifeiliaid:

windfarms science forum mariana alves pereira.

A pheidiwch a choelio beth mae ‘Renewable UK’ yn ei ddweud am swn amledd isel (low frequency noise). Maen nhw’n awgrymu bod dyluniad tyrbinau modern yn dileu’r broblem. Ei wella fo mae o. Maen nhw hefyd yn dyfynnu’r Doctor Jeff Leventhal. Os darllenwch chi’r hyn sydd gan Leventhal i’w ddweud am swn amledd isel, fe welwch chi bod y dyfyniad yn un mor ddewisol ag i awgrymu bod Renewable UK yn ceisio camarwain pobl.

Gwrthwynebwch nhw rwan hogie cyn y bydd hi’n rhy hwyr.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.