Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Bygwth deddf amgylcheddol ar ffermwyr

Chwefror 2, 2012 07:46


Alun Davies
Mae ffermwyr wedi cael rhybudd y gallen nhw wynebu deddfau newydd os na fydd rhagor yn ymuno gyda’r cynllun ffermio newydd, Glastir.

Dyna’r awgrym mewn datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaeth, Alun Davies, wrth gyhoeddi’r ffigurau diweddara’ am y cynllun amaeth-amgylcheddol sy’n cynnig arian i ffermwyr am ofalu am yr amgylchedd.

Mae hefyd wedi awgrymu y gallai’r diwydiant amaeth golli’r arian sydd ar gael os na fydd ffermwyr yn ei hawlio.

Glastir yw ffordd y Llywodraeth o dalu i ffermwyr am gwrdd â gofynion yr Undeb Ewropeaidd – y dewis arall fyddai deddfau a dim iawndal, meddai.

Adolygiad arall

Mae Alun Davies hefyd wedi cyhoeddi y bydd adolygiad arall o’r cynllun sydd wedi cael ei feirniadu’n hallt gan yr undebau ffermio.

Fe ddywedodd y byddai’n barod i wrando ar gynigion am ffyrdd o wella’r cynllun ac fe bwysleisiodd bod y broses o rannu gwybodaeth amdano eisoes wedi ei newid.

“Bydd y broses pwyso a mesur yma’n digwydd yn ystod y misoedd nesa’ ac wedi gorffen erbyn dechrau’r haf,” meddai.

Dim ond 1,698 o ffermydd sydd bellach wedi ymuno gyda phrif elfen Glastir ac, er y bydd rhagor yn ymuno wrth i gynlluniau eraill ddod i ben, dim ond hanner y 10,300 yn y cynllun Tir Mynydd sydd wedi mynegi diddordeb.

Geiriau’r Gweinidog

“Mae’r diwydiant ffermio yng Nghymru’n ymwybodol fod £89 miliwn y flwyddyn ar gael ar hyn o bryd ar gyfer Glastir a’r cynlluniau amaeth-amgylcheddol sy’n dod i ben.

“Os na fydd yr arian yna’n cael ei gymryd, fe fydd llawer o alwadau am iddo gael ei ddefnyddio mewn meysydd eraill.

“Mae Glastir yn cynnig peirianwaith er mwyn i Lywodraeth Cymru allu rhoi iawndal i ffermwyr am eu gweithredoedd i gyflawni’r hyn y mae’n rhaid i Gymru ei gyflawni o ran nifer o Orchmynion Ewropeaidd.

“Mae’n bosib iawn mai’r dewis arall yn lle Glastir fydd deddfwriaeth heb y taliadau iawndal y mae ffermwyr yn Glastir yn eu mwynhau.”

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Andrew , Chwefror 2, 2012 3:13 pm

Bygwth, bygwth, bygwth. ‘Does gan Alun Davies yr un cydymdeimlad a’r Gymru wledig (ei sylwdau ar Pawb a’i Farn y noswaith o’r blaen yn dangos hyn yn glir). Mae ‘na sut gymaint o bethau mae’n rhaid i chi eu gwneud a phethau eraill na gewch chi wneud er mwyn cydymffurfio a’r rheolau, rydych chi’n colli pob rheolaeth o’ch busnes eich hun. ‘Rwy’n gwybod fod llenwi ffurflenni a dweud y drefn yn apelio yn fawr iawn i wleidyddion a biwrocratiaid, ond, i’r gweddill ohonom ni sydd a hen ddigon o waith arall i’w wneud, mae nhw’n boendod. ‘Rwyf o blaid cadwriaeth ar bob cyfri’, ond mae’r cynnydd ym mhoblogaeth y byd yn golygu y bydd rhaid i ffermwyr fynd yn ol at eu gwaith mwya’ pwysig, sef cynhyrchu bwyd.

§

CGT , Chwefror 4, 2012 11:28 am

Mae angen i bob ffermwr yng Nghymru ddechrau tyfu baco – buasent yn cael pob cefnogaeth gan Alun Davies bryd hynny.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.