Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc: ymateb chwyrn

Tachwedd 19, 2012 13:20, Diweddarwyd Tachwedd 21, 2012 09:21


Y sgets o'r ddau ddyn o Tsieina
Mae rhai o eitemau Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc nos Sadwrn wedi cael eu cyhuddo ar gyfryngau cymdeithasol o fod yn “hiliol” ac mae S4C wedi tynnu’r rhaglen oddi ar wefan ail-wylio Clic.

Cafodd yr Eisteddfod ei darlledu yn fyw o Abergwaun ac mae eitemau oedd yn cynnwys dynwarediadau o ddau ddyn o Tsieina, babi du esgus, a dynion yn gwisgo fel merched wedi cael eu beirniadu’n hallt.

Mae’r sylwebydd Cris Dafis wedi trydar fod y darllediad yn “anfaddeuol.”

“Braf gweld bod y traddodiad o fychanu menywod, hoywon a dysgwyr yn dal yn fyw ac yn iach yn Steddfod y Ffermwyr Ifanc,” trydarodd.

“Rhaid iddyn nhw beidio cael getawê jyst achos bod e’n y Gymraeg.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys: “Mae S4C yn ymddiheuro am unrhyw loes a gafodd ei achosi i wylwyr yn ystod cyfran fach o’n darllediadau o Eisteddfod Ffermwyr Ifanc 2012.

“Ar hyn o bryd, rydym yn ymchwilio i’r mater yma ac mae’r rhaglen wedi’i thynnu oddi ar ein gwefan.

“Er y cwynion am rai elfennau penodol, mae rhaglenni S4C o’r Eisteddfod wedi denu llawer iawn o ganmoliaeth hefyd.”

Dywedodd Cadeirydd cenedlaethol CFfI Cymru, Gwenno Griffith, fod y mudiad yn “ymddiheuro os oes loes wedi cael ei achosi ond doedd dim malais i’r eitemau na bwriad i achosi loes.”

Ychwanegodd y bydd y CFfI yn adolygu’r eisteddfod ac yn ystyried y sylwadau sydd wedi cael eu gwneud.

‘Wedi neud Bernard Manning yn prowd’

Trydarodd Mei Gwilym y byddai’r eisteddfod wedi “neud B Manning yn prowd,” gan gyfeirio at y diweddar ddigrifwr Bernard Manning oedd yn enwog am wneud jôcs am ben lleiafrifoedd.

Yn ôl Iwan Ellis-Roberts, “Steddfod CFfI. ping a pong, babi du yn achosi ysgariad, blacio fyny, be nesa? Go iawn rhaid i rywun gal gair. Hiliaeth nid hilarious.”

“Gwarthus bod yr eitemau wedi’u darlledu o gwbl,” oedd sylw Malan Wilkinson.

Dywedodd Ifan Morgan Jones fod y Ffermwyr Ifanc yn “gwneud lot o waith da ond angen bod yn ofalus nad ydyn nhw’n dadwneud hynny drwy lwyfannu cynnwys anaddas.”

Cafodd cynnwys yr eisteddfod ei amddiffyn gan  Lowri Jones sy’n trydar dan y cyfeiriad Lowri Fron.

“Ma pobol gul iawn yn y wlad ma os ma nhw’n meddwl bod pob ymgais i ddynwared yn ymgais i sarhau,” meddai ar ei chyfrif Twitter.

Roedd mwyafrif llethol y sylwadau a gafwyd ar raglen BBC Radio Cymru, Taro’r Post hefyd o blaid yr eitemau ac yn anghytuno a’r rhai oedd wedi cwyno.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Guto , Tachwedd 19, 2012 2:07 pm

Mi fedrai’r josgins bach ddatrys yr holl beth drwy ryddhau datganiad syml: ‘We so solly’. Chwarae teg i bobl am drio amddiffyn y mudiad, ond mae’n amhosib cyfiawnhau’r fath dwpdra, mae arna i ofn.

§

Anon , Tachwedd 19, 2012 2:40 pm

Cytuno llwyr ac uchod, mi glywais Taro Post jesd nawr a wnaeth y ferch ar y dechrau’r rhaglen (ddim yn cofio’r enw) a’r colofnydd Cris Dafis siarad yn ardderchog chwarae teg.

Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc yn peth positif iawn i Gymru a’r cefn gwlad, a mae’n trueni mawr bod nhw wedi gadael eu hunain lawr efo hiwmor non-pc fel hyn.

§| Nodi camddefnydd

Delyth , Tachwedd 19, 2012 2:40 pm

Gwnaeth Ifan Gruffydd bwynt teg ar Taro’r Post; byddai rhegfeydd diddiwedd o bosib yn dderbyniol gan y bobl sydd wedi cwyno, ond dyw sgetsh sy’n dynwared neu’n portreadu ddim yn dderbyniol o gwbl. Rhyfedd o fyd.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Williams , Tachwedd 19, 2012 2:48 pm

Blydi gor-ymateb eto gan S4C oherwydd Chris

§| Nodi camddefnydd

barcud , Tachwedd 19, 2012 2:54 pm

bendith tad. Fydd pob dim mor PC yn fuan fydd dim posib gwneud unrhywbeth. Calliwch wir ddyw. Dim ond chydig o hiwmor naturiol oedd ‘na dim malais. Typical dosbarth canol Cymraeg

§| Nodi camddefnydd

Guto , Tachwedd 19, 2012 3:00 pm

Oni fyddai digrifwr o’r oes sydd ohoni yn medru taflu mwy o oleuni ar hyn na Ma Ifan Ma (â phob parch, roeddwn i’n ffan mawr ers talwm)? Pam fod o’n tybio y byddai pobl sy’n cwyno am bortreadau hiliol wrth eu boddau â rhegfeydd diddiwedd? Dwi’n nabod neb a fyddai’n gweld hynny’n dderbyniol mewn darllediad fel hyn, a hyd y gwn i dydi’r fath raglen erioed wedi ymddangos ar S4C.

Mi fydda innau’n rhyfeddu bod gymaint o Mary Whitehouses yn barod i amddiffyn hiliaeth, homoffobia a chasineb at fenywod, ond yn ffieiddio at lond dyrnaid o eiriau sydd wedi dod allan o gegau pobl ers cyn cof.

Gyda llaw, os gewch chi gyfle chwiliwch am glip fideo George Carlin yn sôn am ‘The 7 Words You Can’t Say On TV’ – mor ffres heddiw ag erioed.

§| Nodi camddefnydd

Guto , Tachwedd 19, 2012 3:10 pm

Hiwmor naturiol yn y 1970au ella, Barcud. Dwi’n methu’n lân â deall ble mae pobl ifainc wedi gweld portreadau mor blentynnaidd o gyntefig am eu cyd-ddyn, heb sôn am ddeall pam eu bod nhw’n meddwl y byddai’n werth gwneud hyn ar lwyfan genedlaethol. Wedi’r cyfan, dydi hen stereoteip ‘y Tsienî’ ddim yn bodoli yn ddiwylliannol mwyach ond fel ‘shorthand’ am ragfarn hen ffasiwn a synnwyr digrifwch gwael – siawns fod pawb wedi gweld y bennod glasurol o Father Ted a’r tro hwnnw y marwodd gyrfa Krusty’r Clown ar y Simpsons?

§| Nodi camddefnydd

barcud , Tachwedd 19, 2012 3:20 pm

wel Guto medrai ddweud wrthot mae’r sgets ‘y Tseini’ oedd yr un a gafodd yr ymateb gorau gan y plant trefol acw a’u ffrindiau!! Chill out….

§| Nodi camddefnydd

Guto , Tachwedd 19, 2012 3:31 pm

Wel mae hynny’n galonogol. Be fydda nhw’n ei wylio’r penwythnos nesaf, Stan Boardman?

Dim ond yr wythnos diwethaf cafwyd ymgais i ledaenu straeon enllibus am gymunedau Cymreig, a dyma gadarnhau’r hen ystrydebau ein bod yn genedl ynysig, annatblygedig.

§| Nodi camddefnydd

barcud , Tachwedd 19, 2012 3:58 pm

Prin y medri di gymharu cynnwys steddfod Ffermwyr Ifanc efo’r rwtsh am addysg Gymraeg wythnos diwethaf. Does ryfedd fod pobl yn troi am pethau Saesneg am hwyl-fyw i chi wneud unrhywbeth nad yw’n PC yn Gymraeg. Yn y diwedd chi’n gwneud mwy o ddrwg na lles. Synnwyr cyffredin sydd angen

§| Nodi camddefnydd

Guto , Tachwedd 19, 2012 4:18 pm

‘Synnwyr cyffredin’! A’n gwaredo… Mae pobl fel Bois Garnfach, er enghraifft, yn dangos bod modd cynhyrchu comedi gwerinol, afieithus heb fod yn sarhaus nac yn rhy ‘ddiogel’. Ar S4C mae rhaglenni fel Gwlad yr Astra Gwyn yn dangos cryfderau’r Cymry o ran ysgrifennu a pherfformio. Does dim angen i ni bwyso botymau i gael ‘easy laughs’, does dim angen i ni ddibynnu ar ragfarnau pobl i’w difyrru.

Dydio ddim yn fater o droi at bethau Saesneg chwaith, roedd ‘hiwmor’ fel hyn yn boblogaidd iawn mewn cyfnod pan nad oedd S4C yn bodoli. Y ffaith ydi fod llawer o gampweithiau diwylliannol yn cael eu creu yn Saesneg, ac nid yw cenedlaetholdeb na balchder yn ein diwylliant yn rhesymau dros amddifadu ein hunain o’r rhain – ac yn wahanol i’n cymdogion Eingl-Sacsonaidd rydym ni’n medru gwerthfawrogi campweithiau’r Gymraeg ar yr un pryd!

§

barcud , Tachwedd 19, 2012 4:30 pm

Y gwir plaen di byddai rhelyw siardwyr Cymraeg naturiol yn gweld fawr ddim o’i le efo’r Steddfod Dydd Sadwrn, ar diwedd y dydd nid malais oedd sail y perfformiadau ac mae angen cofio hynny. Mae gwir peryg fod pob dim yn y Gymru Gymraeg yn cael ei blismona cymaint i fod yn PC hyd syrffed trwch y boblogaeth ac yn eironig yn groes i ddymuniadau nifer fawr o’r union pobl y dylid fod yn targedu fel gwylwyr a defnyddwyr gwasanaeth posib. Oes does dim angen rhagfarnu, ond rhaid gochel rhag atal pob hiwmor a phob dim. Be fydd nesaf-methu gwneud sgets am y moch daear fel a wnaed gan Maldwyn gan bod rhai yn anghytuno efo’r ddadl ar TB !!

§| Nodi camddefnydd

Jason Morgan , Tachwedd 19, 2012 4:32 pm

Dydw i heb weld y rhaglen – dw i ddim isio – ond ga’i awgrymu mai dim ond ychydig o flynyddoedd yn ôl y gwnaeth Little Britain ddod yn eithriadol o boblogaidd efo fwy neu lai’r union y math hwn o hiwmor – ystrydebau, blacio fyny weithiau, gwneud hwyl am ben pobl Tsieineaidd a hoyw ac ati – a ddim chwaith defnyddio’r esgus wan y mae cymaint o ddigrifwyr yn ei wneud eu bod nhw’n dweud jôcs hiliol neu sarhaus “er mwyn gwneud hwyl ar y bobl hynny sydd yn hiliol neu’n sarhaus go iawn yn wahanol i fi”. Comedi sarhaus oedd o fod, a dyna oedd yr atyniad hefyd.

Dydw i ddim yn dadlau y naill ffordd na’r llall o ran hyn, nac am ddadlau o ran beth sy’n iawn i wneud hwyl amdano ac sy ddim, nac yn gwneud cymhariad pendant achos welish i mo’r darllediad, ond mae’n rhywbeth i’w ystyried. Gwynodd fawr o neb am yr agweddau tebyg *iawn* ar Little Britain, felly tybed oes ‘na elfen o rai pobl yn cael getawê efo’r math hwn o hiwmor a rhai eraill ddim, a hynny’n dibynnu ar fawr fwy na ni’n penderfynu ar hap pwy gaiff?

(O.N. o’n i’n lyfio Little Britain)

§| Nodi camddefnydd

Jones , Tachwedd 19, 2012 4:36 pm

Sylwadau DBLl Chris am eitemau Eisteddfod Ffermwyr Ifanc yn adlewyrchu’r hollt sydd o fewn y Gymdeithas Gymraeg yng Nghymru, y hollt rhwng y sawl a ystyriai’r Iaith yn briod iaith iddynt, yn iaith naturiol bob dydd a’r sawl sydd yn defnyddio’r iaith fel platfform i werthu’u hunain mewn bywyd dinesig Seisnig, wnai adael i chi ddyfalu at ba grŵp mae’r naill garfan o bobl yn perthyn.

§

barcud , Tachwedd 19, 2012 4:36 pm

Clyw clyw Jason

§| Nodi camddefnydd

Guto , Tachwedd 19, 2012 4:41 pm

Jason, oeddwn i dan yr argraff mai dychanu agweddau cul am bobl ‘wahanol’ oedd diben y rhaglen i ddechrau – ‘Little England/Little Britain’, ac roedden nhw’n gwneud hynny mewn ffordd gelfydd, feiddgar a heb bregethu ar bobl. Serch hynny, dwi’n meddwl fod llawer yn teimlo fod yr weledigaeth honno wedi’i haberthu erbyn y diwedd er mwyn cael ‘easy laughs’, ac roedd y gyfres ddilynol am y maes awyr yn afiach o hiliol.

§

Jason Morgan , Tachwedd 19, 2012 5:04 pm

Guto, efallai dy fod yn gywir (dwnim a lwyddwyd i wneud hynny o gwbl efo nifer o’r sgetsys mewn gwirionedd) – ond serch hynny dw i’n meddwl bod o’n gymhariaeth deg ar y cyfan. A dwi’n meddwl bod ‘na ddigon o ddigrifwyr a rhaglenni sy’n defnyddio “gwneud hwyl am ben pobl sy’n hiliol” (er enghraifft – mae’n fwy na jyst hil) fel esgus digon gwantan i ddweud jôcs a fyddai fel arall yn hiliol iawn (dw i’n meddwl bod Family Guy hefyd yn enghraifft berffaith o hyn).

Hiwmor y byddai rhai ohonom yn ei ystyried yn ‘dated’ efallai oedd y rhan fwyaf ohoni, dwnim – fel y dywedais welish i mohono felly dw i ddim yn y sefyllfa orau i gynnig sylwadau. Serch hynny, jyst o ddarllen rhywfaint amdano, fedra i ddychmygu’n hawdd lot o Gymry Cymraeg yn ffeindio hiwmor tebyg *yn* ddoniol. Mae’n anodd iawn gwybod ble mae’r ffin – ydan ni’n cael gwneud hwyl am ben pawb, neb neu rai grwpiau penodol?

§

Rhydian Mason , Tachwedd 19, 2012 5:23 pm

Dewch i ni wneud yn glir fod 2 elfen i’w trafod yma.

1: Penderfyniad S4C a BBC Radio Cymru i ddarlledu’r darnau.

2: Y math o hiwmor sy’n cael ei fwynhau gan filoedd o bobl trwy Gymru yn eisteddfodau sirol a chenedlaethol mudiad y Ffermwyr Ifanc, ac hefyd y nifer enfawr o nosweithiau llawen sy’n cael eu cynnal gan y clybiau yn eu hardaloedd. Cofiwch mae’r aelodau sy’n sgwennu’r rhan fwyaf o’r darnau gwreiddiol, ac nid bobl broffesiynol sy’n cael eu talu. Mae’r ffaith fod miloedd o bobl yn mwynhau’r perfformiadau ac yn dychwelyd yn flynyddol i gefnogi’r aelodau a’r adloniant maent yn eu ddarparu yn dangos fod y perfformiadau a’r gynulleidfa yn siwtio eu gilydd. Os nad ydych chi’n ffan o hiwmor cefen gwlad, trowch y sianel. Dyma’r math o hiwmor sy’n dal ei dir – beirniadwch e os chi am, a dwi’n gallu gweld yn iawn fod yna fathau newydd o hiwmor wedi datblygu, ond dydi hynny ddim i ddweud nad yw’r hen hiwmor yn ‘obsolete’.

weles i ddim un ymgais i ddwrdio, na sarhau o ddifri – dim ond ambell ‘nod’ i fobl o dras gwahanol ac wrth gwrs defnyddio rhyw gymaint o’r stereoteips sy’n bodoli, a hynny mewn ffordd reit ddiniwed.

Roedd deuawd doniol bois CFfI Dyffryn Cothi gyda un o’r rhai gore dwi wedi weld ers blynydde, lot o hwyl, chwerthin, ac yn amlwg, neb yn cymryd y peth gormod o ddifri – mwynhau, codi gwen, ac os yw embassy’r Tseineaid yn gweld unrhyw broblem gyda’r peth, mae pob croeso iddyn nhw gwyno.

Os oes bobl o dras Tseineaidd wedi gwylio’r eisteddfod (o’i gwirfodd), dwi’n siwr y buasan nhw yn ymwybodol o’r math o hiwmor a sgetsys oedd am ddod – digwydd bod mae deuawd doniol wedi ei seilio ar 2 gymeriad ffug o Tseina oedd hwn.

Beth pe bai pwnc y deuawd doniol wedi ei seilio ar bobl o Gymru yn gwerthu cawl? Neu bobl o’r Alban mewn kilts yn gwerthu Mars Bar Fritters o siop sglodion? Neu Gwyddelod byr mewn gwallt coch a top hats gwyrdd yn gwerthu Guinness?

Rhowch y peth mewn pyspectif. Mwynhewch yr hiwmor, ac os na fedrwch wneud hynnu, trowch y sianel, neu ewch allan i achub y byd.

§

Dai , Tachwedd 19, 2012 5:27 pm

Siomedig iawn yn ymateb Radio Cymru a’r cyfryngau i hyn holl.

Mae yna wahaniaeth mawr rhwng “hiliaeth” a bod yn “non-PC” ac nid yw’r gwahaniaeth hynny wedi ei hadlewyrchu yn yr eitemau na’r trafodaeth yn y wasg. Diffiniwyd person hiliol fel

“a person who believes that a particular race is superior to another: ”

Mae cyhuddo unrhyw unigolion o fod yn hiliol yn fater difrifol iawn ond mae cyhuddo pobl ifanc o hynny yn gyhoeddus yn fater difrifol iawn iawn heb ymchwiliad safonol i fewn i’r cyhuddiadau – paid trial dweud bod Radio Cymru wedi cael amser i wneud ymchwiliad yn y 40 awr ers diwedd yr Eisteddfod.

Mae cyhuddo’r aelodau ifanc yma o fod yn hiliol (yn ôl y diffiniad uchod) yn hollol hollol anfaddeuol heb ymchwil mewn i’er cyhuddiad. Fel aelod o G.Ff.I Sir Gâr, a rhywun sy’n nabod y pobl ifanc dan sylw, dylai Radio Cymru bod yn hollol, hollol “ashamed” o’r cyhuddiadau di-sail yma ac yn dilyn yr holl helynt wrth gyhuddo Lord McAlpine yn di-sail yn ddiweddar, byddai rhywun yn meddwl bod y BBC yn sicrhau bod yr holl ffeithiau mewn lle cyn cyhuddo pobl o hyn.

Nai amddiffyn Mudiad y Ffermwyr Ifanc hyd y bedd a pe bai pobl wedi gwneud ymchwil drylwyr mewn i’r mudiad yn lle gwneud cyhuddiadau di-sail yn erbyn pobl ifanc bregus byddai’n amlwg i bawb nad yw unrhyw elfen o’r Ffermwyr Ifanc yn hiliol yn ôl y diffiniad uchod. Yn wir, yr ystrydeb fwyaf sy’n cael ei dynwared o fewn y mudiad yw “ffermwyr” eu hyn!

§

irfon , Tachwedd 19, 2012 5:42 pm

Guto bach- dos na ddim pwynt trio dadla am gomedi hefo pobol sydd rioed wedi clywed am Monty Python heb son am y Simpsons neu Father Ted. Mae’n amlwg fod rhai pobol yn meddwl mai ‘On the Buses’ a ‘Love Thy Neighbour’ oedd uchafbwyntiau comedi yr hanner can mlynedd ddwytha. Galw pobol ddu yn ‘Sambo’s’. What a hoot. Trwbwl ydi, mae nhw’n byw mewn ardal lle does na ddim pobol ddu. Na dim Chinese chwaith reit siwr. Byd bach. Pena bach. Leave well alone mate.

§

Guto , Tachwedd 19, 2012 5:52 pm

Mae Family Guy yn enghraifft dda, lle mae delfryd o dramgwyddo pawb yn gyfartal yn mynd â’r rhaglen i bob math o lefydd tywyll, a ti’n iawn, dydio’n ddim mwy na hiliaeth foel yn aml iawn.

Ta waeth, dwi ddim yn cytuno â’r syniad fod Cymru mewn perygl o efelychu rhyw dueddiad PC honedig yn Lloegr. Mae Jason eisoes wedi crybwyll y tebygrwydd rhwng Little Britain a’r diwylliant gwreiddiol, cynhenid yma, ac mae’r stand-ups mawr dros y ffin yn rhai cignoeth iawn hefyd. Holl fwriad rhai fel Jimmy Carr efo pob jôc ydi cael y dorf i chwerthin, oedi am eiliad i feddwl, a griddfan. Wnaeth y josgins bach ddim gwneud i mi chwerthin.

§

CGT , Tachwedd 19, 2012 6:13 pm

Mi glywais i Malan Wilkinson a Cris Dafis ar y radio – mae eu safbwyntiau yn rhesymol yn y byd sydd ohoni. Ni allwn droi’r cloc yn ol, mi ofnaf. Yr oeddwn yn gweld stwff Bernard manning yn ddoniol 30 mlynedd yn ol, ond ni fuaswn yn gweld yr un peth yn ddebyniol bellach.Rhaid cyfaddef i mi wylio peth o’r darlledu heb sylwi ar yr eitem yma.Ymddiheuraf felly i Cris am sylw ar edefyn blaenorol. Dwi’n cofio rhyw gan ysgafn ers talwm – deuawd oedd hwnnw ‘ WiLLI CHEINI ‘ . ( Triawd y Coleg efallai) Can ddigon tebyg, ond nid yw’n addas yn yr oes yma. Mae’r Tsieniaid sy’n siarad Cymraeg yn brin – ond maent yn bodoli. Petaent wedi clywed y gan, buasai lle ganddynt i gymeryd sarhad sylweddol. Ddaru rhywun o’r C.Ff. I. perthnasol ddim ystyried o flaen llaw fod darlledu rhywbeth fel yna’n fyw yn gofyn am drwbwl ? .
O safbwynt hiwmor, ofnaf fod hiwmor cas yn gallu bod yn ddoniol. Yr wyf yn gweld y joc gan Gwynn Hefin uchod yn sarhaus tu hwnt, ond mae hiwmor ynddo hefyd. Mae pobl wleidyddol gywir, ar y llaw arall, yn gallu bod yn deg a chytbwys, ac ystyriol iawn, ond heb fath o hiwmor. Mae Malan wilkinson a Cris Dafis yn ysgrifennu i GOLWG , ac un peth sy’n eu nodweddu fel gohebyddion yw eu sensitifrwydd . Yn anffodus, mae eu erthyglau’n gyfangwbl hesb o hiwmor. (Tebyg i’r cylchgrawn a’r wefan, mewn gwirionedd – arwhahan i Ifor)

§

CGT , Tachwedd 19, 2012 6:15 pm

Guto – ydi galw rhywun yn josgin yn ddymunol a gwleidyddol gywir ? . Dwi’n cofio chwarae peldroed yn Caergybi a Bangor , a josgins oedd y sarhad gwaethaf gan hogia’r ddwy dref ata ni’r Cymry Cymraeg.

§

Anon , Tachwedd 19, 2012 6:23 pm

Irfon – mae On the Buses yn glasur!

§| Nodi camddefnydd

Guto , Tachwedd 19, 2012 6:57 pm

OK CGT, digon teg. Dwi’n meddwl mai ‘hambôns’ ydi’r priod enw.

Cytuno â dy sylwadau uwchben.

§| Nodi camddefnydd

irfon , Tachwedd 19, 2012 7:37 pm

@anon- er…na dydi o ddim. Ar unrhyw lefel.

§| Nodi camddefnydd

Aled G J , Tachwedd 19, 2012 8:03 pm

Mi roedd y sgets Tseini bach yn anaeddfed ac yn dreuliedig, ond “hiliol”, fel yr haerodd un cyfrannwr ar Taro’r Post amser cinio??Go brin. Mae hynny’n or-ddweud llwyr ac yn enghraifft sut y mae holl ystyr ffenomena hyll iawn yn gallu cael ei lastwreiddio wrth ei gam-ddefnyddio yn y ffasiwn fodd. Dwi’n deall bod hiliaeth yn gallu gweithio ar lefelau gwahanol, ond onid hanfod y peth yw trin rhywun yn anffafriol oherwydd eu hil a bod hynny wedyn yn eu hanfanteisio mewn un ffordd neu’i gilydd? Ydan ni wir i gredu bod unigolyn neu unigolion Tseinieadd wedi’u trin yn anffafriol ac wedi’u hanfanteisio yn sgil y sgets hon nos Sadwrn?? Duw a’n helpo os gyrrhaeddwn ni sefyllfa yng Nghymru lle nad oes modd inni chwerthin ar BEN pobl o genhedloedd heb i hynny gael ei dermu’n hiliol!

§| Nodi camddefnydd

irfon , Tachwedd 19, 2012 8:11 pm

Aled GJ- felly peidiwch a cwyno a mynd dros ben llestri a cwyno i’r Race Relations Board tro nesa mae A A Gill yn galw’r Cymry yn trolls ac yn chwerthin ar eich pen chi.

§

irfon , Tachwedd 19, 2012 8:17 pm

Gwynn Hefin- criadur. Dio’m yn cal mynd allan lot.

§

Anon , Tachwedd 19, 2012 8:22 pm

Irfon – mae gen i phob un On the Buses DVD, mae’r trin y merched fel sexobjects ar y rhaglen yn diflas dwi cytuno, ond mae’r sgwennu a’r perthynas rhwng Jac a Butler, a rhwng Olive a Arthur yn gomedi pur. Reg Varney yn hollol ffantastig. A mae Inspector Blake yn wych – “Ooh, I ‘ate you Butler, I ‘ate you” :)

§| Nodi camddefnydd

Gwynn Hefin , Tachwedd 19, 2012 8:24 pm

cgt – Mae’r ‘gwleidyddol gywir’ yn gytbwys a theg … ar yr amod dy fod yn cytuno â nhw. Unwaith rwyt yn dechrau anghydweld â nhw, a’th helpo chdi. Sylwer ar y wobr rech ‘Bigot of the Year’ sydd gan Stonewall. Pardduo unrhyw un sy’n meiddio â’u beirniadu. Sê no môr.
Irfon bach – mwy na chdi, synnwn i ddim. Mi fyddet yn synnu.

Edrychaf ymlaen at glywed barn Guto.

§

irfon , Tachwedd 19, 2012 8:30 pm

Gwynn love- mae ‘mynd allan’ yn golygu mwy na jyst picio lawr y lon i nol copi o’r Daily Mail. x

§

CGT , Tachwedd 19, 2012 8:49 pm

Mi wnes i ddarllen hi tro cyntaf, Gwynn . Faint mwy o weithiau sydd angen darllen y joc yma ?

§

Gwyndaf Richards , Tachwedd 19, 2012 9:20 pm

Anaml byddaf yn cytuno a Cris Dafis yn ei golofn ond y tro hwn mae yn llygad ei le – mae’r hyn a ddarlledwyd o’r Eisteddfod yn wirioneddol echrydus. Dydy’r math hyn o ‘adloniant’ ddim yn dderbyniol mewn unrhyw ffordd yn 2012 – hiliol, gwrth-fenywaidd, homoffobic – gwae ni os mai dyma’r cefen gwald rydym am ei gadw a’i ddiogelu. Gore gyd po gyntaf y bydd iddo wynebu difodiant – gyda’r dinosoriaid mai ei le. Os mai dyam beth yw bod yn Ffernwr Ifanc – Duw a’n gwaredo, a Duw a waredo ein gwlad. Gwarthus o beth oedd yr Eisteddfod hon. Na ddarlledir y fath beth byth eto.

§

cris , Tachwedd 19, 2012 9:32 pm

Os yw Gwynn Hefin druan yn bodoli go iawn, dwi’n teimlo’n flin iawn drosto.

§

Ken , Tachwedd 19, 2012 9:58 pm

Eto : cofiwch hyn – mae C.FF.I. yn cadw’r Gymraeg yn fyw yng Ngorllewin Cymru. Oes, mae gwell safon yn Eisteddfod yr Urdd , fi ddim yn amau, ond y C.FfI. sy’n rhoi’r hyder a’r doniau i bobl ifanc cefn gwlad fyw eu bywyd yn y Gymraeg. A yw hynny bach o gymdeithas Gymraeg sydd yng Nghaerdydd (a dyna hufen honedig y genedl) yn cynnal eisteddfod, neu dysgu pobl sut i gadeirio ac annerch cyfarfodydd ? .
Byddant yn ddoethach y flwyddyn nesaf, a dyma’r anfantais o ddarlledu’r peth wrth gwrs. Cleddyf gyda dau fin yw sylw S4C. mae’n amlygu talent , mae’n amlygu ei ddiffyg. A fuasai rhywun yn awgrymu peidio darlledu gemau o’r maes rygbi oherwydd fod Cymru mor wael ? Mae’n bosibl fod angen aberthu hiwmor am chwaeth os ydynt am barhau i ddarlledu.

§| Nodi camddefnydd

GD , Tachwedd 19, 2012 9:59 pm

Aled G J – dwi ddim yn meddwl bod anfanteisio yn rhan o’r diffiniad o hiliaeth. Hiliaeth yw ystyried rhywun yn israddol ar sail ei hil – ac roedd y sgetsys hyn yn gwneud hynny.

Sylwais i Elin Jones AC aildrydar neges anneallus, unllygeidiog Lowri Fron. Anghyfrifol iawn.

Mae gwarchod tr hawl i dramgwyddo yn hanfodol. Ond mae llinell bendant na ddylid ei chroesi – sef israddo pobl ar sail eu hil.

Mae blogiwr sobor o wael o’r enw Rhydian Mason (a sawl un arall) wedi amddiffyn y stwff yma drwy ddeud nad yw pobl yn deall hiwmor cefn gwlad. Rhaid i mi gofio defnyddio’r amddiffyniad hwnnw os caf fy arestio am ddweud pethau ffiaidd am bobl dduon neu Iddewon.

§| Nodi camddefnydd

anthropos , Tachwedd 19, 2012 9:59 pm

Wrth ddarllen y sylwadau yma, mae na ryw rwyg amlwg ynai. Ar un llaw, ry’m ni oll yn gwybod fod yr ‘hiwmor’ yma yn hyll ac yn annymunol – mae’n ddrwg clywed fod lle iddo ar unrhyw lwyfan. Ond mae’n amlwg yn plesio’r gynnulleidfa sy’n mynychu’r math yma o gyngerdd. Yr hyn sy’n cael ei adlewyrchu yma yw cymunedau dan bwysau eithriadol – economaidd, ieithyddol, a nifer o arweinwyr prin yn gweithio’n galed eithriadol i gadw’r etifeddiaeth yma i fynd, yn eisteddfota’r un deunydd blinedig flwyddyn ar ol blwyddyn wrth i’n llong suddo. Wrth gwrs, mae eithriadau rhagorol, ond dyma’r patrwm. Mae’n adlewyrchu cymunedau sy’n amddiffynol eithriadol o’r pethau prin hynny sy’n gallu cael eu cadw ‘fel oedden nhw’: mae’n haws ymroi yn llwyr i sefydliadau cymdeithasol fel CFFI na sylwi bod grymoedd y farchnad fawr, fesul tipyn, yn dwyn popeth sy’n hyfryd am ein cymunedau gwledig oddi wrthym. Rwy’n amau bydd yr ystadegau ieithyddol am dde Ceredigion yn torri calonau nifer pan gaiff ei rhyddhau. Felly hir oes i’r hambôns – ond rhaid wrth atebion gwirioneddol radical gwleidyddol i sicrhau y bydd parhad ar y brîd gogoneddus hwn tu hwnt i ganol y ganrif hon.

§

Rhys Gethin , Tachwedd 19, 2012 10:21 pm

Yn anffodus, mae sylwadau Cris Dafis yn cael eu glastwreiddio a’u tanseilio gan y ffaith ein bod yn gwybod am ei ragfarn ef ei hun tuag at gefn gwlad gorllewin Cymru. Dwi’n digwydd cytuno ag o ar y mater hwn, ond gwyddom fod angen deryn glân i ganu am ragfarn a stereoteip.

§| Nodi camddefnydd

Llifon , Tachwedd 19, 2012 10:34 pm

Onid oes modd i bobl droi at sianel arall pan nad yw’n plesio?

Druan o S4C (ac anaml iawn y dywed hynny bellach) ond mae’r sianel yn gorfod bod yn bob dim i bawb, a nos Sadwrn roedd yn gyfrwng hiwmor i’r rhai hynny sydd a’r gallu a’r croen i werthfawrogi jocs o’r fath.

Roeddwn i ymhlith y cyntaf i gwyno pan mai pytiau bychan yn unig o’r pantomeims a ddarlledwyd y llynadd; gwerthfawrogais y ffaith felly pan welais y byddai Steddfod YFfI yn cael ei darlledu’n fyw yn ddi-dor ar y we.

Os yw’r cwyno diangen yma yn tanseilio parodrwydd y sianel i ddarlledu talent ein hieuenctid tu hwnt i’r Urdd yna Dechrau Canu Dechrau Canmol ac ailddarllediadau o Bobol y Cwm fydd yr unig beth welwn ni arni hi o hyn allan. Heddwch i’w llwch hi wedyn.

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Tachwedd 19, 2012 10:40 pm

Ydy pobl wedi cael eu cythruddo gymaint ag hynny gan Eisteddfod y Ffermwyr Ifan. Wel wel wel…..(meddai wrth siglo ei ben).

§| Nodi camddefnydd

Huw , Tachwedd 19, 2012 10:56 pm

Hambons? We so solly? Mae Guto (uwchben) wedi tanseilio’i ddadl ei hun cyn cychwyn- coeglyd neu ddim.Cris Dafis yn cwyno, tra’n canmol rhaglenni fel Little Britain am wneud hwyl o’r sefyllfa yn hytrach na’r bobl- dyna chi ddadl sy’n llawn anghysondebau.Beth bynnag, chwarae teg i’r bobl “goleuedig” yma am roi cymaint o sylw i’r Eisteddfod, perryg y bydd mwy o bobl yn gwylio’r flwyddyn nesa, oni bai bod y lleiafrif swnllyd yn cael eu ffordd.

§| Nodi camddefnydd

Hedd Gwynfor , Tachwedd 19, 2012 10:57 pm

Dwi’n credu bod angen newid y drefn fel bod rhaid cofrestru i adael sylwadau ar Golwg360 i atal sylwadau ffiaidd Gwynn Hefin. Hollol erchyll.

§

Enfys Medi , Tachwedd 19, 2012 11:02 pm

Ffermwyr Da, Gwladwyr Da a Dinasyddion Da, ie dyna arwyddair y mudiad ond er na ddefnyddir mor aml bellach mae’r ethos yn parhau yn fyw ac yn iach. Dyma bobl ifanc sy’n bywiogi ein cymunedau gwledig, yn cynnal yr iaith Gymraeg o ddydd i ddydd ac yn fwy na dim yn gwybod beth yw parch. Mae ganddyn nhw barch at eu cyd-aelodau, y cyn-aelodau hynny sy’n eu harwain a’r cannoedd, miloedd o bobl ‘ma nhw’n cwrdd â nhw o bob cwr o Gymru ac ar draws y byd.
Nid ydym ni ‘hambons’ cefn gwlad wedi dymuno dechrau rhyfel cartref yn erbyn neb erioed, er gwaetha’r holl ddychanu a’r iselhau ar hyd y blynyddoedd. Mae’n syfrdanol faint o bobl hyddysg sy’n dangos anwybodaeth lwyr am bwysigrwydd y diwydiant ffermio i lenwi silffoedd eu harchfarchnadoedd gwerthfawr. Heb son am eu parodrwydd i gwyno am brisiau nwyddau, heb feddwl eilwaith am eu gwir werth.
Ond ru’n ni yma o hyd, yn ymladd dros ein diwydiant ac yn cadw cefn gwlad yn fyw o fwrlwm Cymreig. Nid yw ein hiwmor at ddant pawb a pha ddisgwyl iddo fod, rydym i gyd yn wahanol a da o beth yw hynny. Dydw i ddim yn gwylio S4C bob nos am ei fod yn yr iaith Gymraeg (mae’n gas gen i lawer o’r rhaglenni!), felly da chwi fy nghyd Gymru, peidiwch â chwyno am rywbeth does dim rhaid i chi ei wylio. (Mae’n amlwg i’r rhan fwyaf ohonoch chi droi’r sianel yn ystod sawl rhaglen arall a grybwyllwyd yma neu byddech chi ddim mor barod i feirniadu).
Y sôn diddiwedd yma am PC – doedd DIM o’r cynnwys o natur faleisus a ni fyddai unrhyw aelod yn dymuno peri pryder i eraill. Beth a welwyd oedd dynwared diniwed oedd yn gyfrwng adrodd stori. Mae angen i rai ohonoch ystyried eich defnydd o dermau megis hiliaeth. Mae ei gam ddefnyddio yn fwy o bryder o ran diogelu’r rhai hynny sydd wir yn dioddef. Yn union fel mae pobl mor barod i ddefnyddio’r term bwlio dyddiau yma, heb wir ddeall difrifoldeb eu hystyr.
Soniodd rhywun fod yna gasineb at fenywod. Jiw, jiw, pam felly fod mudiad mor hen ffasiwn (yn ôl rhai ohonoch!) ar hyn o bryd yn hynod falch o gael merched wrth y llyw yn gadeirydd ac is-gadeirydd y mudiad yn genedlaethol.
Mae aelodau’r ffermwyr ifanc yn griw byrlymus ac yn cyfrannu’n helaeth i fywyd pob dydd eu cymunedau. Os dymunwch eu bradychu am dreulio nos Sadwrn yn diddanu cynulleidfa a rhoi gwen ar wynebau’r cannoedd oedd yn bresennol, mawr bryderaf am ddyfodol rhyddid mynegiant y genhedlaeth nesaf.

§

Dylan Llyr , Tachwedd 19, 2012 11:03 pm

Ddim yn siwr a gymeradwyir y math yma o beth ar Golwg360, ond rwyf wedi blogio am y pwnc yma a waeth i mi roi cynnig ar dynnu sylw ato ddim. Dolen: http://anffyddiaeth.blogspot.co.uk/2012/11/hiliaeth-amrwd-ar-s4c.html

§

Dan Puw , Tachwedd 19, 2012 11:15 pm

Byddai’n syniad da i’r rhai sydd wedi bod mor brysur yn beirniadu ymdrechion cystadleuwyr yr Eisteddfod fynd ati i sgrifennu sgriptiau a chaneuon doniol i’r Clybiau Ff. I. ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan ofalu eu bod yn PC. Ni fyddai’n rhaid i wrandawyr Radio Cymru na darllenwyr Golwg 360 wedyn oddef yr holl gecru am rhyw ddau neu dri llithriad diniwed a difeddwl gan bobl ieuanc sy’n ymroi bob blwyddyn i fwynhau eu hunain yn cynnal ein diwylliant, a thrwy hynny roi pleser i lond neuadd o gydeisteddfodwyr, a miloedd o wylwyr S4C.

§| Nodi camddefnydd

Babs , Tachwedd 19, 2012 11:20 pm

Plis stopiwch y drafodaeth yma! Dan Puw – tydi y gwaith da mae CFFI yn ei neud ddim yn cyfiawnhau hiliaeth a dyna be oedd hyn. Manyrs fasa nain yn ei ddeud – meddwl am deimladau pobol eraill cyn agor eich ceg. Dyna be ma mhlant i di ddysgu gen i. Gwynn Hefin – da chi yn afiach.

§

a.non , Tachwedd 19, 2012 11:21 pm

Dwi siwr bod pawb wedi cael y neges erbyn nawr. Oes rhaid mynd ymlaen ac ymlaen am y peth?

§| Nodi camddefnydd

Ifan Morgan Jones , Tachwedd 19, 2012 11:25 pm

Dyma fy marn i am y peth – http://ifanmj.blogspot.co.uk/2012/11/bronnau-ffug-jocs-budr.html

§

Babs , Tachwedd 19, 2012 11:26 pm

wyt ti di cal y negas di’r peth

§

Adam Jones , Tachwedd 19, 2012 11:26 pm

Oes unrhyw am un eiliad bach wedi eistedd yn ôl a meddwl am y sawl oedd yn cymryd rhan yn y sgetsys yma? Ill dau yn fyfyrwyr, yn hoelion wyth yn y gymuned Gymraeg gwledig, a gallaf eich sicrhau chi nad unigolion maleisus ydynt chwaith, ond unigolion sydd yn rhoi llafur cariad i’w cymunedau, i’n diwylliant, ond fel cenedl rydym i gyd yn gathod i gythraul bron yn eu beirniadu?

Digon teg yw cwestiynu cynnwys y sgetsys hynny, ac yn wir roedd peth o’r cynnwys yn anffodus, ond myn deic oedd y fath ffwdan wedi’i greu ar ôl darlledu Little Britian a rhaglenni felly? Rhaglenni a oedd dengwaith gwaeth yn y bôn?

Yr hyn a gawn fan hyn yw Cymry elitaidd dosbarth canol yn lladd ar fywyd gwerinol cefn gwlad Cymru, dyma yw treip Cris Dafis o hyd, un nad yw’n deall ystyr Cymuned a’i gwerth, gweler hyn ar ei ffrwd trydar yn gyson llesteirio’n cymunedau Cymraeg gwledig.

Yr hyn a geir fan hyn yw Sylwadau DBLl Cris Dafis am eitemau Eisteddfod Ffermwyr Ifanc yn adlewyrchu’r hollt sydd o fewn y Gymdeithas Gymraeg yng Nghymru, yr hollt rhwng y sawl a ystyriai’r Iaith yn briod iaith iddynt, yn iaith naturiol bob dydd a’r sawl sydd yn defnyddio’r iaith fel platfform i werthu’u hunain mewn bywyd dinesig Seisnig, wnâi adael i chi ddyfalu at ba grŵp mae’r naill garfan o bobl yn perthyn.

§| Nodi camddefnydd

Dan Puw , Tachwedd 19, 2012 11:37 pm

Babs, wyt ti am wirfoddoli i gyfansoddi sgets?

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Tachwedd 19, 2012 11:40 pm

Druens ar Chineaid…..mae’r Cymry Cymraeg ar eich hol……pob un o’r 1.3 billiwn ohonoch. :-))

§

irfon , Tachwedd 19, 2012 11:41 pm

Adam- Os mai dyma esiampl o ‘fywyd gwerinol cefn gwlad Cymru’ Duw a’n helpo. Llenwch yr archfarchnadoedd a phlesar, ond cadwch y’ch blydi ‘Steddfod’ a’ch ‘hiwmor’ plentynaidd i’ch hunan eh? We don’t need this crap. We really don’t.

§| Nodi camddefnydd

Babs , Tachwedd 19, 2012 11:41 pm

Gwranda Adam del faswn i ddim yma blaw am mam a dad yn cwrdd yn y young farmers a mae’r clybiau yn gneud gwaith ffantastig yndi tad. Ond Iesu Grist siawns bod pobol ifanc yn gwybod be i ddeud a be i beidio ddeud? Sut fasa person o dras sienaidd di teimlo yn y gynulleidfa? ta oes na ddim croeso iddyn nhw? Arweiniad ma’r bobol ifanc ma isho dim esgusodion!

§

Dafydd , Tachwedd 19, 2012 11:42 pm

irfon , Tachwedd 19, 2012 11:41 pm

” Adam- Os mai dyma esiampl o ‘fywyd gwerinol cefn gwlad Cymru’ Duw a’n helpo. Llenwch yr archfarchnadoedd a phlesar, ond cadwch y’ch blydi ‘Steddfod’ a’ch ‘hiwmor’ plentynaidd i’ch hunan eh? We don’t need this crap. We really don’t.”

Mae’r ateb mor hawdd frawd. Paid a’i wylio fe.

§| Nodi camddefnydd

Babs , Tachwedd 19, 2012 11:43 pm

iawn dan. rwbath di-chwaeth i neud efo godro. Pechu neb

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Tachwedd 19, 2012 11:45 pm

Babs,
Sut mae nifer o Gristiongion yn teimlo wrth dy weld yn defnyddio enw Crist yn y fath ffordd?

§| Nodi camddefnydd

Dylan Llyr , Tachwedd 19, 2012 11:50 pm

“Sut mae nifer o Gristiongion yn teimlo wrth dy weld yn defnyddio enw Crist yn y fath ffordd?”

who cares?

§

Ifor Williams , Tachwedd 19, 2012 11:51 pm

Ma y wlad yma mynd I disappear up its own arse hole os na wnewn ni roi stop ar y PC nonsense yma !

Llongyfarchidau i’r Young Farms siwr bod hi’n noson gret fwy fyth does uffern o neb yn China yn poeni did ond ambell I ‘kill joy’ fel Chris ! Ac o safbwynt S4C beth yw ‘r pwynt dweud bod chi wedi cael ‘cyfreithiwr’ I wylio fe ? Beth f**k ma fe mynd I ddeud neu gwneud ?

Os byddech chi holi hanner cant fyddech chi cael hanner cant o atebion gwahanol !

Bydd e’ mor ddefnyddiol gofyn I door to door salesman wylio fe

‘ mewn datganoad dywed S4C y bydd dyn CleanEasy yn cael look Arno fe wythnos nesa ar ei rounds ‘

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Tachwedd 19, 2012 11:51 pm

Dylan Llyr , Tachwedd 19, 2012 11:50 pm

“Sut mae nifer o Gristiongion yn teimlo wrth dy weld yn defnyddio enw Crist yn y fath ffordd?”

“who cares?”

Llawer o Gristnogion.

§| Nodi camddefnydd

a.non , Tachwedd 19, 2012 11:54 pm

Ateb da iawn adam. Ni gyd yn gwybod bod gan cris dafis ragfarn yn erbyn y cymunedau cefn gwlad.

§| Nodi camddefnydd

Dylan Llyr , Tachwedd 19, 2012 11:56 pm

Adam, rwyf wedi trin y rhan fwyaf o dy bwyntiau ar fy mlog yn barod.

Ond rwyt yn euog o geisio gwyro sylw oddi ar y pwynt drwy geisio portreadu’r helynt yma fel ymosodiad ar y gorllewin gwledig Cymraeg gan yr elit dinesig crand. Rwy’n dod o Gaernarfon a’n byw yno o hyd, a’r tro diwetha i mi edrych mae’r dref yma yn y gorllewin, dyma le Cymreiciaf y byd o ran iaith, ac mae’n bell o fod yn fetropolis gosmopolitanaidd. Mae pob un peth sydd wedi dod o fysedd a genau Cris Dafis ynghylch y mater yma wedi bod yn berffaith gywir.

§| Nodi camddefnydd

Babs , Tachwedd 19, 2012 11:58 pm

Dafydd dwi yn Gristion digwydd bod a dyna sydd yn llywio fy ymateb i hyn. Ti di gweld y llun Goleuni’r Byd? Wel ….. pwy sydd yn y llun?
Grr dwi’n dechra gwylltio rwan. Fel Cristion, wyt ti di bod ar y wefan yma yn cwyno bod capeli gwag yn cael ei gwerthu willy nilly i ddatblygwyr di egwyddor a bod y sefydliadau eglwysig yn fodlon efo hyn?

§

dafydd , Tachwedd 20, 2012 12:11 am

Asu mowr, sut yn y byd all Bolwcs360 gal getawe a chyhoeddi homoffobia Gwyn Hefin? bydd Dylan Borwerth yn Jail go fuan

§| Nodi camddefnydd

a.non , Tachwedd 20, 2012 12:13 am

I dylan, malan, cris sy gwneud mor a mynydd or peth. Ydych chi wedi ystyried beth mae’r sylw yma cael ar y hogiau oedd yn actio yn y sget? Naddo mae’n siwr.

§| Nodi camddefnydd

Babs , Tachwedd 20, 2012 12:19 am

Dafydd – atab call ia?
Anon – ella dysgu nhw sut i fyhafio o hyn ymlaen? Bob lwc hogia!

§| Nodi camddefnydd

Meinir , Tachwedd 20, 2012 12:47 am

Rhaid i chi ddod mas o’r closet rhywbryd Gwynn Hefin!

§

Ifor Williams , Tachwedd 20, 2012 5:51 am

The above idea is copyrighted to Ifor Williams Productions

Sh*t programmes but great trailers !

§| Nodi camddefnydd

irfon , Tachwedd 20, 2012 7:54 am

Dwi’n siwr mai Ifor ‘Cayman’ Williams oedd y cynta i ‘boeni taten’ pan oedd AA Gill a Anne Robinson yn deud petha cas am y Cymry. Let them say what they like about the Chinkies but different rules for the Welsh yeah mate?

Dyn twp.

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Tachwedd 20, 2012 8:20 am

Cwmni pwy un fyddai mwya’ o sbort? Cris Dafis neu Oliver Cromwell? Trafodwch.

§| Nodi camddefnydd

irfon , Tachwedd 20, 2012 8:25 am

Doeddwn i ddim yn siwr beth oedd ‘hambon’ felly nesh i jecio yn Bruce-

‘HAMBON- Semi-literate redneck hick with an aversion to travel and books but with a penchant for casual racism and planting potatoes’.

Diddorol.

§| Nodi camddefnydd

Rhydian Mason , Tachwedd 20, 2012 8:42 am

Dywed ‘G D’ uchod y canlynol:

“Hiliaeth yw ystyried rhywun yn israddol ar sail ei hil”

Dwed wrthai sut oedd y deuawdau doniol yn ‘israddio’ pobl ar sail hil – a bydda’n fanwl yn dy ddisgrifiad plis. Os wyt ti wedi cymryd mae ‘portread o bobl o Tseina fel y’i gwelir gan aelodau CFfI Cymru’ oedd cyflwyniad y ddau ifanc o CFfI Dyffryn Cothi, yna efallai dy fod ti wedi camddeall y peth a cael dy gario ar y ‘bandwagon’ ‘ma.

Hefyd, dwi’n hynod o falch dy fod ti wedi darllen y blog, a falch iawn dy fod wedi rhoi dy farn. Ydi, mae’n flog gwael (fel y rhan fwyaf o’r blogiau achlysurol dwi’n ei sgwennu) a does dim gorfodaeth ar neb ei ddarllen e. Mi fyddi di’n gwybod y tro nesa i beidio a taro mewn ar fy mlog hynod wael – efallai y cei di ddefnyddio’r amser i wylio un o DVDs Frankie Boyle (a fu yn y llys yn ddiweddar ac sy’n ddyn rhydd). Nadolig Llawen i ti!

§| Nodi camddefnydd

Guto , Tachwedd 20, 2012 8:55 am

Mae’n ddoniol mai darllenwyr y Guardian sy’n cael y bai am gwyno yn llu am sylwadau di-chwaeth, er mai’r papurau rwtsh asgell dde sydd wastad yn creu’r storm. Yma, mae pobl sy’n rhoi beirniadaeth deg o sgets yn cael eu cyhuddo o fod yn elynion i’r ffermwyr ifanc ac o fod yn rhan o ryw elît dinesig (dwi’n byw yng nghanol nunlle, os ydi hynny’n bwysig).

Ac wedyn mae’r darogan gwae am ‘y lleiafrif swnllyd yn cael eu ffordd’ – dim ond beirniadu’r sgets ydym ni, a beth yn union ydi ‘ein ffordd’, Huw? Mae’r sgets wedi’i llwyfannu, a rhwydd hynt i’r Ffermwyr Ifanc ac S4C ei llwyfannu eto, ond nid yw eu rhyddid hwy i wneud hynny yn drech na rhyddid neb arall i’w herio. Cyn cyhuddo pobl o fod yn ‘thought police’, cofiwch fod trigolion cefn gwlad y gorllewin yn ddigon parod i roi taw ar unrhyw gelfyddyd nad ydynt yn cydweld ag o – mi fu pobol ardal Aberteifi bron â mynd allan ar y stryd yn dal ffaglau pan oedd bygythiad o osod darn o waith celf fodern ar yr afon (dros dro).

Mae’r we yn llawn pobl (fel fi) sy’n pigo beiau ac yn pryfocio hwn a’r llall, ond mae’r sgets hon yn codi pob math o grachenni ac fel mae swm y sylwadau’n ei ddangos, mae’n bwnc y mae pobl am ei drafod. I lawer ohonom dwi’n meddwl mai’r ffaith mai pobl ifanc alluog ydyn nhw sy’n gwneud y peth mor erchyll – pwy â’u rhoddodd yn y fath sefyllfa? Mae rhaglenni fel Jonathan yn darlledu sothach end-of-the-pier yn ddi-baid, a does neb yn cwyno am hwnnw gan mai hen ddynion ydyn nhw yn deud jôcs gwael – gellid galw rhywbeth felly’n ‘naturiol’. Mae hyn yn wahanol. Wrth i’r byd newid, mae’n gywilyddus fod pobl am ddal ein pobl ifainc yn ôl drwy eu gorfodi i lynu at syniadau sydd wedi hen fynd i’r gwellt. Dwi’m yn meddwl bod y tueddiad diweddar i garcharu pobl am sylwadau rhyfygus ac agweddau amhoblogaidd yn helpu – mae gwrychyn pawb yn codi’n rhy hawdd.

§| Nodi camddefnydd

Guto , Tachwedd 20, 2012 8:59 am

Irfon, welai ddim byd am ‘hambon’ ond dwi’n mynd i ddechrau galw Hamburg yn ‘Hambro’, deffinet.

§| Nodi camddefnydd

cris , Tachwedd 20, 2012 9:46 am

Jason, mae byd o wahaniaeth rhwng Little Britain a’r sgets dan sylw. Yn un peth, mae LB yn cynnwys cymeriadau o wahanol hil o fewn pob sgets unigol. Gyda’r ferch o wlad Thai, ee, mae dyn canol oed gwyn a’i deulu estynedig gwyn hefyd yn rhan o’r dychan.

Pa mor smala bynnag y maen nhw ar y wyneb, maen nhw’n sgetsus soffistigedig. Ydyn ni’n chwerthin am ben y ystryw’r ferch o Wlad Thai? Neu dwpdra eichymar gwyn? Neu ragrith ei deulu estynedig? Neu ein rhagdybiaethau ni?

Mae dewis gwneud sgets am UN garfan o bobl ar y llaw arall, fel y gwnaeth y sgets yn y Steddfod, yn mynd â ni i dir gwahanol iawn. Dwi’n gwybod nad oedd dim byd bwriadol faleisus am y sgets – ond rhywbeth pasif iawn yw hiliaeth yn aml.

Mae sgetsus rhaglenni fel Little Britain yn datblygu dros wythnosau – ac yn rhoi cyfle i ni feddwl am yr hyn a ddychenir. Dyw hynny ddim yn bosibl mewn un sgets dair munud.

Mae dychan yn un peth. Mae doniolwch (neu chwerthin am ben pobl) yn fater arall. Dychanu mae LB – chwerthin am ben lleiafrif yn ein gwlad yr oedd y sgets. Gallwn ymhelaethu…

§

Dafydd , Tachwedd 20, 2012 10:21 am

Bues i mewn cysylltiad gyda fy ffrind Georgina Liu sy’n wreiddiol o Shanghai a gofyn iddi beth oedd hi’n meddwl am y matter yma. Dyma beth ddywedodd hi:

我不在乎你的威尔士人对我们说。我们是人民的中央王国,是一群绵羊爱好者。

A dyna ni!

§| Nodi camddefnydd

Meinir , Tachwedd 20, 2012 10:23 am

Heblaw am yr hiliaeth y broblem arall oedd fod y sgetsus yma yn sal iawn o ran safon ac ymhell o fod yn ddoniol. A fyddai’r rhai oedd yn gweld e’n ‘bach o hwyl di-falais’ mor barod i gymeradwyo criw o Saeson ifanc ar lwyfan yn portreadu’r Cymry fel ‘sheep shaggers’ yn eistedd ar tomen o lo?

Mae’n rhoi enw gwael i’r Ffermwyr Ifainc sy’n drueni a da gweld pobol yn siarad sens yma fel Guto ac Irfon. Trist fodd bynnag gweld yr enghraifft waethaf bosibl o Gymru cul yn yr anghenfil homoffobig Gwynn Hefin. Os mae rhywun yn protestio cymaint am rywbeth sy’n cael dim effaith arnyn nhw, mae’n gwneud i rywun feddwl pam mae e’n becso cymaint am hoywon… ‘Latent’ dwi’n meddwl yw’r gair am hyn.

§

Ifor Williams , Tachwedd 20, 2012 10:32 am

Cris absolute nonsense yr unig peth ma dy sylwadau’n dangos yw dy self loathing o fod yn Gymro Cymraeg . Does dim gwahaniaeth rhwn sgets ffermwyr Dyffryn Tywi a Little Britain !

§| Nodi camddefnydd

Gethin , Tachwedd 20, 2012 10:33 am

Da wan Meinir.

Cytuno’n llwyr!

§| Nodi camddefnydd

Ifor Williams , Tachwedd 20, 2012 10:33 am

Cris absolute nonsense yr unig peth ma dy sylwadau’n dangos yw dy self loathing o fod yn Gymro Cymraeg . Does dim gwahaniaeth rhwn sgets ffermwyr Dyffryn Tywi a Little Britain !

Ble aeth fy sylwadau am Cuddiwch y Bananas ?

Sioe adloniant newydd i Gymru gyfa !

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Tachwedd 20, 2012 10:44 am

A pwy ddiawl fath o berson boring sy’n aros i mewn ar nos Sadwrn i wylio Eisteddfod Y Ffermwyr Ifanc? Dylai S4C gwybod yn well pwy fath o gynulleidfa gwrth-hwyl fyddai’n gwrando’r amser yma.

§| Nodi camddefnydd

Dafydd , Tachwedd 20, 2012 10:56 am

Oh ie, a gan fod ein ffrindiau megis Cris yn hoff o son am Bernard Manning a bod merched o wlad Thiai yn fair game…..dyma i chi stori glywais rai blynyddoedd yn ol:

Roedd Bernard Manning yn cerdded allan o bar yn Bangkok a dwy ferch Thai yn ei freichiau. A dyma rhywun yn ei adnabod a gweiddi “Oi Manning, you fat bas****!”
Troiodd Manning rownd i wynnebu’r dyn wnaeth waeddi arno a dweud;
“No. Rich, fat bas****!” :-)

Stori wir a gwers yna i ni gyd.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Williams , Tachwedd 20, 2012 11:03 am

A chyda llaw Cris roedd yr analysis cachu fod Little Britain yn wahanol am fod ‘nhw’n barod i wneud hwyl am ben nhw ei hunain ynghyd a lleifrifoedd’ yn nonsens llwyr. Does neb yn well am wneud hynny na Young Ffarms dyna oedd 9/10 o’r Steddfod ! A dyna paham dwi’n grediniol y bydde pobl China wrth eu bodd yn eu cwmni iach a difyr !

§| Nodi camddefnydd

geraint jones , Tachwedd 20, 2012 11:21 am

Bobl annwyl – mae yna wahaniaeth dybryd rhwng Little Britain a’r hyn ddigwyddodd yn Eisteddfod CFfI. Andros Dafydd! Neirniadaeth lem ar ein hagweddau oedd yn LB – fel oedd yn arfer bod yn Keeping up Appearances, Fo a Fe, Yes Minister ac ati … hilaieth a homoffobia ffêr oedd yn Eisteddfod CffI. Mae yna wahanaieth yn y ddau beth hyn.

§

Guto , Tachwedd 20, 2012 11:42 am

Ti’n siarad ar ran HOLL BOBLOGAETH TSIEINA rwan, Ifor? Fedri di holi a ydyn nhw’n licio Tipit?

§| Nodi camddefnydd

Paul W , Tachwedd 20, 2012 12:03 pm

Cris – pwynt hanner cywir am LIttle Britain – mae’r eitemau yn parhau o wythnos i wythnos ond mae bob scets yn sefyll are ei draed ei hyn hefyd. Beth am Come Fly with Me? Dyn gwyn yn chwarae dynes ddu or Carribi, dyn gwyn yn chwarae dyn hoyw o’r Iwerddon ayyb mewn scetsys ar ben ei hunain? Lle mae’r gwahaniaeth?

Be am Mrs Brown’s Boys – dyn yn chwarae dynes? Be am Jonathan – a’i ‘knob gags’ homoffobic di-ri? Beth am Aladdin bob ‘dolig? Hiliaeth? Lle mae cwynion am y rhaglenni yma?? CAEWCH Y THEATRAU!! CAEWCH Y BBC!!

CffI – o bossib blas drwg? o bossib ddim yn ffynni? Hiliol? Targed hawdd – llwyth of ffarmwrs, comedi gwerinol??

Be am yr hiliaeth gwrth Saesneg sy’n rhedeg drwy ni’r Cymry? Lle mae Cris a’i griw yn sefyll ar hwn?

§

Gareth , Tachwedd 20, 2012 12:13 pm

Faint o stwff tebyg sy’n cael ei berfformio ar lwyfan eisteddfod yr Urdd ar ddiwedd yr wythnos? Stwff digon tebyg, ond does neb am gwyno am yr Urdd yn nagoes?

Beth oedd enw’r gyfres wnaeth David Walliams a Matt Lucas yn y maes awyr – dyma ddisgrifiad un cymeriad a bortreadwyd gan Matt lucas:

Dynes ddu (ac felly Matt Lucas wedi ‘blacio i fyny’) yn rhedeg y bar coffi yn y maes awyr. Hitthe’n honni ei bod hi’n grefyddol (stereoteip o gospel singer efallai?) ond yn cae’r bar coffi, a mynd a’r arian o’r til er mwyn chwarae ar y periannau ffrwythau (fruit machines / gamblers etc).

Felly, dynes ddu efo job ceiniog a dime yn honni ei bod hi’n grefyddol a christonogol, ond yn dwyn arian o’r til er mwyn gamblo.

Mae llith o gymeriadau eraill yn y gyfres (fel yn Little Britain). Mi oedd llith o gymeriadau gwahanol hefyd yng nghystadleuaeth y deuawd doniol.

Mae yna ‘anti ffarmer’ brigade anferth yn bodoli yng Nghymru – y rhan fwyaf ohonynt yn gwneud jobsys di-angen yn y brifddinas. Y camgymeriad mae rhain wedi neud yw nad yw nhw wedi sylweddoli mae lleiafrif o aelodau CFfI Cymru sy’n ffermio, ac felly, mae nhw wedi creu rhyfel o fath rhyngddo nhw a nifer enfawr o bobl yng Nghymru Wledig.

Tro’r sianel os nad wyt ti’n mwynhau be ti’n ei wylio.

A newid y record hefyd, plis.

Lle mae beirniadaeth Cris am hwnna gwedwch?

§

Dilwyn , Tachwedd 20, 2012 12:54 pm

Dwi di drysu yn lan be di dadl rhai pobl yn fana. Ydi rhai yn dadlau fod bod yn huliol yn ok os mae diwylliant Cymraeg yn cael i warchod? Ydi huliaeth yn hanfodol i allu gwarchod y Gymraeg?

I fi mae dealltwriaeth diwylliannol o ddiwylliannau eraill a gwbod sut i barchu pawb mewn byd modern yn hanfodol i ddyfodol ein cenedl an diwylliant. Dydi ymosodiad ar y pobl ifanc hyn ddim yn ateb chwaith. Siawns fod sefydliad fel S4C neu y Ffermwyr Ifanc efo polosi ar faterion o’r fath?

Nes i ddim gweld y rhaglen eleni ond ges i gip olwg ar y tamed penodol a gweld dipyn llynedd.

§

Rhian , Tachwedd 20, 2012 1:05 pm

Yn lle jyst rhoi bai ar S4C -dylid holi pa system sydd gan reolwyr y digwyddiad ei hun i warchod rhag ddangos cynnwys o’r fath ar lwyfan yn y lle cyntaf?

§

Cats , Tachwedd 20, 2012 1:37 pm

Berig ma r gwahaniaeth mawr yma ydi r gwahaniaeth rhwng be sy n dderbynniol mewn sioe lwyfan, a be sy n dderbynniol i`w ddarlledu drwy unryw gyfrwng trydannol yn yr oes ohoni. Dydwi ddim yn ffan o`r himwor, ond allai dderbyn yn gyfangwbwl ma hiwmor annoeth oedd o yn hytrach na malais. Mae na sioeau comedi byw, yn nghymraeg a`r saesneg (a llwyth o ieithoedd eraill) hefo cynnwys llawer mwy coch a mwy hiliol. Cangymeriad S4C ydio am feddwl fod o`n peth call i ddarlledu fo n fyw: ma dynnu fo o r steddfod ai roid o ar y teledu wedi ei dynno o o`i gyd-destun, a wedi golygu fod o`n cael ei ddeholgli drwy brism safonnau moesol darlledu teledu yn y 21fed ganrif- rywbeth na gafodd y sgetys ei llunio ar ei gyfer. Naiifrwydd a twpdra llwyr S4C.

§

irfon , Tachwedd 20, 2012 1:47 pm

Durrrrrrr….dwi’m yn meddwl fod Ifor wedi deall y pwynt Cris. Wast o amsar trio egluro. Os na ydi’r gair ‘Caymans’ yn y joc dio’m yn dallt.

A tydi’r ffermwyr yma ddim byd i neud a fi yn ddiwyllianol na mewn unrhyw ffordd arall. We share a spit of land and that’s it. Embarrassing. Mae rhoi airtime i rhein fel rhoi sioe ar CBS i rednecks o Texas. Dwi’n siwr wneith S4C ddim gneud yr un cangymeriad eto.

§

Anon , Tachwedd 20, 2012 1:54 pm

Ifron – felly wyt ti ddim yn bwyta unhrywfath o gynnyrch o ffermydd Cymru? Nid llaeth, wyau, cig, llysiau, ayb?? Agwedd cul iawn.

§| Nodi camddefnydd

irfon , Tachwedd 20, 2012 2:02 pm

Mae nhw’n hapus i dderbyn fy arian a dwi’n hapus i dderbyn eu carrots. A dyna lle mae’r berthynas yn gorffen.

§| Nodi camddefnydd

Anon , Tachwedd 20, 2012 2:21 pm

“A tydi’r ffermwyr yma ddim byd i neud a fi yn ddiwyllianol na mewn unrhyw ffordd arall.” Felly ti yn wneud rhywbeth a ffermwyr. Felly Irfon ti’n cyfadde dweud celwydd yn y frawddeg yna, da iawn.

§| Nodi camddefnydd

Guto , Tachwedd 20, 2012 2:37 pm

Dwi’n cydymdeimlo efo chdi, Irfon, ond dydyn nhw ddim yn ddrwg i gyd. Ac er y dau funud o dwpdra, roedd digon o bobl ifainc dalentog yn y sioe, a dwi wedi clywed llawer yn canmol ar ôl eu gweld yn fyw. Mae dy bwynt am y rednecks yn rhoi ochr arall y geiniog i ddadl y rhai sy’n pwysleisio diniweidrwydd a diffyg malais y digrifwyr ifanc. Dwi’n tybio mai rhywle yn y canol mae’r gwirionedd.

Wrth siarad â ffyddloniaid y CFfI yn y gwaith, y safbwynt sy’n dod i’r amlwg yn amlach na pheidio yw mai dim ond cael hwyl diniwed mae’r aelodau a’u bod yn bendant ddim yn golygu cythruddo neb. Mae dyn yn medru deall hynny, hyd at bwynt.

Wrth lynu at ein diniweidrwydd, fodd bynnag, mae’n dod yn hawdd iawn wedyn i ni wfftio unrhyw feirniadaeth a mynnu mai ni sy’n iawn. Felly, os ydyn ni’n ymwrthod â phopeth y tu allan i’n diwylliant ein hunain, ni ddylai safonau diwylliannol eraill fod yn berthnasol i ni. Hyn sydd wrth wraidd yr achos hwn, lle mae hiliaeth wedi digwydd bron ar ddamwain, ac yn fwy na thebyg heb beri loes go iawn i neb – nid fod hynny’n golygu na ddylid herio a beirniadu.

Ar y llaw arall, mae anwybodaeth rednecks yr Unol Daleithiau (sef pobl y Te Parti a’r eglwysi penchwiban, yn hytrach na ffermwyr) yn dod o’u cred eu bod yn well na phawb arall, a’u bod yn medru byw bywyd da heb wybod am ddim byd sy’n digwydd y tu hwnt i ffiniau eu talaith eu hunain.

§| Nodi camddefnydd

A.non , Tachwedd 20, 2012 3:09 pm

Be dwi moyn gwybod yw…..ydi Huw Jones yn ôl o’r Caymans?

§| Nodi camddefnydd

Marc , Tachwedd 20, 2012 3:10 pm

I bawb sy’n cwyno am gywirdeb gwleidyddol neu ‘political correctness’ yma, pwrpas PC yw sicrhau fod pawb yn cael eu trin yn gydraddol a chyda pharch yn ein cymdeithas. Fel arfer y rhai sy’n clochdar fwyaf yn ei erbyn yw’r rhai fyddai wrth eu bodd yn datgan agweddau hiliol, homoffobig, rhywiaethol, gwrth-Gristionogol, gwrth-Islamaidd, ayyb yn agored pe caent rhwydd hynt i wneud hynny. Roedd yr hyn a ddangoswyd ar S4C yn warthus, amrwd a hollol annerbyniol, ac yn adlewyrchiad gwael ar y naw ohonom ni fel Cymry Cymraeg. Diolch am sylwadau call ac aeddfed Guto, Gwyndaf Richards, Babs, et al.

§

Guto , Tachwedd 20, 2012 3:42 pm

Pur anaml y byddai’n cydweld ag Ifor yn wleidyddol, yn enwedig o dan straeon fel hon, ond dwi’n dechrau amau ei fod o’n ymylu ar fod yn genius, neu o leia’n idiot savant.

Da iawn Ifor am greu ‘meme’ cyntaf Golwg360!

§| Nodi camddefnydd

Sion , Tachwedd 20, 2012 5:12 pm

Jyst er mwyn helpu i gyrraedd 100 sylw…

Trueni bod y ddadl yma wedi codi o gwbl. Fel mae sawl un wedi sôn mae’r ffermwyr ifainc yn gwneud gwaith gwych yn yr ardaloedd gwledig o ran cynnal bywyd Cymraeg. Am hynny, mae angen pob clod.

Pob clod i S4C hefyd am y penderfyniad gwreiddiol i ddarlledu’r Eisteddfod. Mae pobl wedi bod yn gofyn am hyn ers tro, ac maen nhw wedi gwrando! Rhyfeddod ynddo’i hunan.

Welais i ddim o’r rhaglen a doeddwn i ddim yno, ond mae’n amlwg bod peth o’r cynnwys yn ddigon amheus i ddenu sawl cwyn. Os ga i osgoi’r ddadl “oedd e’n hiliol?” am eiliad, hyd yn oed os nad oedd y cynnwys yn hiliol/rhywiaethol/ac ati mae’n amlwg bod angen bod yn llawer mwy gofalus rhag pechu pobl pan fydd pethau’n cael eu darlledu.

Wedi dweud hynny, byddai’n anffodus iawn petai hyn yn arwain at beidio darlledu’r Eisteddfod Ffermwyr Ifanc y flwyddyn nesaf. Falle bod ambell ran gwan/gwael/annerbyniol, ond rwy’n siwr bod y mwyafrif yn werth ei weld, a bod cynulleidfa barod iawn.

Oes modd felly ei ddarlledu gyda bwlch o ryw hanner awr rhwng y digwydd a’r darlledu? A pheidio darlledu unrhyw beth sy’n debyg o ddenu cwynion? Dw i’n gwbod bod darllediadau o’r Urdd weithiau’n peidio dangos rhai cystadleuthau am resymau hawlfraint ac ati, felly byddai modd gwneud rhywbeth tebyg yn fan hyn fydden i’n meddwl.

§| Nodi camddefnydd

Guto , Tachwedd 20, 2012 6:00 pm

Sylw call iawn, Sion. Dw innau’n gobeithio na fydd S4C yn rhoi’r gorau i ddarlledu’r Eisteddfod, ond dwi ddim yn meddwl fod angen mesurau mor llym â’r rhai’r wyt ti’n eu hawgrymu. Ydi’n ormod disgwyl fod rhywun yn y CFfI ac S4C sydd â’r crebwyll i sylweddoli bod rhoi llwyfan genedlaethol i ‘blant yn gneud impresiyns o Chinee’, a darlledu hynny i’r genedl, yn debygol o ennyn beirniadaeth?

§| Nodi camddefnydd

gaynor , Tachwedd 20, 2012 6:23 pm

Hambones Cymru v townis Cymru – 97 sylw
Hamas v Israelis – 1

§

A.non , Tachwedd 20, 2012 6:33 pm

Sylw call 0 v sylw twp gan Gaynor 1

§| Nodi camddefnydd

Dai , Tachwedd 20, 2012 6:39 pm

Effallai fod hyn yn sioc i ti Gaynor ond dwi’m yn meddwl fod Netanyahu yn darllen Golwg360, ac rwyf wedi trydar a postio ar fb am trychineb Gaza, ond be arall all ni wneud? Mae BBC a’r llywodraeth byth yn gwrando ar y bobl – ac mae nhw rhoi bai am yr holl beth ar Palastiniaid beth bynnag. Ond siawns mae hiliaeth yng Nghymru yn rhywbeth sy effeithio ni gyda ac yn fwy berthnasol i ni? Dim ond gofyn.

§

Ifan Morgan Jones , Tachwedd 20, 2012 6:54 pm

“Oes modd felly ei ddarlledu gyda bwlch o ryw hanner awr rhwng y digwydd a’r darlledu?”

Uchafbwyntiau gafodd eu darlledu dw i’n credu.

§| Nodi camddefnydd

Guto , Tachwedd 20, 2012 7:20 pm

Sylw call yn fy marn i Gaynor

§

CGT , Tachwedd 20, 2012 7:51 pm

Yn anffodus, mae’r anghydfod rhwng Israel a Hamas y tu hwnt i’n rheolaeth ni, a rhy fawr, anodd a phell i Gymru na’r Cymry gael unrhyw ddylanwad arno. Ar y llaw arall, yr ydym oll, diolch i’r drefn , yn poeni am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg.
Heb os, y clybiau ffermwyr ifanc ydi prif bileri’r iaith yn y Fro Gymraeg. Mawr yw ein dyled iddynt, oherwydd iddynt fagu arweinwyr hyderus a phobl sy’n gwybod sut i drefnu, siarad a tharfod yn gyhoeddus.
Wedi dweud hynny, yr oedd yr eitem yn gallu cael ei dehongli fel sarhaus. Nid wyf yn cytuno gyda nemor ddim mae Cris Dafis yn ddweud, ond rhaid cydanabod fod yna ergyd personol iddo ynghlwm wrth yr eitem – bydd y rhai ohonoch sy’n darllen cylchgrawn Golwg yn gwybod pam. Anffodus, ond digon a chodi crachen boenus iddo. Yr oedd yr eitem yma’n ‘hwyl hen-ffasiwn’ , y buasai ei thebyg wedi ei gweld a’i mwynhau ganwaith yn ein neuaddau, capeli ac ysgolion ers lawer dydd, heb ddim gofid. Mae’r oes wedi newid ar bawb ohonom. mae’n bosibl brifo a gwawdio rhywun heb drio – gwn fel cyn athro mor hawdd yw i’w wneud.
Rwan ta, petai’r camerau ddim yna , neu’r eitem heb ei darlledu,mae’n anhebygol y buasai unrhyw stwr wedi digwydd. O dderbyn y camerau , rhaid bod yn ofalus am gynnwys a safon. Mae pob meicroffon yn fyw, a pob un sgets yn byw am byth.
Nid yw eich beiau’n gudd rhag y werin, na’r byd, i aralleirio.
Nid wyf yn berson wleidyddol gywir. I’r gwrthwyneb, dwi’n adweithiol ym mhob dim. Serch hynny, rhaid i bawb ddysgu beth i’w wneud a dweud mewn amgylchiadau arbennig. Nid ydych yn dweud yr un peth wrth disgyblion ac yr ydych amser panad yn yr ystafell athrawon. Tydi joc Nos Sadwrn ddim yn debyg o gael ei dweud yn y capel fore Sul.Mae terfynau wedi bod erioed, a peth poenus i bawb yw eu tramgwyddo. Y neges i’r hogiau a gymerodd ran yw fod ein gwerthfawrogiad ohonynt yn parhau’n fawr, i ddod yn ol a gwen ar eu gwynebau flwyddyn nesaf, ac i’w harweinwyr (ac i’n darlledwyr ) fod yn fwy gofalus.

§

geraint jones , Tachwedd 20, 2012 8:03 pm

Isod rwy wedi nodi yr hyn ddywdeodd Marc – taro’r hoelen ar ei phen! Er mod i’n cytuno a Chris Dafis am Eisteddfod y CFfI rhaid i mi dwdeud bod angen iddo yntau ofalu – oherwydd mae rhai o’i sywladau ef yn Golwg yn gwbl wrth-Gristnogol ac fymryn ddim gwahanol i’r hyn roedd yn diwgydd ar lwyfan Eisteddfodd CFfI tuag at pobl hoyw a thramor. Chris Dafis – efallai tynn y trawst o’th lygad dy hun gyntaf ac yna gwel yn eglur i dynnu’r brycheuyn o lygad dy frawd.

I bawb sy’n cwyno am gywirdeb gwleidyddol neu ‘political correctness’ yma, pwrpas PC yw sicrhau fod pawb yn cael eu trin yn gydraddol a chyda pharch yn ein cymdeithas. Fel arfer y rhai sy’n clochdar fwyaf yn ei erbyn yw’r rhai fyddai wrth eu bodd yn datgan agweddau hiliol, homoffobig, rhywiaethol, gwrth-Gristionogol, gwrth-Islamaidd, ayyb yn agored pe caent rhwydd hynt i wneud hynny. Roedd yr hyn a ddangoswyd ar S4C yn warthus, amrwd a hollol annerbyniol, ac yn adlewyrchiad gwael ar y naw ohonom ni fel Cymry Cymraeg. Diolch am sylwadau call ac aeddfed Guto, Gwyndaf Richards, Babs, et al.

§

Hannah J , Tachwedd 20, 2012 8:28 pm

Oes gan y bobl hyn ddim gwaith i wneud? Pwy yw Guto, CGT, Anon, ac yn y blaen? Ai ar y dôl maen’ nhw, a dim byd gwell ganddyn i wneud? Ydyn’ nhw’n bodoli ynte bwrdd golygyddol y cylchgrawn sy’n ceisio corddi ymateb?

§

Tomos , Tachwedd 20, 2012 8:46 pm

Mi fues i’n byw yn China. Roeddwn i’n dwli ar y bobl er nad oeddwn yn byw yn Beijing neu Shanghai lle mae’r Chineaid yn dweud fod y bobl yn tueddi fod yn llai croesawgar. Mi fues i am dipyn yn Chengdu. Mi allwn adrodd storiau di-ri am y croeso a’r cyfeillgarwch a’r haelioni y profais. Ac wedi dychwelyd i Gymru, rwyf wedi nifer o weithiau ddwyn i gof rhai o’r profiadau braf hynny wrth siarad a fy nghyd-Gymru……yr ‘Hambons’ fel mae rhai wedi eu galw. Nid wyf i unwaith wedi gorfod amddifffyn pobl China wrth i mi siarad gyda hwy, fel y byddwn y fodlon gwneud pe bai rhaid. Dim unwaith. Er dwi wedi gorfod wrth siarad am y Chineaid gyda rhai nag oedd yn ‘Hambons’ – term sy’n dweud mwy am ddefnyddiwr y gair yn fwy na dim arall.

ON Roedd ffrind i mi yn China yn chwilio am waith a dyma fi’n gofyn iddo pam na fyddai’n ceisio am swydd yn Long Quan lle’r oedd e’n byw. Ei ateb oedd, “Long Quan is a village”. Poblogaeth LQ yw dros 300,000. Poblogaeth Caerdydd yw tua 250,000. Caerdydd yn Fetropolis? :-))

§

Ben Dramwnwgl , Tachwedd 20, 2012 9:30 pm

GH, person go iawn yntai http://en.wikipedia.org/wiki/Troll_(Internet) ?

Sortiwch hyn allan Golwg, dan ni’n haeddu gwell na hyn siawns gan mai ni sy’n talu am eich gwasanaeth…

§

Osian , Tachwedd 20, 2012 9:37 pm

Paid a phoeni am y prinder sylwadau ar y trais yn Israel a Gaza, Gaynor.

Dwi’n siwr y bydd Gwynn Hefin yno cyn pen dim i bregethu mai pobl hoyw sydd ar fai :)

§

Gwen , Tachwedd 20, 2012 9:38 pm

Pam defnyddio’r fforwm yma i baldaruo drosodd a throsodd am dy wrthwynebiad tuag at bobol hoyw Gwynn Hefin?! Doedd y sgetsus o dan sylw ddim yn cynnwys y pwnc. Mae e’n obsesiwn da chi ond pam? Pa effaith mae’n ei gael arnoch chi? Mae’n rhaid i chi weld seiciatrydd -mae gennych broblemau… A does gan neb ddiddordeb yn eich barn chi am hoywon chwaith- rydych yn rhuo yn y gwynt fel bwystfil chwarter call- trueni.

A Golwg, os am redeg sylwadau, triwch eu rheoli fel cwmni proffesiynol a dileu sylwadau ffiaidd y gwr truenus hwn plis.

§

Sion , Tachwedd 20, 2012 9:42 pm

Son am fynd oddi ar y cledrau! Mae’r gwir yn groes i’r hyn ti’n ddweud Gwynn Hefin, mae perthnasau rhwng dau o’r un rhyw yn naturiol, mae’n digwydd mewn anifeiliaid eraill hefyd, a phetaet ti’n gwybod rhywbeth am hanes, mae’n digwydd mewn pobl ers milenia. Mewn rhai poblogaethau yn y gorffennol roedd rhan fwyaf o’r boblogaeth yn cyfathrachu gyda dynion a merched. Rhywbeth i feddwl amdano!

Yr hyn sy’n fwy annaturiol o lawer yw ceisio’i lethu (os mai dyna ‘suppression’), ac yn hynny dw i’n cynnwys ceisio’i lethu mewn eraill a’i lethu ynoch chi eich hunan. Iawn, does dim rhaid ei hoffi na chymeradwyo’r peth, ond beth am ei anwybyddu?! Does neb yn dy orfodi di i’w gwylio nhw’n cael rhyw, oes na? Neu’n dy orfodi i ymuno?

Anodd yw peidio dehongli dy obsesiwn eithafol gyda’r mater fel angst am dy rywioldeb dy hunan yn fwy na dim byd arall.

§

Sion , Tachwedd 20, 2012 9:48 pm

Cytuno gyda CGT am Israel/Gaza. Mae’r newyddion oddi yno yn ofnadwy, ond fy hunan dw i ddim yn deall digon i ddechrau mynegi barn ar y mater. Da o beth bod cymaint o bobl yn teimlo’n gryf am ein materion ni yng Nghymru.

Os gallwn fentro dychwelyd i’r pwnc, o’n i’n hoffi awgrym Dan Puw yn rhywle uchod am gael pobl sy ddim yn ffermwyr ifainc eu hunain hefyd i roi tro ar ysgrifennu sgript neu ddwy. Mae prinder comedi wedi bod yn broblem ar Radio Cymru ac S4C ers blynyddoedd, er bod ambell berl wedi ymddangos yn y blynyddoedd diwethaf a bod yn deg. Mae angen magu mwy o sgriptwyr comedi Cymraeg da!

§| Nodi camddefnydd

Llinos , Tachwedd 20, 2012 9:49 pm

Mae’n eironig bod pwnc oedd am hiliaeth yn erbyn pobl Tseina wedi troi i hiliaeth yn erbyn ‘townies’ a ‘hambons’!

§

Tomos , Tachwedd 20, 2012 9:58 pm

中国 – sef Zhong guo neu rhywbeth fel ‘Y Wladwriaeth Ganolog’ hy China neu Tseina. Byddwn i’n hoffi gweld y pobl soffistigedig o Gymru yn mynd allan a byw gyda’r Chineaid. Y rhai sy’n dal eu trwynnau ifyny wrth gwrdd a’r Cymro cefn-gwlad. Byddech yn gweld pobl sy’n falch o’u cenedl ac yn ddigyfaddawd ynglyn ag hynny. Byddech yn gweld ymddygiad fyddai’n gwneud ein ‘Hambons’ edrych fel aelodau o’r teulu brenhinol; y poeri ar y strydoedd; yr ysmygu wrth fwyta; bwyta gwythiennau a ymennydd anifeliaid; bwyta traed ieir a chrib y celiogod; bwyta clustiau moch; gosod y gwryw a’r henoed ar bedestl; y tynnu lluniau o’r person gwyn oherwydd eich bod yn wahanol; y rhagfarnau di-ddiwedd; y cenedlaetholdeb……gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Ac nid wyf i’n meddwl y byddai’r bobl yn ymddiheuro am unrhyw beth sy’n rhan o’u diwylliant……achos Chineaid ydynt; pobl balch ac urddasol ‘Y Wladwriaeth/Deyrnas Ganolog’; y pegwn arall i’r dosbarth canol dinesig Cymreig a Chymraeg.

§| Nodi camddefnydd

Guto , Tachwedd 21, 2012 8:55 am

Dwi’n cyd-fynd a sylwadau Rhydian Mason – hwyl diniwed oedd hyn yn y bon heb ddim byd maleisus. Hwyl sy’n cael ei fwynhau’n reolaidd ledled Cymru. Doedd yr hyn gafodd ei ddarlledu yn ddim gwaeth na be sy’n cael ei ddangos yn reolaidd ar sianeli teledu eraill. Digon teg, dyw hiwmor CFfI ac hambons (sydd ddim yn derm israddol – ma ffermwyr a’u cyfeillion yn ei ddefnyddio’n ysgafn yn aml) ddim o reidrwydd at ddant pawb, ond mae na 998 sianel arall ar gael, neu be am godi llyfr neu mynd mas yn lle – does dim gorfodaeth i bob Gymro wylio eisteddfod CFfI. Ac yn lle pardduo CFfI a cefn gwlad “hen ffasiwn” Cymru, dylid gofio y daioni ma CFfI yn ei wneud o ran cadw ein iaith yn fyw fel iaith byw a naturiol.

§

Guto , Tachwedd 21, 2012 9:02 am

Mae gen ti olwg gul iawn o ddiwylliant Cymru, Tomos, os mai dim ond un garfan benodol o bobl cefn gwlad wyt ti’n ei gynnwys ynddo. Wn i ddim llawer am Tsieina heblaw am adroddiadau tebyg i dy rai di gan gyfaill a fu’n byw yno, ond dwi’n byw yng nghefn gwlad Cymru a dwi’n gweld y ffordd mae diwylliant Seisnig ‘lowest common denominator’ yn gwthio allan unrhyw ddiwylliant cynhenid, gyda Frankie & Benny’s ac X-Factor yn tra-arglwyddiaethu dros y dafarn leol a’r noson lawen. Mae’r Ffermwyr Ifainc yn hanfodol wrth ddiogelu ein diwylliant rhag hyn, ac mae’n rhaid pwysleisio mod i’n meddwl mai cam gwag oedd y sgets yma, nid adlewyrchiad o gyfraniad teilwng y CFfI at fywyd Cymreig a Chymraeg.

Wyt ti wedi gweld ffrwd Twitter Simon Brooks yn sgil yr embaras yma? Engrheifftiau lu o gyfrolau difyr gan Gymry Cymraeg eangfrydig o’r oesoedd a fu, llenorion oedd bryd hynny’n ennyn parch eu cydwladwyr yn hytrach na drwgdybiaeth pobl daeog sydd wedi hen roi’r gorau i feddwl drostynt eu hunain.

Mae na lawer o bobl yng nghefn gwlad sy’n cyfrannu at ddiwylliant byrlymus Cymraeg – ac mae nhw’n llwyddo i wneud hynny heb atgyfodi hen cliches Seisnig ac amddiffyn hiliaeth yn enw rhyddid barn.

§

Tomos , Tachwedd 21, 2012 10:01 am

Guto,
Cytuno gyda pobpeth bron wnes ti ysgrifennu uchod. Ond nid y rhai sy’n dilyn diwylliant y‘lowest common denominator oedd cris dafis yn ymosod arno ond yr arall sy’n prysur ddiflannu i wylio x factor a Britain’s Got talent. Sawl darn arian fydd e’n derbyn am ysgrifennu’r ymosodiad a’r ammddiffyniad o Little Britain?

Dwi ddim cweit yn siwr beth mae Simon Brooks yn ceisio ei ddweud neu gyfiawnhau? Mae’r Cymry cynhenid cefn-gwlad a threfol erioed wedi bod yn gyfeillgar ac yn agored i estroniaid. Ac rydym i gyd yn gwybod taw nid yn unig aelodau o’r dosbarth canol Cymraeg yng Nghaerdydd sydd wedi cael perthynas neu cyfeligarwch gyda pobl o dras Asiaidd. I finne, mae’n dangos diffyg hyder.

§| Nodi camddefnydd

Osian , Tachwedd 21, 2012 10:33 am

Hannah & a.non, beth yw eich problem am gael trafodaeth? Gwell treulio amser ar Facebook yn pydru ein meddyliau? Neu amsugno erthyglau un ar ol y llall a’i derbyn yn ddi-gwestiwn? Ai hynny sy’n iach ar gyfer democratiaeth fodern? Os ydy sgwennu sylwadau wir yn golygu ei fod wedi dwyn amser allan o shifft rhywun yn gwaith (does dim i brofi fod hyn yn wir wrth gwrs), yna eu problem nhw yw hynny.

Yn bersonol, dwi heb weld y sgets felly does gen i ddim barn ar y mater. Ond er yr ambell sylw gwirion, mae llawer o’r sylwadau uchod yn hynod ddiddorol o’r ddwy ochr – p’run ai dwi’n cytuno gyda nhw neu beidio. Er enghraifft, fel un o dref fawr mae’n ddiddorol i mi weld safbwynt pobl cefn gwlad gan ei fod yn helpu i mi agor fy meddwl am faterion sydd yn gymharol ddieithr i mi. Hoffais sylw Paul ynglyn a’r “targed hawdd” – mae hyn yn gofyn llawer o gwestiynau, hefyd sylwadau Guto, Sion a blog Ifan Morgan Jones. Mae’r holl drafodaeth yn amlwg wedi ysgogi pobl i feddwl ac i leisio’u barn, ac mae hynny i’w gymeradwyo. O, ac yn bersonol dwi hefyd wedi dysgu ychydig mwy o eirfa Cymraeg yn y broses :)!

Annog mwy o sylwadau ar Golwg ddylem wneud, nid eu hatal. Fel arall byddem mewn perygl o weld ein cenedl yn “dumbio lawr” (gair Cymraeg plis!) yn gyfangwbl…

§| Nodi camddefnydd

Golwg360 , Tachwedd 21, 2012 11:01 am

Mae rhai pobol yn cwyno am sylwadau yn y drafodaeth hon. Ryden ni’n monitro o dro i dro ond mae yna fotwm wrth ochr pob sylw ar gyfer achlysuron fel hyn. Os bydd dau berson yn clicio ar y botwm ‘nodi camddefnydd’ wrth ochr unrhyw sylw, bydd hynny’n ei dynnu o’r ffrwd dros dro, nes i ni allu edrych arno. Dyna fel y mae llawer o wefannau o’r fath yn gweithio ac mae’n gymorth mawr i ni wrth fonitro.

Diolch

§| Nodi camddefnydd

Guto , Tachwedd 21, 2012 11:56 am

Linda – mae’r un gynta reit dda, a’r ail un yn wael.

§| Nodi camddefnydd

a.non , Tachwedd 21, 2012 1:06 pm

Dwi casau’r ffaith bod nhw bwyta cwn a chathod. Dim hiliol ydi dweud hynny just ffaith. Fel dwi casau ffaith nod sbaen yn lladd teirw.

§

Anon , Tachwedd 21, 2012 11:55 pm

Hefo’r holl sylwadau yn diflannu mae llinyn y sylwadau gwenud dim synnwyr. Golwg 360, pam ddim cael arwyddion bach o dan sylwadau “hoffi” a “dim hoffi” fel sy gan Daily Mail a Walesonline? Gwelliant mawr ar be y fformat sylwadau hyn. Bach o ffars.

§| Nodi camddefnydd

Hari Bach , Tachwedd 22, 2012 12:01 am

Cytuno efo chdi, boi. Mae’r sylwadau ma o’r ddwy ochr yn donic. Rwyf ddim wedi cael cymaint o chwerthin llond bol ers amser hir.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Williams , Tachwedd 23, 2012 3:00 am

un peth sy’n fact os buasai yna deligation o China yn did i Gymru yfory bydde nhw’n cael croeso a hwyl yng nghwmni Ffermwyr Ifanc Dyffryn Tywi fydden croesawi nhw gyda breichiau agroed. Ar y llaw arall ar o bythefnos gyda’r hunangyfiawn Cris a’i gyfeillion fydde nhw’n mynd adre hefo delwedd negyddol iawn o Gymru.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Williams , Tachwedd 23, 2012 7:45 am

Peth arall ma fe’n dan ar groen lawr o so called cyfryngis fod dau ffarmwr o Ddyffryn Tywi sy’n gwneud hyn ‘part-time’ wedi llwyddo i gael pobl Cymru i chwerthin ond bod nhw a sgwennwyr fatha Cris yn methu cael ‘titter’ mas o neb.

Dyna pam ma fod y Pontcanna Chattering Class fan hyn – does gando nhw ddim hiwmor tra bod dau fachgen ifanc o Nantgareig a tamed o dail rhwng gwuenedd yn cael nhw rolling in the aisles and that simple will not do will it !

Political Correctness the lat refuge of the uncharismatic

Fatha Esther Rantzen ar Parkinson yn casau Bernard Manning am taw ef oedd y laffs i gyd a doed neb yn gwrando arni hi !

§| Nodi camddefnydd

irfon , Tachwedd 23, 2012 7:56 am

Sigh. Na Ifor. Ti’n rong. Am bob dim. ( Fel arfer ).

Sdicia hefo dy joc din am y Caymans a cymera’r tabledi. O, a ‘simply’ will not do. Nid ‘simple’.

Simples.

§| Nodi camddefnydd

Tomos , Tachwedd 23, 2012 9:51 am

Ac os dwi’n cofio’n iawn…..bois cefn gwlad o Geredigion sydd wedi cael contract mawr i fewnforio peiriannau o China. Bu’n rhaid i nhw fynd allan ‘na a throedio’n ofalus i beidio ag upsetio’r cart diwyliannol. Darllenwch am ‘guanxi’. Mae’n amlwg, fod y rhain wedi dangos sensitifrwydd diwylliannol rhyfedda. Dwi erioed wedi meddwl fod diwylliant cefn gwlad Cymru a sawl peth sy’n debyg i ddiwylliant China. Da iawn chi. Nid wyf i wedi clywed am lot o weithgaredd gan y Chineaid yng Nghaerdydd.

§| Nodi camddefnydd

arwyn , Tachwedd 23, 2012 6:05 pm

Os cwyno am y C.Ff.I dylid cwyno am Dad’s Army ac ‘Ello ‘Ello a lot o bethau eraill – dwli pen hewl!

§

Llinos , Tachwedd 24, 2012 12:00 am

Hoffwn expose am Ifor Williams yn Golwg yn fuan. Pwy yw e? Nytar o drol(l) neu ffoadur o Lol?!

§| Nodi camddefnydd

Ifor Williams , Tachwedd 24, 2012 5:23 am

Irfon ma fe’n ‘wrong’ i wmneud hwyl ar ben y Chinese mewn sioe yng nghefn gwlad Cymru ond nid i ymosod ar fy dyslexia – just achos fod Guto wedi disgrifio fi fel ‘meme’ gynta Cymru (beth f**k yw hwnnw – o ni’n meddwl taw mwnci bach yn byw yn Madagascar oedd e hefo llygaid mowr a bach yn endangered !)

Aeth Guto yn ei flaen i ddweud fy mod naill a’i genius neu’n ‘idiot savat’ eto ‘lost on me’ ond dwi ddim yn gweld neb yn dy gamol di i’r fath raddau !

§| Nodi camddefnydd

Ifor Williams , Tachwedd 24, 2012 10:12 am

Cytuno A.non ydy Huw Jones nol o’r Cayman’s eto – pethe mynd yn rhemp yn ei absenoldeb

§| Nodi camddefnydd

irfon , Tachwedd 24, 2012 4:39 pm

@Ifor- mae’n ddrwg gen i. Doeddwn i ddim yn sylweddoli dy fod yn diodda gyda dyslexia. Ymddiheuriadau.

§| Nodi camddefnydd

Ifor Williams , Tachwedd 25, 2012 2:29 pm

@Irfon npopeth yn iawn f**k face smo dyslexia yn rhy ddrwg y tourette’s sy’n dal dy nol o safbwynt fy nghyrfa – ma pobl just gallu bod mor groen dennau

§| Nodi camddefnydd

Ifor Williams , Tachwedd 25, 2012 2:34 pm

@ Llinos o ni’n yr ysgol gyda ‘Llinos’ roedd hi’n mynd yn hyter4ical os oedd hi’n cael llai na 60% mewn unrhyw exam hyd yn oed yn fform three ! Bu’n rhaid galw paramedeic a defibulator pan gafodd hi 48% yn Chem a’i ti yw’r ‘Llinos’ yna ?

Os taw ma Marc dal gyda y ferch yna – dau o blant nawr a BMW !

§| Nodi camddefnydd

gruff , Tachwedd 26, 2012 6:25 pm

Tybed alle Golwg thri sicsdi adio opsiwn o glicio bawd fynu neu lawr ar gyfer pob sylwad?

§| Nodi camddefnydd

Dai Jones , Tachwedd 27, 2012 4:03 pm

Tybed be wede mam Slaymaker?

§| Nodi camddefnydd

Llinos , Tachwedd 27, 2012 10:06 pm

Na yn ffodus iawn dwi ddim yn adnabod ti Ifor a dwi’n amau mod i dipyn yn iau na ti. Ond mae’n amlwg mod i wedi dy ddychryn! O’n i’n meddwl byddet ti’n mwynhau’r sylw!

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.