Daeth dros hanner cant i brotest a drefnwyd ar y cyd rhwng trigolion Penybanc yn Sir Gaerfyrddin a Chymdeithas yr Iaith i wrthwynebu datblygiad o 289 o dai.

Clywodd y dorf gan ymgyrchwyr lleol a Chymdeithas yr Iaith a bu trafod camau nesaf yr ymgyrch yn y sir. Mae gwrthwynebiad yn lleol ac ar draws y sir i’r datblygiad oherwydd yr effaith a fyddai ar y gymuned leol ac ar y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin.

“Mae pentrefi fel Penybanc, Saron a Thycroes yn ardaloedd yn parhau i fod yn ‘naturiol’ Gymraeg,” meddai Joy Davies o Bwyllgor Gweithredu Penybanc.

“Mae’r pentrefi wedi cadw ymdeimlad cryf o’u hunaniaeth hefyd, er eu bod nhw yng nghyffiniau Rhydaman.

“Ein cred ni yw y bydd codi 289 o dai ar un safle ym Mhenybanc yn cael effaith niweidiol iawn ar Gymreictod yr ardal ac ar gymeriad y pentref.”

Cymdeithas yn cefnogi

Meddai Sioned Elin, Cadeirydd y Gymdeithas yn yr ardal:

“Yn ddiweddar iawn bu Leighton Andrews yn rhan o fforwm yn Nhycroes, dafliad carreg o safle’r datblygiad, yn trafod canlyniadau’r Cyfrifiad.

“Fe wnaeth e gyhoeddi grŵp tasg arall i edrych i sefyllfa’r Gymraeg yn y sir ond eto dyma nhw’n gwneud dim byd ynghylch y datblygiad anferth hwn – er gwaethaf gwrthwynebiad lleol.”

“Mae’r Cyngor hefyd wedi sefydlu grŵp ar wahân i edrych ar ffigyrau’r Cyfrifiad ond eto yn caniatáu datblygiad fel hyn, ar sail hen Gynllun Datblygu Unedol nad yw’n gyfredol.”