Y tân ddydd Gwener (llun Sion England)
Ar ôl i ymladdwyr tân fod ar waith trwy’r nos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, mae ymchwiliad bellach ar y gweill er mwyn darganfod beth yn union achosodd y tân.

Roedd y tân wedi cynnau yn llawr uchaf a tho’r estyniad toc ar ôl 2.30 o’r gloch brynhawn Gwener – yn y rhan sydd agosaf at brif faes parcio’r sefydliad.

Yng ngolau dydd, mae’n amlwg fod bron i 100 troedfedd (30 metr) o hyd y to wedi ei ddifrodi gan y fflamau, ynghyd â nifer o swyddfeydd.

“Hoffai’r Llyfrgell ddiolch i bawb am eu negeseuon a chynigion o gymorth,” meddai datganiad ar ran y Llyfrgell heddiw.

“Gofynnir i’r staff a chyhoedd i beidio â dod i’r adeilad i gynnig help llaw, tan ein bod yn cysylltu’n benodol.”

Mae’r Llyfrgell ar gau heddiw, ac fe fydd wedi cau ddydd Llun hefyd. Er hynny, fe fydd cyfarfod staff am 10 o’r gloch fore Llun.