Meri Huws
Mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg wedi dweud ei bod hi eisiau clywed gan y cyhoedd am eu profiadau nhw o ddefnyddio’r iaith Gymraeg ym myd gofal iechyd.
Dywedodd Meri Huws ar y Post Cyntaf bore ma bod y sefyllfa yn “anghyson” ar hyn o bryd a dywedodd bod pobl wedi bod yn cwyno wrthi am wasanaethau yn y maes.
Ei bwriad yw casglu tystiolaeth pobl ar gyfer ei hymchwiliad statudol cyntaf fel Comisiynydd Iaith.
O heddiw tan ddiwedd Medi bydd swyddfa’r Comisiynydd yn casglu tystiolaeth a gwybodaeth er mwyn canfod beth yw profiadau siaradwyr Cymraeg o dderbyn, neu fethu â derbyn, gwasanaethau yn y Gymraeg gan ddarparwyr gofal sylfaenol yng Nghymru.
Lleisiau amrywiol
Yn ogystal â phrofiad y cyhoedd, mae Meri Huws yn gobeithio clywed gan bobl sy’n gweithio ym maes gofal iechyd hefyd.
Nod yr ymchwil yw gweld os yw gwasanaethau gofal sylfaenol y gwasanaeth iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddigonol. Bydd yr adroddiad yn cynnig argymhellion i bobl sy’n llunio polisïau.
Mae’r Comisynydd eisiau clywed barn pobl am wasanaethau meddygon teulu, deintyddion, optegwyr a fferyllwyr, timau yn y gymuned a llinell gymorth Galw Iechyd Cymru.
Y nod, meddai’r Comisiynydd, yw newid arferion a ffordd pobl o feddwl, a sicrhau bod y claf yn cael profiad da trwy ddefnyddio’r Gymraeg yn y sector iechyd.
Arbenigwyr
Mae panel o arbenigwyr wedi eu penodi i roi cyngor i Meri Huws pan fydd hi’n penderfynu ar yr argymhellion.
Mae’r panel yn cynnwys yr Athro Ceri Phillips, Dr Gareth John Llewelyn, Dr Elin Royles a Dr Peter Higson.
Gwrthwynebiad
Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) eisoes wedi lleisio gwrthwynebiad gan ddweud y byddai cynnig gwasanaethau Cymraeg yn cael effaith ar recriwtio gan na fyddai meddygon di-Gymraeg eisiau dod i Gymru.
Ond dywedodd Meri Huws ei bod hi’n “gobeithio” cael cydweithrediad cyrff fel y BMA yn y misoedd nesa.
“Mae pobl yn dymuno ac angen gwasanaeth meddygon lleol drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Meri Huws.
“Y maes gofal sylfaenol – y pwynt cyswllt cychwynnol o fewn y gwasanaeth iechyd – oedd lle oedd angen i ni roi ein sylw, deall beth oedd anghenion defnyddwyr a sut mae modd darparu hynny.”
Bydd swyddfa’r Comisiynydd yn casglu tystiolaeth yn Eisteddfod yr Urdd, y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol dros yr haf a byddan nhw’n cynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar draws Cymru ym mis Medi.
Mae’n bosib hefyd i bobl gysylltu gyda’u sylwadau tan fis Medi 2013 trwy ffonio neu ddefnyddio ffurflen ar-lein ar wefan y Comisiynydd Iaith.