Mae mudiad PAWB, Pobl Atal Wylfa B, wedi galw ar bob darpar ymgeisydd yn isetholiad Ynys Môn i ddatgan yn eglur eu safbwynt ynglŷn â Wylfa B.

Gorsaf bŵer niwclear newydd ydi Wylfa B. Y bwriad ydi ei hadeiladu ar yr un safle â’r orsaf bresennol yn y Wylfa, ychydig i’r dwyrain o dref Cemaes.

Mae PAWB yn gwrthwynebu’r bwriad i adeiladu’r orsaf newydd ac yn dweud bod angen i’r ymgeiswyr fydd yn ymgyrchu i ennill sedd Ieuan Wyn Jones yn y Cynulliad ateb nifer o gwestiynau.

O blaid neu yn erbyn?

Meddai  Dylan Morgan o PAWB, “Ydyn nhw o blaid yr atomfa arfaethedig ac am ymgyrchu o’i phlaid? Ydyn nhw yn erbyn ac yn fodlon ymladd yn ei herbyn? Neu ydyn nhw am eistedd ar y ffens gan mai penderfyniad i San Steffan yw hwn?”

Aeth ymlaen i ddweud os ydi’r ymgeiswyr o blaid Wylfa B yna fe fyddan nhw’n cefnogi gwastraff ymbelydrol poeth ar y safle am 150 o flynyddoedd neu fwy, distrywio harddwch naturiol Gogledd Môn a’i arfordir, a throi’r ardal yn safle adeiladu mwyaf Ewrop, 11 gwaith maint y safle presennol, gan ddenu miloedd o weithwyr adeiladu, y mwyafrif helaeth ohonyn nhw heb fod yn lleol.

Boddi cymunedau Cymraeg?

Mae PAWB yn honni hefyd y byddai Wylfa B yn boddi cymunedau Cymraeg eu hiaith, ac y byddai’n faich ariannol ar y trethdalwr am ddegawdau. Maen nhw hefyd yn poeni am iechyd y cyhoedd.

“Mae adroddiad yn yr Almaen wedi profi bod cynnydd mewn achosion o leukaemia ymhlith plant sy’n byw ger gorsafoedd niwclear, a chynnydd mewn canserau solet,” meddent.

Mae’r Blaid Lafur a Plaid Cymru wedi dewis eu hymgeiswyr ar gyfer y sedd, sef Tal Michael a Rhun ap Iorwerth. Bydd y pleidiau eraill yn dewis eu hymgeiswyr y fuan. Bydd yr isetholiad yn cael ei gynnal dydd Iau, y 1af o Awst.