Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Buddugoliaeth ‘ysgubol’ i Blaid Cymru

Awst 2, 2013 10:39, Diweddarwyd am 10:39


Mae canlyniad yr is-etholiad ar Ynys Môn yn “ysgubol” i Blaid Cymru ond yn “drychinebus” i’r prif bleidiau yn ôl Pennaeth Canolfan LLywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fe wnaeth Plaid Cymru ddal ei gafael ar sedd Ynys Môn mewn is-etholiad i’r Cynulliad, a hynny gyda mwyafrif mawr.

Llwyddodd Rhun ap Iorwerth i ennill 12,601 (58%) pleidlais gan adael Tal Michael o’r Blaid Lafur ymhell ar ei hôl hi efo 3,435 pleidlais (16%) – lai na 400 pleidlais yn fwy na Nathan Gill, ymgeisydd UKIP, gafodd 3099 pleidlais (14%).

Y Ceidwadwyr oedd yn bedwerydd efo 1,843 (9%) yn pleidleisio i Neil Fairlamb a Katherine Jones o’r Blaid Lafur Sosialaidd oedd yn bumed efo 348 (2%) tra bod Stephen Churchman yn olaf gyda 309 (1%) o bleidleisiau.

Dyma’r canlyniad gorau erioed i UKIP mewn unrhyw etholiad i’r Cynulliad ac mae’n ymddangos bod hynny ar draul y Ceidwadwyr sydd wedi colli 20% o’u pleidlais ers y tro diwethaf.

Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, mae’r canlyniadau yn drychinebus i’r prif bleidiau.

“Mae’n amlwg bod y Democratiaid Rhyddfrydol mewn creisis ac yn ymladd am eu heinioes,” meddai.

“Mae’n ganlyniad ofnadwy i’r Ceidwadwyr, ac am y Blaid Lafur, dyma blaid sydd ar y blaen yn ôl y polau piniwn yng Nghymru a Phrydain ond mae’r canlyniad ym Môn – ac yng Nghaerffili hefyd, yn awgrymu bod y gefnogaeth yng Nghymru yn andros o feddal.”

Ychwanegodd bod y canlyniad yn newyddion gwych i Blaid Cymru wedi cyfnod llwm.

“Mae llwyddiant Plaid Cymru yn dangos be sy’n digwydd pan mae plaid wleidyddol yn bwrw ati i weithio. Mae hyn wedi rhoi momentwm i Blaid Cymru a hygrededd i Leanne Wood ar ôl cyfnod pan roedd yn ymddangos bod y blaid yn troi yn ei hunfan.”

Crynodeb

Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) 12,601 (58.24%, +16.82%)

Tal Michael (Llafur) 3,435 (15.88%, -10.33%)

Nathan Gill (UKIP) 3,099 (14.32%)

Neil Fairlamb (Ceidwadwyr) 1,843 (8.52%, -20.70%)

Kathrine Jones (Llafur Sosialaidd) 348 (1.61%)

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Jones , Awst 2, 2013 11:13 am

Beth sydd yn dda hefo’r canlyniad yma ydy hyd yn oed petai y ‘turn out’ yn normal – fysa Rhun dal wedi ennill.

Deall nad oedd lot o C’gybi wedi pledleisio. Felly fydd e yn ddiddorol iawn gweld pwy fydd rhain yn pleidleiso am yn 2015 – UKIP ta Llafur. Yn anffodus doedd na ddim ateb i hyn neithiwr.

Rhaid i Grwp Mon edrych nawr am ymgeisydd da, lleol ar gyfer etholiad San Steffan a gadael i fo neu hi adeiladu cefnogaeth yn lleol.

Pob lwc i Rhun- mae o wedi bod yn risg wrth cymeryd y dyn yma ymlaen. Gobeithio neith o’n dda lawr yn y Bae!

§| Nodi camddefnydd

Ifor , Awst 2, 2013 11:21 am

Cool down gyda’r ysgubols etc – ma Alun B’Stard yn darllen hwn ac wnaeth e gynllwynio i gael gwared o’ch funding .

§| Nodi camddefnydd

Ifor , Awst 2, 2013 11:26 am

Os angen i Ifor fwyta llawn wilber o humble pie ? O weld y canlyniad yn y de hefyd , ydy Leanne Wood yn resonate gyda’r etholwyr yng Nghymru ?

§| Nodi camddefnydd

Dafydd Iwan , Awst 2, 2013 12:05 pm

Rhyfedd na fasa’r cyfryngau a’r sylwebyddion gwleidyddol wedi sylwi fod yna rywbeth mawr ar droed ar yr ynys. Ymgeisydd rhagorol, ymgyrch drefnus gan fflyd o ganfaswyr o bob oed, taflenni da, jingls difyr, neges gadarnhaol….ond dim gair gan y pyndits, ond mentro mai “ras dau geffyl yw hi”, a dim darlledu o’r cyfri na dim. Fydd y chwyldro ddim ar y teledu, a fydd annibyniaeth ddim ar y radio. Llongyfarchiadau Rhun, Rhuanedd, Leanne a’r ymgyrchwyr i gyd.

§| Nodi camddefnydd

Dafydd Iwan , Awst 2, 2013 12:15 pm

Mi ddylwn fod wedi cydnabod blog byw Pennant o’r cyfri wrth reswm.
Diolch Golwg!

§| Nodi camddefnydd

Gwyn , Awst 2, 2013 1:37 pm

Trist fod 14% wedi cefnogi casineb UKIP at y Cymry. Ond 6% o’r Ceidwadwyr (o’r etholiad diwethaf) wedi cefni ar Seisnigrwydd a chefnogi Rhun

§| Nodi camddefnydd

Henri , Awst 2, 2013 2:24 pm

Faint fyddai wedi gwrando ar raglen o Langefni am 1.00 y bore? Wnaeth 57% o etholwyr Môn ei hun ddim pleidleisio! Y rhai sydd wedi aros adre (neu eu bod ar wyliau) sydd wedi ennill eto. A fydd Rhun yn medru eu perswadio fod gwerth i’r Senedd yn y Bae?

§

Gail Bach, Felinheli , Awst 2, 2013 4:28 pm

Llongyfarchiadau i UKIP am ddod yn drydydd teilwng dros ben. Mwy i ddod ganddynt …
Ar ddiwedd y dydd, wedi’r holl ewfforia, ychydig iawn o wahaniaeth sydd yna rhwng Plaid a Llafur.

§| Nodi camddefnydd

henri , Awst 2, 2013 4:38 pm

A’r gwahaniaeth rnwg UKIP a’r Toriaid, yn arbennig Llywydd Toriaid Mon oedd ar y radio amser cinio yn dweud ei fod am gael gwared a’r Cynulliad?!

§| Nodi camddefnydd

Dewi , Awst 2, 2013 5:31 pm

Buddugoliaeth i Fon!

Bechod bod na nifer fawr (gormod) o “has beens” or de a Sir G’narfon yno neithiwr i gymryd mantais o fuddugoliaeth ym Mon.

§| Nodi camddefnydd

Owen , Awst 2, 2013 5:44 pm

O’n i’n clywed mai pleidwyr ‘Sir Gaernarfon’ oedd wedi bod yn yr etholaeth yn gofalu fod pawb yn cael tair neu bedair taflen drwy’u drysau. Fyddan nhw ddim o gwmpas yn yr etholiad Cynulliad nesa cofiwch. Mi fyddan yn stryglo yn Arfon!

§| Nodi camddefnydd

Ifor , Awst 2, 2013 6:40 pm

Ma maint pleidlais Rhun gymaint y dylid symud yn gyflym i gael ymgeisydd da ar gyfer San Steffan. Yn amlwg dyle yr ymgeisydd yna fyw yn lleol – tebyg y bydd rhaid iddo fyw yng nghysgod yr aelod cynulliad ond bydde hynny ddim yn le drwg i’r Cyng. Carwyn Jones.

Dewis e yn gyflym nawr er mwyn iddo cael mynd rownd Mon gyda Rhun.

§| Nodi camddefnydd

Ardwyn , Awst 2, 2013 8:22 pm

Llondgyfarchiadau mawr i ti Rhun – GWYCH! Cadw pethau yn positif!
Roedd y gwahaniaeth bach pleidleisiau rhwng Welshlebyr a UKIP yn adlewyrchu gwahaniaethau bychain yn eu gwerthoedd – UKIP yn casau tramorwyr, a Welshlebyr yn casau y Gymraeg. Ysgwn i faint o Welshlebyr fydd yn y “festifval of hate” wythnos nesa?

§| Nodi camddefnydd

Ifor , Awst 2, 2013 11:34 pm

Gobeithio y daw hyn a’r dydd o lywodraeth heb Lafur yn agosach. Mi wrthododd IWJ, wisgo’r goron gan ei roi i Lafur – dwi ddim yn ymwybodol o hyn yn digwydd yn unlle arall yn Ewrop. Weithie ma rhaid gael bed partners rhyfedd iawn mewn politics – edrychwch ar Iwerddon ma y chwith & dde eithafol wedi gorfod dod at ei gilydd i sicrhau nad nid one party state yw’r wlad .

Diw chware second violin i Lafur yn dda i f**k ol a nid ddyle neb fod mewn politics os taw ei uchelgais yw pasio’r bel ar ei derbyn gan yr etholwyr fel gwnaeth IWJ .

§| Nodi camddefnydd

Colyn , Awst 3, 2013 12:33 am

Yr hyn sydd yn drist yw nad oedd gan dros hanner pobl Môn yr amynedd i fynd i bleidleisio. Eto i gyd fe fyddan nhw digon parod i gwyno am hyn a llall ac arall. Rhag eu cywilydd nhw. Fy ddylai bwrw pleidlais fod yn orfodol.

§| Nodi camddefnydd

Deri , Awst 3, 2013 11:10 am

Fe ddylai Arfon fanteisio ar y momentwm hwn rwan. Fy nghyngor yw i Alun Ffred sefyll i lawr yn fuan er mwyn i adnoddau a pheirianwaith gyfan y blaid ganolbwyntio ar y sedd.
Mi fydd sicrhau buddugoliaeth i Sian G yn dasg dipyn anoddach mewn etholiad cynulliad oherwydd ni fydd yn bosib cael yr un dwysder canfasio yno. Byddai hyn yn rhoi cyfle i etholwyr Arfon ddod i adnabod ac ymddiried ynddi cyn etholiad 2016 gan ei helpu i gadw’r sedd bryd hynny.

§| Nodi camddefnydd

Dylan Llyr , Awst 3, 2013 8:26 pm

Byddai achosi mwy o is-etholiadau di-angen yn syniad twp iawn.

§| Nodi camddefnydd

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y ddolen ’Nodi camddefnydd’ sy’n ymddangos wrth ymyl pob sylwad. Os bydd dau berson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.