Mae canlyniad yr is-etholiad ar Ynys Môn yn “ysgubol” i Blaid Cymru ond yn “drychinebus” i’r prif bleidiau yn ôl Pennaeth Canolfan LLywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fe wnaeth Plaid Cymru ddal ei gafael ar sedd Ynys Môn mewn is-etholiad i’r Cynulliad, a hynny gyda mwyafrif mawr.

Llwyddodd Rhun ap Iorwerth i ennill 12,601 (58%) pleidlais gan adael Tal Michael o’r Blaid Lafur ymhell ar ei hôl hi efo 3,435 pleidlais (16%) – lai na 400 pleidlais yn fwy na Nathan Gill, ymgeisydd UKIP, gafodd 3099 pleidlais (14%).

Y Ceidwadwyr oedd yn bedwerydd efo 1,843 (9%) yn pleidleisio i Neil Fairlamb a Katherine Jones o’r Blaid Lafur Sosialaidd oedd yn bumed efo 348 (2%) tra bod Stephen Churchman yn olaf gyda 309 (1%) o bleidleisiau.

Dyma’r canlyniad gorau erioed i UKIP mewn unrhyw etholiad i’r Cynulliad ac mae’n ymddangos bod hynny ar draul y Ceidwadwyr sydd wedi colli 20% o’u pleidlais ers y tro diwethaf.

Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, mae’r canlyniadau yn drychinebus i’r prif bleidiau.

“Mae’n amlwg bod y Democratiaid Rhyddfrydol mewn creisis ac yn ymladd am eu heinioes,” meddai.

“Mae’n ganlyniad ofnadwy i’r Ceidwadwyr, ac am y Blaid Lafur, dyma blaid sydd ar y blaen yn ôl y polau piniwn yng Nghymru a Phrydain ond mae’r canlyniad ym Môn – ac yng Nghaerffili hefyd, yn awgrymu bod y gefnogaeth yng Nghymru yn andros o feddal.”

Ychwanegodd bod y canlyniad yn newyddion gwych i Blaid Cymru wedi cyfnod llwm.

“Mae llwyddiant Plaid Cymru yn dangos be sy’n digwydd pan mae plaid wleidyddol yn bwrw ati i weithio. Mae hyn wedi rhoi momentwm i Blaid Cymru a hygrededd i Leanne Wood ar ôl cyfnod pan roedd yn ymddangos bod y blaid yn troi yn ei hunfan.”

Crynodeb

Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) 12,601 (58.24%, +16.82%)

Tal Michael (Llafur) 3,435 (15.88%, -10.33%)

Nathan Gill (UKIP) 3,099 (14.32%)

Neil Fairlamb (Ceidwadwyr) 1,843 (8.52%, -20.70%)

Kathrine Jones (Llafur Sosialaidd) 348 (1.61%)