Caerfyrddin neu Wynedd yw’r llefydd dan ystyriaeth ar gyfer lleoli mwy o weithwyr S4C.

Bydd y Sianel yn edrych ar y posibilrwydd o symud rhannau o’i gwaith tra’n cadw cysylltiad cryf gyda Chaerdydd, ar ôl gofyn i sefydliadau cyhoeddus a phreifat ledled Cymru ddangos diddordeb mewn rhoi llety i weithwyr S4C.

Fe fydd y Sianel yn cydweithio â grwp sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin a Chyngor Gwynedd yng Ngwynedd gyda’r bwriad o gwblhau astudiaeth dichonoldeb yn hanner cyntaf 2014.

Cymru i elwa

Meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:

“Mae symud ymlaen i gam dau o’n hastudiaeth ddichonoldeb yn dangos ein bod ni’n mynd ati o ddifri i ystyried faint yn rhagor y gallwn ni yn S4C ei wneud i sicrhau bod Cymru gyfan yn elwa gymaint â phosib o’n bodolaeth fel sianel genedlaethol.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld ffrwyth y gwaith ychwanegol fydd yn cael ei wneud nawr ar y cyd â’n partneriaid posib yng Nghaerfyrddin a Gwynedd.”