Roger Lewis, cadeirydd yr ymgyrch 'Ie'
Fe fydd tua dwbl mwy yn pleidleisio Ie na Na yn y refferendwm ddydd Iau, yn ôl yr unig bôl piniwn ar y bleidlais hyd yn hyn.

Mae arolwg YouGov i raglen deledu’r Byd ar Bedwar S4C yn awgrymu y bydd 67% o blaid a 33% yn erbyn, a hynny ar ôl ystyried pwy sy’n debyg o bleidleisio.

Fe ddywedodd Nerys Evans ar ran yr Ymgyrch Ie bod y canlyniadau’n cyfateb i’r hyn y mae’n ei glywed ar garreg y drws.

‘Mwy na’r hanner am bleidleisio’

Mae’r ffigwr ar gyfer y nifer sy’n debyg o bleidleisio hefyd yn rhyfeddol o uchel, gyda 56% yn dweud eu bod yn hollol sicr o bleidleisio.

Os yw’r ffigurau’n agos ati, mae yna ragor o newyddion da i’r ymgyrch Ie, gan mai’r cefnogwyr Plaid Cymru sydd fwya’ tebyg o bleidleisio (79%) a nhw sydd gryfa’ o blaid rhoi’r hawl i Gymru wneud deddfau heb ofyn caniatâd San Steffan.

Er gwaetha’ safiad yr arweinyddiaeth yng Nghymru, dim ond 25% o gefnogwyr Torïaidd fydd yn pleidleisio o blaid ac mae mwyafrif o gefnogwyr y Democratiaid Rhyddfrydol (55%) hefyd yn erbyn.

O ddiddymu i annibyniaeth

Tebyg yw’r patrwm gyda chwestiwn mwy eang am yr hyn y byddai pobol yn licio’i weld yn y pen draw.

Mae 40% o Geidwadwyr eisiau cael gwared ar y Cynulliad yn llwyr a 30% eisiau cadw pethau fel y mae hi.

Mae hyd yn oed 17% o Ddemocratiaid Rhyddfrydol eisiau mynd yn groes i’w polisi hanesyddol a diddymu’r Cynulliad, gyda 33% am gadw’r system eLCO.

Rhagor o fanylion

  • Yn gyffredinol, mae 52% o’r holl atebwyr o blaid cynyddu grymoedd, grymoedd trethu neu annibyniaeth a 30% eisiau aros fel y mae neu ddiddymu’r Cynulliad yn llwyr.
  • Ymhlith cefnogwyr Plaid Cymru, mae 18% o blaid annibyniaeth, 21% am weld grymoedd trethi a 42% o blaid y grymoedd sydd yn y Refferendwm.
  • Yn ôl yr arolwg, fe fydd 79% o gefnogwyr Llafur yn pleidleisio Ie ac mae 49% eisiau aros gyda’r grymoedd newydd sydd yn y Refferendwm.
  • O ran perfformiad y Cynulliad, roedd 46% yn credu ei fod yn gwneud yn dda neu dda iawn – cefnogwyr Llafur a Phlaid Cymru’n benna’ – ac 17% yn dweud ei fod yn gwneud yn sâl, gyda’r Ceidwadwyr yn fwya’ beirniadol.