Ole Gunnar Solskjaer Llun: CPD Caerdydd
Mae clwb pêl-droed Caerdydd wedi penodi Ole Gunnar Solskjaer yn rheolwr newydd, wythnos ar ôl diswyddo Malky Mackay.

Cyrhaeddodd y gŵr o Norwy Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw i gadarnhau’r apwyntiad, ar ôl cyfarfod Vincent Tan a’r cyfarwyddwr Mehmet Dalman yn ystod gêm Caerdydd yn Arsenal ddoe.

Mae Solskjaer wedi arwyddo cytundeb 12 mis i’w adnewyddu’n flynyddol gyda’r clwb – trefniant y mae yntau a’r clwb yn hapus efo, yn ol Dalman.

Bydd disgwyl i Solskjaer, sy’n 40 oed ac yn rheolwr ar glwb Molde yn Norwy gynt, gadw’r clwb yn yr Uwch Gynghrair erbyn diwedd y tymor.

Ar hyn o bryd maen nhw’n 17fed yn y tabl, pwynt yn unig ar ben y safleoedd disgyn, ar ôl colli tair o’u pedair gêm ddiwethaf dros gyfnod y Nadolig.

Cafodd Mackay ei ddiswyddo fel rheolwr yn dilyn y golled i Southampton ar Wyl San Steffan er mawr siom i’r cefnogwyr, gydag Ian Kerslake yn cymryd yr awenau dros dro yn y ddwy gêm ddiwethaf.

Mae disgwyl i’r gŵr newydd gael rhagor o arian i’w wario ym mis Ionawr er mwyn cryfhau’r garfan – er bod Tan wedi dweud wrth Mackay fis diwethaf nad oedd “ceiniog” ar gael iddo yntau wedi i’r gyllideb gyfan gael ei wario yn yr haf.

Cam nesaf i’r clwb

Wrth i’r clwb gyhoeddi’r newyddion, dywedodd Solskjaer ei fod yn gobeithio arwain Caerdydd i’r cam nesaf.

“Mae’n sialens wych i mi,” meddai Solskjaer. “Mae Caerdydd yn barod i gymryd y cam nesaf ymlaen, a dwi’n gobeithio gallu eu helpu nhw.

“Rydw i wastad wedi breuddwydio am y cyfle i gael bod yn rheolwr yn yr Uwch Gynghrair ac rwyf wrth fy modd o gael y cyfle.

“Rydym ni eisiau gwthio’r clwb yn uwch i fyny’r gynghrair. Mae safon y chwaraewyr a’r staff yn uchel yma.

“Rwy’n edrych ymlaen at y sialens o’n blaenau. Rwyf am ddod a’m hegni a brwdfrydedd i’r clwb.

“Rwy’n rheolwr positif iawn. Rwyf eisiau chwarae arddull dda o bêl-droed ac fe ddangosodd ddoe [yn erbyn Arsenal] faint o fygythiad allwn ni fod.

“Mae gennym ni rai o’r gemau anoddaf yn y byd pêl-droed o’n blaenau yn y mis nesaf. Maen nhw’n gemau yr ydyn ni’n awchu i chwarae ac yn edrych ymlaen atyn nhw.”

Dewis cyntaf Dalman

Yn ôl y cadeirydd Mehmet Dalman, roedd Solskjaer ben ac ysgwyddau yn uwch na’r ymgeiswyr eraill.

“Dim ond un enw oedd yn fy meddwl o’r cychwyn,” meddai Dalman. “Rydym ni wrth ein boddau i groesawu Ole i Gaerdydd.

“Rwyf wedi gweld Ole’n chwarae am nifer o flynyddoedd. Rwy’n hoff o’i steil o bêl-droed a’i syniadau am y gêm.

“Mae’n gyfathrebwr hynod o dda. Synnwyr cyffredin, trafodaethau pragmataidd a ffydd oedd yn bwysig i ddenu Ole yma.”

Fydd Ole’n dathlu?

Cafodd Solskjaer gyfnod llwyddiannus tu hwnt yn ei swydd gyntaf fel rheolwr ym Molde, gan ennill y gynghrair yn Norwy ddwywaith cyn cipio Cwpan Norwy’r llynedd yn ei dair blynedd gyda’r clwb.

Y tlws cyntaf hwnnw yn 2011 oedd y gynghrair Norwyeg gyntaf i Molde ennill mewn 100 mlynedd.

Cafodd ei ystyried i olynu Alex McLeish fel rheolwr ar Aston Villa yn 2012, yn ogystal ag ar gyfer swydd Blackburn y tymor diwethaf, ond penderfynodd aros yn Norwy ar y pryd.

Treuliodd Solskjaer dros ddeng mlynedd yn chwarae i Man United yn ystod ei yrfa, gan wneud enw iddo’i hun yn sgorio goliau oddi ar y fainc, a chael llysenw ‘baby-faced assassin’.

Sgoriodd y gôl dyngedfennol yn yr amser ychwanegol am anafiadau i ennill Cynghrair y Pencampwyr pan drechodd Man United Bayern Munich o 2-1 yn 1999 i ddod yn bencampwyr Ewrop.