Sam Warburton - ymrwymo'i hun i diîm Cymru
Mae Capten Cymru, Sam Warburton, wedi arwyddo cytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru a fydd yn ei ymrwymo i’r tîm cenedlaethol.

Ef yw’r chwaraewr cyntaf o Gymru i arwyddo cytundeb  o’r fath.

Fe fydd cytundeb y chwaraewr 25 oed gyda Gleision Caerdydd yn dod i ben yn yr haf.

Roedd ofnau y byddai’n ymuno â’r lluoedd o chwaraewyr sy’n gadael Cymru am borfeydd brasach, ond fe fydd y cytundeb cenedlaethol yn ei gadw yng Nghymru.

Mewn datganiad gan Undeb Rygbi Cymru, meddai Warburton:

“Dw i wrth fy modd o ymrwymo fy nyfodol i rygbi Cymru. Hoffwn ddiolch i Undeb Rygbi Cymru am ei ymrwymiad i mi.

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma hefyd i ddiolch i’m hasiant, Derwyn Jones, sydd wedi fy nghefnogi a’n hannog ers pan o’n i’n ifanc iawn – ac sydd bob amser wedi edrych ar ôl fy muddiannau.”