Darren Millar - am ymchwilio
Fe fydd pwyllgor yn y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru benderfynu bod dau gyngor sir wedi torri’r gyfraith tros becyn cyflog a phensiwn i’w prif weithredwyr.

Ac mae’r archwiliwr wedi tynnu sylw Heddlu Dyfed Powys at y ddau adroddiad sy’n cael eu cyhoeddi heddiw.

Mae’r Swyddfa’n dweud bod  y ddau gyngor wedi gweithredu’n anghyfreithlon trwy roi arian parod i brif swyddogion yn hytrach na thalu i mewn i’w potiau pensiwn.

Roedd hynny’n caniatáu i’r ddau  optio allan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac yn eu digolledu am daliadau treth posib.

Yn ôl yr archwilydd, does gan gynghorau ddim hawl i wneud y fath daliadau o dan yr amoodau ar y pryd.

Roedd £27,000 wedi ei dalu fel hyn i Brif Weithredwr Cyngor Sir Gâr, Mark James, a mwy na £51,000 i Brif Weithredwr Cyngor Sir Benfro, Bryn Parry Jones, ac un swyddog arall.

Y beirniadu

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad fod y ddau gyngor wedi “syrthio ymhell islaw” y safonau y dylai pobol eu disgwyl ac fe ddywedodd y byddai’r pwyllgor yn ystyried y ddau achos.

“Mae canfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru yn peri pryder mawr, ac yn codi ar adeg y mae gwasanaethau rheng flaen o dan fygythiad, gyda staff gwerthfawr a gweithgar yn y sector cyhoeddus yn wynebu’r posibilrwydd o golli eu swyddi neu rewi cyflogau yn y tymor hir,” meddai.

“Nawr yn fwy nag erioed, dylai uwch-reolwyr fod yn arwain drwy osod esiampl a thrwy gael gwerth llawn o bob punt o arian cyhoeddus sy’n cael eu gwario.”

‘Diwrnod du iawn’

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ei bod hi’n “ddiwrnod du iawn i Sir Gaerfyrddin, yn ddiwrnod du i ddemocratiaeth”.

Ychwanegodd:  “Mae Plaid Cymru wedi gweithio’n galed dros y flwyddyn ddiwethaf i gyflwyno mwy o atebolrwydd mewn pecynnau cydnabyddiaeth i  brif weithredwyr awdurdodau lleol ac mae wedi bod yn llwyddiannus wrth i gyflogau gael eu craffu gan y bwrdd taliadau annibynnol.

“ Nawr, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gael gafael ar y sefyllfa.”

‘Pryder mawr’

Dywedodd Peter Black,  llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru dros lywodraeth leol:

“”Mae’r ffaith bod cynghorau Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin gweithredu’n anghyfreithlon yn achosi pryder mawr.

“Mae angen i bobl gael ffydd bod eu trethi yn cael ei wario yn gywir. Mae’n hanfodol bod y ddau gyngor yn cywiro’r sefyllfa hon ar frys.”

Manylion y ddau achos

Cyngor Sir Benfro

Oherwydd y cynllun, amcangyfrif y bydd cyfanswm o £51,011 wedi cael ei dalu i Brif Weithredwr Cyngor Sir Benfro ac un swyddog arall, erbyn diwedd Mawrth 2014.

Meddai Anthony Barrett bod y cyngor wedi “gweithredu’n anghyfreithlon ac mae angen diddymu ei benderfyniad ynghylch pensiynau ac atal unrhyw daliadau pellach i uwch swyddogion”.

Cyngor Sir Gaerfyrddin

Yn Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â’r taliadau anghyfreithlon, mae’r archwilydd wedi amau proses y cyngor wrth wneud y penderfyniad.

Doedd y mater ddim wedi ei roi yn iawn ar yr agenda, meddai’r adroddiad, a doedd dim posib i aelodau’r cyhoedd ei archwilio.

Ar ben hynny, roedd yr adroddiad i’r Bwrdd Gweithredol wedi ei lunio gan uwch-swyddog a oedd yn gymwys i elwa o’r trefniant.

Er bod y cyngor yno wedi atal y taliadau erbyn hyn, yr amcangyfri bod dros £27,000 wedi cael ei dalu i’r Prif Weithredwr ers 2012.