Sam Warburton yn lliwiau'r Gleision
Fe allai capten rygbi Cymru fod heb ranbarth i chwarae iddo ar ôl arwyddo cytundeb canolog gydag Undeb Rygbi Cymru.

Mae’r corff sy’n cynrychioli pedwar rhanbarth Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn condemnio’r Undeb yn hallt am benderfyniad “rhyfedd”.

Maen nhw’n dweud bod penderfyniad yr Undeb i roi cytundeb canolog i Sam Warburton o’r Gleision yn mynd ar draws trafodaethau oedd ar droed rhwng y ddwy ochr.

Heb gytundeb cyffredinol gyda’r holl ranbarthau, medden nhw mewn datganiad yn hwyr neithiwr, does dim trefniant i roi gêmau i chwaraewyr ar gytundeb canolog.

Maen nhw’n dadlau eu bod ynghanol trafod cytundeb o’r fath pan ddaeth cyhoeddiad yr undeb am Sam Warburton.

‘Angen trefn’

Dyw un cytundeb canolog ddim yn datrys problemau 200 o chwaraewyr proffesiynol, medden nhw, ac mae mewn peryg o chwalu’r berthnas yn y rhanbarthau.

Y prif angen, meddai datganiad y rhanbarthau yw cael trefn ar gystadlaethau’r tymor nesa’ er mwyn bwrw ymlaen gyda chynlluniau masnachol.

Mae hynny oherwydd anghydfod rhwng y rhanbarthau a’r undeb tros ddyfodol cystadlaethau fel Cwpan Heineken.

Barn yr Undeb

Yn ôl yr Undeb, mae cytundeb canolog yn cynnig dyfodol newydd i’r gêm yng Nghymru ac yn ffordd o sicrhau bod rhai o’r chwaraewyr gorau’n aros yn y wlad.

Mae Sam Warburton ei hun wedi cyhoeddi datganiad hefyd yn dweud ei fod yn rhagweld y bydd rhagor o chwaraewyr yn arwyddo cytundebau o’r fath.