Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynnal ymchwiliad ar ôl i weddillion corff gael eu darganfod ar draeth yn Sir Benfro.

Daeth cerddwr o hyd i’r gweddillion ar draeth Amroth, ger Dinbych-y-Pysgod, ddydd Sul.

Mae’n ymddangos fod gên, a chwe dant yn sownd ynddo, ymysg y gweddillion.

Dywedodd Inspector Carl Roach o Heddlu Dyfed Powys: “Fe allaf gadarnhau fod gweddillion corff wedi cael eu darganfod yn Amroth.

“Mae ymchwil yn cael ei gynnal i geisio darganfod i bwy maen nhw’n perthyn – ar y funud rydym ni’n cadw meddwl agored.”