Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddion



Diogelu capeli hanesyddol y Wladfa

Mawrth 6, 2011 17:37

Fe fydd dyfodol hyd at 15 o gapeli Cymreig ym Mhatagonia’n cael ei ddiogelu yn sgil cytundeb a gafodd ei arwyddo dydd Iau.

Mae llywodraeth talaith Chubut wedi ymrwymo arian i alluogi Undeb Eglwysi Rhyddion y Wladfa a Chymdeithas Cwm Hyfryd i wneud gwaith atgyweirio ac ehangu capeli yn y Gaiman, Trelew, Dolavon, Trevelin ac Esquel.

Amcangyfrifir y bydd cyfanswm y gwaith yn costio tua dwy filiwn a hanner o pesos yr Ariannin (tua £380,000).

“Mae’r holl gapeli yma’n cael eu hystyried yn adeiladau hanesyddol yn Nhalaith Chubut,” meddai Luned Gonzales o’r Gaiman, sy’n or-wyres i Michael D Jones, sylfaenydd y Wladfa.

“Mae treigl y blynyddoedd wedi gadael ei ôl ar y capeli, ac mae arnynt angen gwahanol raddau o atgyweirio,” esboniodd.

Yn ogystal, mae un capel, Seion Bryn Gwyn ger y Gaiman, wrthi’n cael ei atgyweirio’n barod gydag arian o goffrau llywodraeth Buenos Aires gan ei fod ar restr adeiladau hanesyddol cenedlaethol.

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nan Hughes , Mawrth 7, 2011 2:14 pm

Balch iawn o glywed fod llywodraeth yr Arianin am roi arian i gadw capeli’r Wladfa.
Tybed a fyddai yn bosib i ni yng Nghymru wneud rhywbeth i gadw rhai on capeli ni yma?
Tristwch mawr i mi yw gweld golwg mor dorcalonus ar Gapel Tom Nefin yn y Pistyll.
Wrth gwrs gwiriondeb yw ei cadw i gyd llawer gwell fyddai i ni gadw un ym mhob Pentref, dyna fasa Calon y Gymuned.
Nid yr ysgolion, byddai’r holl gymuned wedyn yn cymysgu ai gilidd or plant ieuengaf ir oedolyn hynaf

§

Tegid Roberts , Mawrth 7, 2011 4:08 pm

Fel un gafodd y fraint o wasanaethu fel Gweinidog Cymraeg o Sul i Sul rhwng Medi 2009 ac Awst 2010 yng nghapeli Dyffryn Camwy ac yn ysbeidiol yng Nghwm Hyfryd, mae’r newydd hwn o Undeb Eglwysi Rhyddion y Wladfa yn un calonogol dros ben ac i’w groesawu. Da fyddai cael gweinidog Cymraeg ei iaith o Gymru i dreulio blwyddyn yn gwasanaethu’r capeli hyn a’u cynulleidfaoedd teyrngar a ffyddlon. Byddai’n derbyn croeso mawr.

§

Tegid Roberts , Mawrth 7, 2011 4:17 pm

Fel un a gafodd y fraint o wasanaethu fel y Gweinidog Cymraeg o Sul i Sul rhwng mis Medi 2009 a mis Awst 2010 yn nghapeli Dyffryn Camwy ac ambell dro yng Nghwm Hyfryd, mae’r newydd da hwn gan Undeb Eglwysi Rhyddion y Wladfa i’w groesawu. Llongyfarchiadau i’r Undeb am sicrhau’r cytundeb hanesyddol hwn. Da fyddai cael rhywun o blith gweinidogion Cymraeg ein Cymru fach ni i fynd draw i Chubut i gael profiad bythgofiiadwy ac ysbrydoledig fel yr un a gefais i. Byddai croeso mawr yn aros y gweinidog hwnnw neu honno.

§

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.