Mae llythyr agored gan ymgyrchwyr sy’n ceisio denu S4C i Gaerfyrddin wedi cael ei lofnodi gan fwy na 1,000 o bobol erbyn hyn.

Yn y llythyr at Awdurdod S4C, mae ymgyrchwyr Yr Egin wedi amlinellu manteision symud pencadlys y darlledwr i’r de orllewin.

Mae Caerfyrddin yn un o dri lle sydd o dan ystyriaeth, ynghyd â’r safle presennol yng Nghaerdydd a’r Galeri yng Nghaernarfon.

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sy’n cydlynu’r ymgyrch yn y de orllewin.

Dywed ymgyrchwyr Yr Egin y byddai denu S4C i’r dref yn ei rhoi ar y map.

Maen nhw’n dadlau hefyd y byddai symud i Gaerfyrddin yn “fodd o gynnal hunaniaeth y Sianel yn yr hir dymor” ac y byddai’n “sbardun ar gyfer adfywiad ieithyddol” yn yr ardal, yn dilyn canlyniadau siomedig yn y Cyfrifiad diwethaf.

Bellach, dydy’r rhan fwyaf o bobol y sir ddim yn siarad Cymraeg – y tro cyntaf i hynny ddigwydd erioed.

Dywed y llythyr: “Mae’n amlwg fod ei chynnal a’i hyrwyddo fel iaith fyw yn y rhan hon o Gymru yn gwbl hanfodol i unrhyw strategaeth iaith genedlaethol….

“Byddai S4C yn gatalydd economaidd sylweddol yn yr ardal gan greu swyddi o’r newydd a microfusnesau mewn meysydd megis y diwydiannau creadigol.”

Ychwanegodd y llythyr y byddai’n cynnig cyfleoedd am brofiad gwaith i fyfyrwyr y brifysgol.

Mae’r llythyr yn cloi trwy ddweud mai “Sir Gaerfyrddin a fyddai’n sicrhau’r impact mwyaf ar Gymru a’i chymdeithas”.

Pe bai’r Egin yn llwyddo i ddenu’r pencadlys i Gaerfyrddin, fe fyddai gan y darlledwr gartref newydd mewn adeilad pwrpasol gwerth £8.5 miliwn.

Roedd ychydig gannoedd o bobol yn y cyfarfod cyhoeddus i drafod y cynlluniau ganol mis diwethaf.

Mae modd gweld y llythyr trwy fynd i http://yregin.org/?lang=cy